Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Mai a Mehefin 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Mae ffigurau’r ar gyfer Damweiniau ac Achosion Brys y mis hwn yn cynnwys dim ond y wybodaeth lefel uchel yn ôl safle ysbyty. Oherwydd problemau technegol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrth brosesu a dilysu’r data, ni ellir cynnwys gwybodaeth fwy manwl y mis hwn. Mae hyn yn cynnwys presenoldebau yn ôl oedran, y canolrif o amser a dreuliwyd yn yr adran, a chanlyniad y presenoldeb. Gan fod y prosesu a’r ddilysu wedi eu cynnal mewn ffordd wahanol, gall y ffigurau a gyhoeddwyd ei ddiwygio unwaith mae’r prosesu arferol wedi ailddechrau. Rydym yn disgwyl y bydd hyn yn digwydd mis nesaf. 

Gofal heb ei drefnu

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn is ym mis Mehefin. Gostyngodd canran y cleifion sy'n treulio llai na 4 awr yno ychydig, a gostyngodd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yno hefyd.

Arhosodd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans yr un fath ag yr oedd ym mis Mai 2019. Fe wnaeth canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud gwrdd â’r targed, ac roedd yn uwch nag ym mis Mai 2019.

Gostyngodd yr amser cyfartalog ar gyfer ymateb i alwadau brys ym mis Mehefin.

Cynyddodd nifer y trosglwyddiadau gofal hwyr ym mis Mehefin.

Gofal wedi’i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig a therapi yn uwch ym mis Mai ond roedd yr amser aros cyfartalog wedi gostwng ar gyfer y ddau.

Roedd perfformiad rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gwaethygu gyda gostyngiad yng nghanran y cleifion a wnaeth aros llai na’r 26 wythnos a chynnydd yn nifer y cleifion a wnaeth aros mwy na 36 wythnos. Roedd yr amser aros yn uwch hefyd.

Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi gostwng ar gyfer cleifion ar y llwybr brys ac wedi cynyddu rhywfaint ar gyfer cleifion nad oeddent ar y llwybr brys.

Roedd perfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi gwella.

Adroddiadau

Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG: Mai a Mehefin 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 513 KB

PDF
513 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.