Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o ddata perfformiad a gweithgarwch GIG Cymru.

Darperir data newydd ar alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans, nifer y bobl sy’n mynd i adrannau achosion brys a’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty o adrannau achosion brys mawr ar gyfer mis Tachwedd 2021.

Darperir data newydd sy’n ymwneud ag atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth (gan gynnwys llwybrau cleifion caeedig a llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth), yn ogystal â chleifion sydd wedi dechrau cael eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar gyfer canser yn ystod mis Hydref 2021.

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru, ac ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol.

Mae’r data yn y datganiad ystadegol hwn yn cynnwys cyfnod pandemig y coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai o wasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig, ac ar ddewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Sylw’r ystadegydd

Ym mis Tachwedd, roedd llai o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans a llai o ymweliadau ag adrannau brys. Fodd bynnag, roedd 1 o bob 10 galwad i’r gwasanaeth ambiwlans yn alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol, y nifer uchaf erioed.

Roedd y perfformiad o’i gymharu â’r targed ymateb 8 munud ar gyfer ambiwlansys wedi gwella am y tro cyntaf ers mis Chwefror 2021. Roedd perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr ar gyfer yr adrannau achosion brys hefyd wedi gwella’n gymedrol, yn dilyn y perfformiad gwaethaf erioed ym mis Hydref 2021. Roedd yr amser cyfartalog a dreuliwyd mewn adrannau achosion brys yn dal yn uchel, sef ychydig o dan dair awr.

Mae data mis Hydref yn dangos bod nifer y bobl sy’n aros am driniaethau gofal wedi’u trefnu yn parhau i gynyddu, gyda’r perfformiad yn erbyn y ddau darged amseroedd aros yn gostwng rhywfaint. Fodd bynnag, cafodd nifer uwch o lwybrau cleifion eu cau fesul diwrnod gwaith nag yn y mis blaenorol. Roedd y perfformiad o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ar gyfer canser wedi cynyddu wrth i’r gweithgarwch ostwng, gyda llai o bobl yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf.

Prif bwyntiau

  • Ym mis Tachwedd 2021, roedd 128 o alwadau (‘coch’) lle’r oedd bywyd yn y fantol bob dydd ar gyfartaledd. Dyma’r trydydd ffigur uchaf ers i ddata cymaradwy fod ar gael am y tro cyntaf ym mis Mai 2019, a’r chweched mis yn olynol lle’r oedd mwy na 100 galwad y diwrnod ar gyfartaledd.
  • Roedd canran y galwadau coch a gafodd ymateb o fewn 8 munud yn 53.0% ym mis Tachwedd 2021, i fyny 3.0 pwynt canran ers y mis blaenorol.
  • Yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol (coch) oedd 7 munud a 35 eiliad, 26 eiliad yn gynt nag ym mis Hydref.
  • Mae nifer cyfartalog yr ymweliadau ag adrannau achosion brys wedi gostwng 2.6% ers y mis blaenorol.
  • Roedd perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr wedi gwella’n gymedrol ers y perfformiad gwaethaf erioed ym mis Hydref 2021.
  • Gostyngodd yr amser cyfartalog (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau achosion brys ym mis Tachwedd i 2 awr a 56 munud. Fodd bynnag, dyma’r trydydd amser hiraf ers dechrau casglu data cymaradwy ym mis Ebrill 2012.
  • Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am brofion diagnostig yn dal yn sylweddol uwch na chyn i’r pandemig ddechrau. Cynyddodd rywfaint ym mis Hydref 2021, o’i gymharu â’r mis blaenorol. Fodd bynnag, gostyngodd y nifer a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed.
  • Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am therapïau wedi cynyddu bob mis yn 2021, a dyma'r nifer mwyaf ers mis Awst 2017. Mae’r targed perfformiad 14 wythnos yn dal i gael ei fethu.
  • Gwelwyd cynnydd bob mis ers mis Ebrill 2020 yng nghyfanswm y llwybrau cleifion a atgyfeiriwyd ond a oedd yn aros i ddechrau triniaeth. Ym mis Hydref 2021, roedd dros 680,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth – y ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy yn 2011.
  • Mae nifer y llwybrau sy’n cau yn ystod y mis wedi bod ar gynnydd ers mis Ebrill 2020, gydag amrywiadau o fis i fis. Fodd bynnag, roedd ychydig llai na 69,000 o lwybrau’n cael eu cau ym mis Hydref 2021, sy’n ostyngiad ers y mis blaenorol.
  • Mae COVID-19 wedi cael effaith amlwg ar berfformiad yn erbyn y ddau darged atgyfeirio am driniaeth. Mae nifer y llwybrau sy’n aros am fwy na 36 wythnos wedi cynyddu rhywfaint ers y mis blaenorol ac roedd gostyngiad bychan yng nghanran y llwybrau cleifion a oedd yn aros am lai na 26 wythnos o’i gymharu â’r mis blaenorol.
  • Bu gostyngiad yn nifer y cleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o’i gymharu â’r mis blaenorol.
  • Roedd nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd canser arnynt wedi gostwng ar y mis blaenorol.
  • Roedd y perfformiad ar gyfer y targed canser 62 diwrnod wedi cynyddu gyda 59.6% o gleifion yn dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis o fewn yr amser targed.

Gofal heb ei drefnu

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Gweithgarwch

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch yn deg cyn hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cyn y pandemig, roedd cyfanswm nifer y galwadau brys i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n raddol dros y tymor hir, ond gostyngodd y nifer ar ddechrau’r pandemig. Fodd bynnag, ers mis Chwefror 2021, maent wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol.

Ym mis Tachwedd 2021, gwnaethpwyd dros 38,500 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Mae hyn yn gyfartaledd o 1,285 galwad y dydd, sef: 116 (8.3%) yn llai o alwadau bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol ond 52 (4.2%) yn fwy o alwadau bob dydd ar gyfartaledd na’r un mis y llynedd.

Tachwedd 2021 oedd y chweched mis yn olynol lle’r oedd dros 100 o alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol bob dydd ar gyfartaledd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau coch, ambr neu wyrdd yn dibynnu ar pa mor frys yw’r alwad. Ym mis Tachwedd 2021, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol (galwadau coch) yn 10.0%, i fyny o 9.5% ym mis Hydref 2021, a'r ganran fisol uchaf o alwadau coch ers mis Mai 2019, sef y tro cyntaf i ddata cymaradwy am alwadau coch fod ar gael.

Targed

  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly nid yw’r perfformiad yn erbyn y targed ar ôl y dyddiad hwn, a’r perfformiad cyn y dyddiad hwn, yn gallu cael eu cymharu’n deg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Gyda phandemig COVID-19 yn parhau, mae’n rhaid i dimau ymateb i argyfwng gyflawni camau ychwanegol, gan gynnwys gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol, ac mae hynny’n debygol o effeithio ar ba mor gyflym y gallant ymateb i alwad.

Mae’r perfformiad yn erbyn y targed galwadau coch wedi bod yn gymysg dros gyfnod COVID-19. Llwyddwyd i gyrraedd y targed ym mhob mis rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020; fodd bynnag, mae’r perfformiad wedi gostwng ers hynny, ac ni lwyddwyd i gyrraedd y targed yn y 16 mis diwethaf.

Ym mis Tachwedd 2021, cyrhaeddwyd 53.0% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Mae hyn 3.0 pwynt canran yn uwch nag yn y mis diwethaf, ond 6.5 pwynt canran yn is na mis Tachwedd 2020.

Mae dadansoddi’r amseroedd ymateb cyfartalog yn rhoi cyd-destun ehangach i ddata perfformiad. Mae canolrif yr amser ymateb yn amrywio o fis i fis, ond dros y pedair blynedd cyn y pandemig, roedd yn tueddu i amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Fodd bynnag, mae wedi bod dros 6 munud ym mhob mis ers mis Awst 2020, gan gyrraedd 8 munud 1 eiliad ym mis Hydref 2021. Ym mis Tachwedd 2021, canolrif yr amser aros ar gyfer galwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol (galwadau coch) oedd 7 munud a 35 eiliad. Mae hyn 26 eiliad yn gynt nag ym mis Hydref 2021, ond yn 39 eiliad yn arafach nag ym mis Tachwedd 2020.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ambr. Nid oes targed yn gysylltiedig ag amseroedd ymateb ar gyfer galwadau ambr, ond mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos mai ychydig dros awr ac wyth munud oedd canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau ambr ym mis Tachwedd 2021. Mae hyn bron i 37 munud yn gyflymach nag ym mis Hydref 2021, ond bron i 22 munud yn arafach nag ym mis Tachwedd 2020.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Yn y datganiad ystadegol hwn, mae ‘adran achosion brys’ yn cyfeirio at y niferoedd sy’n ymweld ac yn cael eu derbyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ac unedau mân anafiadau, oni nodir yn wahanol.

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli. Mae hyn yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â rhywun sy’n gwneud penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys. Mae’r rhain yn cael eu diweddaru bob mis ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad Ystadegau Gwladol hwn.

Diffinnir ymweliad newydd fel ymweliad cyntaf claf i adran achosion brys ar gyfer anaf neu anhwylder penodol. Os bydd claf yn dychwelyd i adran achosion brys gyda chyflwr a oedd yn cael ei drin yn flaenorol lle na ofynnwyd iddo ddychwelyd gan y clinigydd, bydd hyn hefyd yn cael ei gyfrif fel ymweliad newydd. Mae hyn yn golygu bod y data a gyflwynir ar gyfer ymweliadau ac nid yw’n gyfrif unigol o gleifion sy’n mynd i adrannau brys.

Mae’r amser a dreulir mewn cyfleuster gofal brys yn dechrau pan fydd y cyfleuster gofal brys yn cael gwybod bod y claf wedi cyrraedd yr ysbyty, ac mae'n stopio pan fydd y claf yn cael ei dderbyn, ei drosglwyddo neu ei ryddhau.

Gweithgarwch

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Sylwer: Mae Siart 3 yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig. Nid yw derbyniadau i ysbyty o unedau mân anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru, ac felly nid ydynt yn cael eu cyfrif yn y siart hwn.

Er bod ymweliadau ag adrannau achosion brys yn amrywio o fis i fis, mae nifer yr ymweliadau’n uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf.

Mae pandemig COVID-19, a oedd wedi dechrau yn gynnar yn 2020, wedi effeithio ar yr ymweliadau â holl adrannau achosion brys GIG Cymru. Gwelwyd gostyngiadau sydyn yn nifer yr ymweliadau ym misoedd y gwanwyn a’r gaeaf, sy’n cyd-fynd â thonnau’r pandemig. Mae ymweliadau wedi cynyddu’n sylweddol ers mis Chwefror 2021.

Mae’r data diweddaraf yn dangos y bu dros 80,500 o ymweliadau â holl adrannau achosion brys GIG Cymru ym mis Tachwedd 2021. Roedd hyn 5.7% yn is na’r mis blaenorol (4,867 yn llai o ymweliadau), ond 25.6% yn uwch na’r un mis y llynedd (16,386 yn fwy o ymweliadau).

Ar gyfartaledd, bu 2,684 o ymweliadau ag adrannau achosion brys bob dydd ym mis Tachwedd 2021. Roedd hyn 70 yn llai o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd na'r mis blaenorol, ond 546 yn fwy nag yn yr un mis yn 2020.

Roedd cyfanswm nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys yn ystod y flwyddyn hyd at fis Tachwedd 2021 dros 942,000. Mae hyn 12.7% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben ym mis Tachwedd 2020), ond 11.9% yn is na’r cyfnod blaenorol o 12 mis cyn y pandemig (mis Mawrth 2019 i fis Chwefror 2020).

Mae’r duedd o ran derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn debyg i’r duedd ar gyfer ymweliadau â phob adran achosion brys ers y pandemig.

Ym mis Tachwedd 2021, derbyniwyd 14,800 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn: 4.8% yn is na’r mis blaenorol, ond 8.7% yn uwch na’r un mis yn 2020.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r data ar gyfer pob mis rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021 wedi’i newid ar ôl ailgyflwyno data. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Yn ystod y pum mlynedd cyn y pandemig, roedd canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr o gyrraedd adran achosion brys wedi amrywio o fis i fis, ond roedd yn tueddu i fod yn agos at 80%. Ond, yn ystod y flwyddyn cyn pandemig COVID-19, roedd y ganran hon wedi gostwng yn y rhan fwyaf o fisoedd, gan gyrraedd y pwynt isaf ym mis Rhagfyr 2019, cyn dechrau cynyddu ym misoedd cynnar 2020.

Yn ystod misoedd cynnar y pandemig, roedd perfformiad yn erbyn yr amser targed 4 awr wedi gwella, gan gyrraedd uchafbwynt o 87.7% ym mis Mai 2020. Ers hynny, bu tuedd tuag i lawr yn gyffredinol, ac ym mis Hydref 2021 roedd y perfformiad misol ar ei lefel isaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu cofnodi ym mis Ebrill 2012.

Mae data’r mis diwethaf yn dangos fod 67.6% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn 1.7 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol, ond 8.1 pwynt canran yn is na’r un mis yn 2020. Nid yw’r targed o 95% yn cael ei gyflawni o hyd.

Mae’r wybodaeth gyd-destunol yn dangos bod canolrif yr amser y mae cleifion yn ei dreulio mewn adrannau achosion brys wedi cynyddu’n raddol, o lai na 2 awr yn y rhan fwyaf o fisoedd yn 2012 a 2013 i tua 2 awr a 30 munud drwy gydol 2019, cyn pandemig COVID-19.

Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ochr yn ochr â mwy o ymweliadau, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed ym mis Hydref 2021.

Ym mis Tachwedd 2021, canolrif yr amser a dreuliwyd mewn adran oedd 2 awr 56 munud. Roedd hyn wedi gostwng o 3 awr 3 munud ers y mis blaenorol, ond roedd i fyny o 2 awr 29 munud ym mis Tachwedd 2020.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, yn gyffredinol roedd plant yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, a chleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr mewn adrannau achosion brys yn gyffredinol. Fodd bynnag, ym mis Tachwedd 2021, treuliodd plant 0-4 oed 2 awr a 24 munud ar gyfartaledd mewn adrannau achosion brys, a threuliodd oedolion 85 oed a hŷn 7 awr a 18 munud ar gyfartaledd.

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r data ar gyfer pob mis rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021 wedi’i newid ar ôl ailgyflwyno data. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Mae nifer y cleifion a dreuliodd 12 awr neu fwy yn un o adrannau achosion brys y GIG, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau yn amrywio o fis i fis, ond roedd wedi bod ar gynnydd yn gyffredinol cyn pandemig COVID-19.

Ym mis Ionawr 2020, ychydig cyn y pandemig, ychydig llai na 7,000 o gleifion oedd wedi treulio 12 awr neu fwy mewn adrannau achosion brys. Gostyngodd hyn i lai na 500 ym mis Ebrill 2020, yn ystod camau cynnar pandemig COVID-19. Ers y pwynt isaf hwnnw, mae’r nifer sy’n treulio 12 awr neu fwy wedi cynyddu’n gyffredinol ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed ym mis Hydref 2021. Ym mis Tachwedd 2021, roedd ychydig dros 8,800 o gleifion, gostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol, ond dyma’r ail ffigur uchaf erioed ers dechrau cofnodi ym mis Ebrill 2012.

Gofal wedi’i drefnu

Yn y rhan fwyaf o setiau data ar gyfer gofal wedi’i drefnu, mae gweithgarwch a pherfformiad yn cael eu mesur drwy gyfrif llwybrau cleifion. Dyma’r llwybr penodol y mae claf yn ei ddilyn o’i atgyfeiriad cyntaf nes bydd yn dechrau ar driniaeth. Gall amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol wneud atgyfeiriadau, ond gan amlaf maent yn dod drwy feddygon teulu. Llwybrau cleifion sy’n cael eu mesur yn hytrach na chleifion, gan fod un claf yn gallu cael nifer o atgyfeiriadau ar gyfer nifer o lwybrau. Felly, mae cyfri llwybrau yn adlewyrchu’n well y gweithgarwch yng ngwasanaethau’r GIG.

Atgyfeiriadau Cleifion Allanol

Gweithgarwch

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar StatsCymru

Bu gostyngiad mawr yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ym mis Mawrth 2020, ar ôl dechrau pandemig COVID-19. Mae’r gweithgarwch wedi cynyddu yn y misoedd ers hynny ond nid yw wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig eto.

Ar gyfartaledd, roedd 3,267 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Hydref 2021. Mae hyn yn ostyngiad o 9.1% (327 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Medi 2021 a gostyngiad o 18.6% (749 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Hydref 2019.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi (DATS)

Gweithgarwch

Image
Mae Siart 7 yn dangos cyfanswm y cleifion sy’n aros mwy na’r amser targed ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapi fesul mis. Pandemig y coronafeirws (COVID-19) sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg o fis Mawrth 2020. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn. Er mwyn darparu graddfa debygol yr effaith, roedd data ar gyfer Betsi Cadwaladr yn y ddau fis bob ochr yn dangos bod 7,519 yn aros am therapïau ym mis Mawrth 2020 a bod 9,840 yn aros ym mis Mai 2020.

Cyn pandemig COVID-19, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros am brofion diagnostig wedi bod ar gynnydd, ac roedd y nifer a oedd yn aros am therapïau wedi bod yn gostwng.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2021 yn dangos bod ychydig dros 106,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, cynnydd o 2.1% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Mae nifer y llwybrau sy’n aros am brofion diagnostig yn is na’r cyfnod brig ym mis Medi 2020 ond mae wedi bod yn weddol sefydlog yn ystod y pedwar mis diwethaf.

Mae nifer y llwybrau sy’n aros am brofion diagnostig yn y mis diweddaraf 45.2% yn uwch na’r mis cyfatebol cyn y pandemig (mis Hydref 2019).

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2021 yn dangos bod ychydig dros 56,000 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, cynnydd o 2.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Yn dilyn y nifer isaf erioed ym mis Ebrill 2020, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros am therapïau’n gymharol gyson am weddill misoedd 2020, ond roedd wedi cynyddu i’w lefel uchaf erioed ym mis Hydref 2021 (mis Awst 2017 yn flaenorol).

Mae nifer y llwybrau sy’n aros am therapïau yn y mis diweddaraf 25.7% yn uwch na’r mis cyfatebol cyn y pandemig (mis Hydref 2019).

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y nifer sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Sylwer: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith amlwg ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros yn hwy na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ym mis Mai 2020 cafwyd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer profion diagnostig. Roedd y duedd o’r pwynt uchel hwn ar i lawr tan fis Ebrill 2021, ond mae’r nifer wedi cynyddu yn ystod y rhan fwyaf o'r misoedd ers hynny.

Ddiwedd mis Hydref 2021, roedd dros 47,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed. Roedd hyn yn ostyngiad o 2.2% o’i gymharu â’r mis blaenorol, a bron i ddeuddeg gwaith yn fwy na’r mis cyfatebol cyn y pandemig (mis Hydref 2019).

Ym mis Mehefin 2020 cafwyd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer profion diagnostig. Roedd y duedd o’r pwynt uchel hwn ar i lawr tan fis Mai 2021, fodd bynnag mae’r nifer wedi cynyddu bob mis ers hynny. Ddiwedd mis Hydref 2021, roedd 7,334 o lwybrau cleifion yn aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer therapïau. Mae hyn yn gynnydd o 26.5% o’i gymharu â mis Medi 2021 ac un deg naw gwaith yn fwy na’r un mis cyn y pandemig (Hydref 2019).

Hyd at bandemig COVID-19, mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos bod canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018. Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Mehefin 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Hydref 2021, 6.5 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig. Roedd hyn wedi gostwng o 7.1 wythnos ym mis Hydref 2021 ond wedi cynyddu o 2.6 wythnos ym mis Hydref 2019.

Ym mis Hydref 2021, 5.3 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi. Mae hyn wedi cynyddu o 5.2 wythnos ym mis Hydref 2021 a 3.3 wythnos ym mis Hydref 2019.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG yng Nghymru.

Nid yw data am drigolion o Gymru sydd wedi cael eu trin neu sy’n aros am driniaeth y tu allan i Gymru wedi cael eu cynnwys.

Yn ôl y diffiniad, bydd claf wedi cael ei drin neu bydd ei lwybr wedi’i gau ar ôl iddo gael ymgynghoriad ag arbenigwr mewn ysbyty a bernir nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty arno neu pan fydd y driniaeth yn dechrau. Gallai hyn gynnwys:

  • cael ei dderbyn i’r ysbyty am lawdriniaeth neu driniaeth
  • dechrau triniaeth ond nad oes angen aros yn yr ysbyty (er enghraifft, meddyginiaeth neu ffisiotherapi)
  • dechrau gosod dyfais feddygol megis bresys coes
  • dechrau cyfnod o amser y cytunwyd arno i fonitro cyflwr y claf i weld a oes angen triniaeth bellach

Mae COVID-19 wedi effeithio ar y ffordd mae triniaethau’n cael eu cynnig. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

At ddibenion rhyddhau, diffinnir y diwrnod atgyfeirio fel y diwrnod y mae’r ysbyty’n derbyn y llythyr cyfeirio.

Gweithgarwch

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros ers mis Mawrth 2020.

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Cyn pandemig COVID-19, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth fel arfer yn amrywio bob mis ac yn tueddu i fod ar ei uchaf ddiwedd yr haf ac ar ei isaf ym mis Ionawr.

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar gyfanswm nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, gyda’r nifer yn cynyddu’n raddol bob mis ers mis Ebrill 2020, gan gyrraedd bron i 680,000 erbyn diwedd mis Hydref 2021. Dyma’r ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy yn 2011.

Roedd y nifer a oedd yn aros ym mis Hydref 2021 1.6% yn uwch na’r mis blaenorol, a 45.4% yn uwch nag yn yr un mis cyn y pandemig (mis Hydref 2019).

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwer: Nid yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gallu darparu data llwybrau sydd wedi cau ers mis Medi 2018. Mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn wedi’u heithrio o gyfanswm Cymru yn y siart er mwyn ei gwneud hi’n bosibl dadansoddi tueddiadau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau yn amrywio’n sylweddol o fis i fis ac yn tueddu i fod yn is ym mis Ebrill a mis Rhagfyr, ond mae’r niferoedd wedi aros yn weddol agos at 80,000 y mis dros y 3 blynedd diwethaf, cyn pandemig COVID-19.

Ar ddechrau’r pandemig, cafwyd gostyngiad sydyn yn nifer y llwybrau a gafodd eu cau, gyda’r nifer lleiaf erioed yn cael eu cau ym mis Ebrill 2020. Yn y rhan fwyaf o fisoedd ers hynny, mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau wedi cynyddu, ond nid yw wedi dychwelyd i’r lefel cyn COVID-19.

Cafodd bron i 69,000 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Hydref 2021. Mae hyn yn gyfartaledd o 3,274 o lwybrau cleifion wedi’u cau am bob diwrnod gwaith (ym mis Hydref, roedd 21 diwrnod gwaith). Mae hyn yn gynnydd o 3.1% o’i gymharu â mis Medi 2021, ond yn ostyngiad o 15.7% o’i gymharu â mis Hydref 2019.

Perfformiad

Targedau
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.

Yn ystod pandemig COVID-19, nid yw byrddau iechyd wedi cyflawni’r un lefel o ddilysu ar ddata perfformiad amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth ag yr oeddent yn flaenorol. Felly, dylid bod yn ofalus wrth gymharu ystadegau o fis Mawrth 2020 ymlaen â misoedd blaenorol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cyn pandemig COVID-19, roedd y perfformiad yn erbyn y ddau darged amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn weddol sefydlog rhwng 2016 a dechrau 2019, ond roedd wedi bod yn dirywio ers canol 2019.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Roedd canran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi disgyn ar ddechrau pandemig COVID-19, gan gyrraedd y lefel isaf erioed ym mis Medi 2020. Mae rhywfaint o duedd ar i fyny wedi bod yng nghanran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos ers hynny, ond mae’n dal yn is o lawer na’r cyfnod cyn y pandemig.

O blith y 680,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Hydref 2021, roedd 54.7% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos.

Mae hyn 0.2 pwynt canran yn is nag ym mis Medi 2021, a 30.2 pwynt canran yn is nag ym mis Hydref 2019.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Mae rhagor o wybodaeth am flaenoriaethu amseroedd aros yn glinigol ar gael yn ein hadran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau pandemig COVID-19. Roedd rhywfaint o ostyngiad rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Mawrth 2021, ond mae’r nifer wedi cynyddu ers hynny, ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed ym mis Awst 2021.

Ym mis Hydref 2021, roedd dros 242,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos o’r dyddiad y cafodd y llythyr atgyfeirio ei dderbyn gan yr ysbyty. Mae hyn yn cynrychioli 35.6% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth.

Mae hyn 1,795 (neu 0.7%) yn fwy nag ym mis Medi 2021, a bron i un ar ddeg gwaith yn fwy nag ym mis Hydref 2019.

Mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos mai canolrif amser aros llwybr claf i ddechrau triniaeth oedd oddeutu 10 wythnos yn gyffredinol rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020, ond mae wedi cynyddu ers pandemig COVID-19 ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ers hynny, mae’r amseroedd aros cyfartalog wedi gostwng yn y rhan fwyaf o fisoedd, ond maent yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Ym mis Hydref 2021, canolrif yr amser aros oedd 22.4 wythnos, cynnydd o 21.8 wythnos ym mis Medi 2021.

Gwasanaethau canser

Mae gwasanaethau canser wedi aros ar agor drwy gydol y pandemig ond maent wedi gorfod gweithredu ar lai o gapasiti.

Cafodd y targed ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser ei gyflwyno ar 18 Tachwedd 2020, ac mae’n berthnasol i bob claf sy’n cael ei drin ar y llwybr amheuaeth o ganser o 1 Rhagfyr 2020 ymlaen.

Cyhoeddir ‘nifer y cleifion sy’n ymuno â’r un llwybr canser’ ar StatsCymru. Casglwyd y data hyn yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd, gan ddefnyddio ffurflenni casglu data cyfanredol. Mae’r gwaith datblygu i gynnwys y data hyn fel rhan o’r broses o gasglu data canolog newydd gan ddefnyddio’r Adnodd Data Cenedlaethol drwy Iechyd a Gofal Digidol Cymru bron â dod i ben. Y gobaith yw y bydd data o’r ffynhonnell hon yn disodli’r ffurflenni casglu data cyfanredol a byddant yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf yn dilyn asesiad o ansawdd y data.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth allweddol am ansawdd.

Y llwybr amheuaeth o ganser (ystadegau arbrofol)

Mae llwybr amheuaeth o ganser yn dechrau pan fydd amheuaeth yn codi (er enghraifft pan fydd meddyg teulu’n gwneud atgyfeiriad) a dyma pryd mae’r amser aros a gofnodir yn dechrau. Bydd y llwybr yn cael ei gau, a’r amser aros yn dod i ben, os bydd y claf yn: dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf; yn cael gwybod nas oes canser arno, (yn cael ei israddio); yn dewis peidio â chael triniaeth; neu os bydd y claf yn marw.

Nid yw’r data yn cynnwys gohiriadau, ac am y rheswm hwn, ni ellir ond cymharu’r data â data a gasglwyd yn flaenorol am yr un llwybr canser ar gyfer nifer a chanran y cleifion sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod heb ohiriadau.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar ddata sy’n ymwneud â thri phrif ystadegyn ar y llwybr amheuaeth o ganser, sef:

  • nifer y cleifion sydd wedi cael gwybod nad oes canser arnynt
  • nifer y cleifion a gafodd eu trin a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf
  • nifer a chanran y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed sef 62 diwrnod (heb unrhyw ohiriadau)

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cyhoeddi gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ochr yn ochr â'r datganiad ystadegol hwn er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i weithgarwch a pherfformiad gwasanaethau canser yng Nghymru.

Gweithgarwch
Image
Siart yn dangos Nifer y cleifion a cael gwybod nad oes canser arnynt a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Cyn pandemig COVID-19, ar gyfartaledd roedd ychydig o dan 1,500 o gleifion yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf bob mis o’r adeg y cafodd data’r llwybr amheuaeth o ganser eu casglu am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2019. Gostyngodd y nifer hwn ar ddechrau’r pandemig i isafbwynt o 925 ym mis Mai 2020, ond mae wedi bod ar gynnydd yn gyffredinol ers hynny, ac yn ystod y misoedd diwethaf mae wedi bod yn gyson â’r lefelau gweithgarwch cyn y pandemig, neu’n uwch na hynny ar gyfer y misoedd cyfatebol yn 2019.

Ym mis Hydref 2021, dechreuodd 1,571 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Mae hyn yn ostyngiad o 1.8% o fis Medi 2021 ac yn ostyngiad o 0.9% o fis Hydref 2019.

Ym mis Hydref 2021, cafodd 11,168 o gleifion wybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 3.9% yn llai na mis Medi 2021.

Perfformiad
Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
Image
Siart yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth gyntaf o ganser godi yn y mis, fesul mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd) ar StatsCymru

Roedd canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf wedi gwella rhywfaint yn ystod ychydig fisoedd cyntaf y pandemig, gan gyrraedd uchafbwynt ym mis Gorffennaf 2020, pan oedd llai o gleifion yn ymuno â’r llwybr lle mae amheuaeth o ganser.

Ym mis Hydref 2021, roedd 59.6% o’r cleifion (937 allan o 1,571) a oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis, o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Mae hyn 0.6 pwynt canran yn uwch nag ym mis Medi 2021 ac yn hafal i’r ganran ym mis Hydref 2019.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Newidiadau i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Ar 1 Ebrill 2021, cafodd swyddogaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ei ddisodli gan sefydliad newydd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Cafodd ei greu i fwrw ymlaen â’r gwaith trawsnewid digidol, ac mae’n darparu’r dechnoleg a’r gwasanaethau data cenedlaethol sydd eu hangen ar gleifion a chlinigwyr. Maent yn gweithredu fel Awdurdod Iechyd Arbennig gyda Chadeirydd a Bwrdd annibynnol. Nid oes dim effaith wedi bod o ran ar y data a roddwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer y datganiad ystadegol hwn.

Ansawdd data yn ystod pandemig COVID-19

Yn ystod pandemig COVID-19 mae adnoddau ar draws holl sefydliadau’r GIG wedi cael eu hymestyn, gan gynnwys y rheini sy’n gyfrifol am gofnodi, prosesu a dilysu data. Mae hyn yn golygu efallai na fydd rhywfaint o’r data yn y datganiad ystadegol hwn wedi cael yr un gwiriadau dilysu trylwyr ag a fyddai wedi digwydd fel arfer cyn y pandemig. Er bod ansawdd y data a gyflwynwyd yn ystod y pandemig yn dda yn gyffredinol, mae rhai materion yn ymwneud ag ansawdd data penodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Nid oedd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer nifer y llwybrau a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Ebrill 2020. Mae hyn yn effeithio ar ddata perfformiad a gweithgarwch gwasanaethau diagnostig a therapi yn y mis hwnnw yn unig.
  • Nid oedd ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn gallu cyflwyno data monitro pwysedd gwaed, ecocardiogram a data is-arbenigedd rhythm y galon ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020.
  • Nid oedd ysbyty Tywysoges Cymru yn gallu cyflwyno data ymgynghorwyr, gastrosgopeg ac is-arbenigedd MRI ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020. Mae hyn yn effeithio ar ddata perfformiad a gweithgarwch gwasanaethau diagnostig a therapi yng Nghwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe ac ar lefel Cymru yn y misoedd hynny.
  • Er bod y rhestrau aros amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn parhau’n weithredol, mae clinigwyr wedi gorfod adolygu’r holl gleifion sydd ar y rhestrau aros ar wahanol gamau er mwyn nodi blaenoriaethau clinigol. Nid yw’r byrddau iechyd lleol wedi gallu gwneud cymaint o waith dilysu ar ddata rhestrau aros gan fod eu hadnoddau yn gorfod canolbwyntio hefyd ar gefnogi’r ffyrdd newydd o weithio. Mae hyn yn effeithio ar y gweithgarwch amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth a’r data perfformiad.
  • Er nad yw’n benodol i COVID-19, nid yw Cwm Taf Morgannwg wedi cyflwyno data llwybrau wedi’u cau ers mis Medi 2018 (bwrdd iechyd Cwm Taf rhwng mis Medi 2018 a mis Mawrth 2019). Felly, dim ond at y chwe bwrdd iechyd arall y mae data llwybrau sydd wedi cau yn cyfeirio er mwyn gallu dadansoddi tueddiadau ar lefel genedlaethol.

Amseroedd ymateb ambiwlansys

Yn ystod pandemig COVID-19, mae staff ymateb i argyfwng wedi gorfod gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol a fydd yn effeithio ar ba mor gyflym maent yn gallu ymateb i alwad. Ar ben hynny, ar ôl i ambiwlans gael ei anfon i’r fan a’r lle, rhaid iddo wedyn fynd drwy brosesau glanhau ychwanegol i atal y feirws rhag lledaenu. Mae hyn yn golygu bod y cerbyd yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd am gyfnod a gallai hyn hefyd effeithio ar amseroedd ymateb yn ystod y cyfnod hwn.

Cafodd y model ymateb clinigol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans ei gyflwyno yng Nghymru ar 1 Hydref 2015. Deuddeg mis oedd hyd y treial ar y cychwyn ond cafodd ei ymestyn am chwe mis arall. Ond, ar ôl cael adroddiad arfarnu annibynnol a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, rhoddwyd y model ymateb clinigol ar waith (Chwefror 2017). Gweler yr adroddiad ansawdd canlynol i gael rhagor o fanylion.

Mae tri chategori galwadau cyffredinol

  1. Coch: Lle mae bywyd rhywun yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon).
  2. Ambr: Difrifol, ond nid yw bywyd rhywun yn y fantol (cleifion fydd yn aml yn gorfod cael triniaeth yn y fan a'r lle, ac yna’n gorfod mynd i’r ysbyty).
  3. Gwyrdd: Heb fod yn frys (yn aml, bydd gwasanaethau iechyd eraill ac asesiad clinigol dros y ffôn yn gallu rheoli’r achosion hyn).

Mae categori galwad yn cael ei bennu ar sail yr wybodaeth a roddir gan y galwr yn ei ymatebion i set o gwestiynau wedi’u sgriptio, sydd yna’n cael eu brysbennu’n awtomatig gan y system Danfon yn ôl Blaenoriaeth Feddygol (MPDS). Rhoddir hyd at ddau funud i’r rheini sy’n cymryd yr alwad adnabod natur cyflwr y claf a pha mor ddifrifol ydyw (ar gyfer y galwadau hynny lle nad yw bywyd yn y fantol). Bydd ambiwlans neu adnodd priodol arall yn cael ei ddanfon cyn gynted ag y bydd y cyflwr a’i ddifrifoldeb wedi’i bennu. Gyda galwadau hynod ddwys, gall hyn fod tra mae’r galwr yn dal ar y ffôn. Mae dau achlysur lle mae modd newid blaenoriaeth galwad; pan fydd gwybodaeth newydd gan y galwr yn cael ei hasesu drwy'r system MPDS, neu pan fydd nyrs neu barafeddyg wedi casglu rhagor o wybodaeth am gyflwr y claf dros y ffôn.

At ddibenion y targed 8 munud, mae’r cloc yn dechrau pan fydd lleoliad y claf a’r brif gŵyn wedi’u sefydlu.

Fel rhan o’r adolygiad parhaus o’r model ymateb clinigol, mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn adolygu arferion delio â galwadau a chategoreiddio digwyddiadau yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid bod yn ofalus wrth ddadansoddi nifer y galwadau fesul categori dros amser.

Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at gynnydd yn nifer y galwadau coch. Priodolir hyn yn bennaf i symud galwadau o ambr i goch lle mai natur yr alwad oedd Confylsiynau/Cael ffitiau (Cod 12). Rhoddwyd y newid hwn ar waith drwy grŵp Blaenoriaethu Clinigol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ganlyniad i ddau ddatblygiad. Y cyntaf oedd ymarfer lefelu gyda’r Academi Genedlaethol ar gyfer Negeseuon Meddygol Brys, a oedd yn nodi nad oedd anadlu aneffeithiol yn cael ei ganfod yn ystod y cam pan oedd yr achos yn cael ei dderbyn. Arweiniodd hyn at newid y cwestiynau a ofynnir gan y sawl sy’n derbyn yr alwad, a newid y cod danfon a ddefnyddir. Yn ail, argymhelliad gan y crwner y dylai galwr sy’n cael ffitiau’n barhaus neu sawl ffit am 20 munud, gael ei uwchgyfeirio’n awtomatig i goch.

Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch yn deg cyn hyn. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch hefyd effeithio ar berfformiad oherwydd yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fynd i ddigwyddiad coch.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru bob mis.

Gwasanaethau Ambiwlans: StatsCymru

Gwasanaethau Ambiwlans: Adroddiad rhyddhau ac ansawdd

Adrannau achosion brys

Mae’r term ‘adran achosion brys’ yn cynnwys gweithgarwch mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ac unedau mân anafiadau.

Sylwer bod nifer y derbyniadau i’r ysbyty yn seiliedig ar ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr yn unig yng Nghymru. Y rheswm am hyn yw nad yw derbyniadau i’r ysbyty o fynychu unedau mân anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru.

Ar 17 Tachwedd 2020, agorwyd Ysbyty Athrofaol y Faenor, gydag adran achosion brys fawr, ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae Ysbyty Athrofaol y Faenor yn darparu llu o wasanaethau arbenigol mewn un lle, gan gynnwys adran achosion brys 24 awr ac uned asesu ar gyfer argyfyngau mawr a dadebru lle gallai fod angen gofal dwys pellach.

Yn y data sy’n cyfeirio at fis Rhagfyr 2020 ymlaen, mae Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall wedi cael eu hailddosbarthu’n “Adran achosion brys arall/Unedau Mân Anafiadau – Adran achosion brys arall/Unedau Mân Anafiadau”, yn dilyn agor ysbyty Athrofaol y Faenor. Diffinnir y categori hwn o ysbytai fel yr holl adrannau achosion brys eraill/unedau mân anafiadau sydd â lle dynodedig ar gyfer derbyn cleifion damweiniau ac achosion brys, y gellir cael mynediad iddynt fel mater o drefn heb apwyntiad, ond nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer adran achosion brys fawr. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd ystadegau ar gyfer derbyniadau o adrannau achosion brys mawr yn cynnwys derbyniadau yn sgil ymweld ag Ysbyty Brenhinol Gwent nac Ysbyty Nevill Hall yn y data o fis Rhagfyr 2020 ymlaen.

Diffinnir adrannau achosion brys mawr fel gwasanaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol sydd â chyfleusterau dadebru a lle ar gyfer derbyn cleifion o adran achosion brys. Rhaid i adrannau achosion brys mawr ddarparu gwasanaethau dadebru, asesu a thrin salwch acíwt ac anafiadau i gleifion o bob oed, a rhaid i wasanaethau fod ar gael 24 awr y dydd yn ddi-dor.

Yn ystod pandemig COVID-19, caeodd nifer o unedau mân anafiadau dros dro, ond mae rhai wedi ailagor ers hynny. Y rhain yw Ysbyty’r Barri (a gaewyd ym mis Mawrth 2020; ail-agorwyd ym mis Medi 2020); Ysbyty Bryn Beryl (a gaewyd ym mis Mai 2020; ail-agorwyd ym mis Medi 2020); Ysbyty Dolgellau ac Abermo (a gaewyd ym mis Ebrill 2020; ac sy’n dal ar gau); Ysbyty Coffa Tywyn a’r Cylch (a gaewyd ym mis Mehefin 2020; ac sy’n dal ar gau); Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri (a gaewyd ym mis Ebrill 2020; ac sy’n dal ar gau) ac Ysbyty Cwm Cynon (a gaewyd ar yr 8fed o Fedi 2021; ac sy’n dal ar gau).

Ers 5 Awst 2020 mae’r gwasanaeth CAV24/7 wedi bod ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n effeithio ar sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu yn ei adrannau achosion brys. Mae’r model ‘Ffonio’n Gyntaf’ yn annog cleifion i ffonio ymlaen llaw i gael eu brysbennu os oes angen dybryd arnynt i fynd i adran achosion brys ond nad oes ganddynt gyflwr lle mae eu bywyd yn y fantol ar y pryd. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyflwr, efallai y cânt eu hannog i hunan-ofalu; eu cyfeirio at wasanaeth mwy priodol yn eu cymuned leol; neu gellir archebu slot amser yn uniongyrchol iddynt mewn adran achosion brys os oes angen asesiad a thriniaeth bellach arnynt.

Mae byrddau iechyd eraill yn gweithio tuag at gyflwyno gwasanaethau tebyg ond nid ydynt wedi rhoi dim byd ar waith eto.

O ran mesur faint o amser y mae claf yn aros, nid yw amser dechrau’r cloc wedi newid: mae’r amser yn dechrau pan fydd y claf yn cyrraedd yr adran achosion brys yn bersonol. Er bod y gwasanaeth yn ei ddyddiau cynnar, cynhelir profion dilysu ychwanegol ar ddata Caerdydd a’r Fro i asesu effaith y newidiadau. Hyd yma, nid yw lefel y gweithgarwch na’r perfformiad yn erbyn y ddau darged ar gyfer adrannau achosion brys wedi newid rhyw lawer ers cyflwyno’r gwasanaeth.

Ochr yn ochr â’r Ystadegau Gwladol hyn, mae tri mesur newydd wedi cael eu datblygu fel rhan o raglen Fframwaith Cyflawni Ansawdd Adrannau Achosion Brys (EDQDF). Mae’r fframwaith hwn wedi datblygu amrywiaeth ehangach o fesurau, er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i ddarparu gofal mewn adrannau achosion brys. Bydd y rhain yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys.

Wrth i’r setiau data a’r prosesau casglu data ar gyfer y mesurau gael eu datblygu, byddant yn cael eu cyhoeddi fel gwybodaeth reoli ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU) ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad hwn. Os yw’r data’n gadarn ac yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r rhain ochr yn ochr â’n hystadegau swyddogol, gyda statws ystadegau arbrofol yn y lle cyntaf.

O fis Mawrth 2021 ymlaen, mae newidiadau wedi cael eu gwneud i fethodoleg echdynnu data’r Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y bydd y ffigurau ar gyfer nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr yn cyfateb i’r rhai a gyhoeddwyd yn y cyhoeddiad hwn gan yr Ystadegau Gwladol. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol ar gyfer misoedd blaenorol hefyd wedi cael eu diwygio ar sail eu methodoleg newydd.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n darparu’r data o Set Ddata Adran Achosion Brys (EDDS). Dyma ffynhonnell lawn o ddata lefel cleifion ar dderbyniadau i gyfleusterau gofal mewn argyfwng yng Nghymru ac mae’n cael ei defnyddio’n bennaf ar gyfer targedau perfformiad.

Targedau: Amser a dreulir mewn adrannau achosion brys:

  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

Diwygiadau: Mae rhai ffigurau’n debygol o gael eu diwygio yn y misoedd i ddod. Mae pob cyflwyniad gan fyrddau iechyd yn cynnwys data am hyd at y 12 mis diwethaf. Gall hyn gynnwys mân ddiwygiadau i gyfnodau a gyhoeddwyd yn flaenorol. Bydd y data diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru gyda’r mis diweddaraf. Bydd troednodiadau’n cael eu cynnwys am unrhyw ddiwygiadau sylweddol a byddant yn cael eu crybwyll yn y datganiad ystadegau.

Arweiniodd newid i ganllawiau adrodd at fyrddau iechyd yn rhoi hysbysiad newid safon data ar waith mewn ffordd anghyson yng Nghymru rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021. O ganlyniad, nid oedd y data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer y targedau 4 awr a 12 awr, ar gyfer y misoedd hyn, yn seiliedig ar ddiffiniad cyson o’r ‘cloc yn stopio’ ar draws Cymru. O fis Rhagfyr 2021 ymlaen, mae’r data hyn wedi cael eu diwygio ac mae data ar gyfer pob bwrdd iechyd bellach yn cael eu cyhoeddi gan ddefnyddio’r un diffiniad o'r ‘cloc yn stopio’.

Mae’r diwygiadau’n seiliedig yn bennaf ar ddata a ailgyflwynwyd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae’r newidiadau i’r data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar lefel genedlaethol ac ar lefel bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi’u crynhoi yn y tablau isod.

Nid yw’n effeithio ar nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys.

Tabl 1: Canran y cleifion sy'n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn adrannau brys y GIG yng Nghymru, Mawrth i Hydref 2021
Mis Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021  Cyhoeddwyd y data diweddaraf ym mis Rhagfyr 2021 Gwahaniaeth pwynt canran
Mawrth 2021 76.4 75.8 -0.6
Ebrill 2021 74.7 75.6 0.9
Mai 2021 71.7 72.5 0.7
Mehefin 2021 71.1 71.9 0.8
Gorffennaf 2021 70.3 71.2 1.0
Awst 2021 68.7 70.0 1.3
Medi 2021 66.8 67.8 0.9
Hydref 2021 65.0 65.9 0.9

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Tabl 2: Canran y cleifion sy'n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn adrannau brys y GIG Yn Aneurin Bevan, Mawrth i Hydref 2021
Mis Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021  Cyhoeddwyd y data diweddaraf ym mis Rhagfyr 2021 Gwahaniaeth pwynt canran
Mawrth 2021 76.8 73.6 -3.3
Ebrill 2021 73.4 78.5 5.1
Mai 2021 70.1 74.5 4.4
Mehefin 2021 71.3 76.0 4.7
Gorffennaf 2021 68.9 74.6 5.7
Awst 2021 66.6 74.5 7.9
Medi 2021 63.1 68.4 5.3
Hydref 2021 61.6 67.0 5.4

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Tabl 3: Nifer y cleifion sy'n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau yn adrannau brys y GIG yng Nghymru, Mawrth i Hydref 2021
Mis Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021  Cyhoeddwyd y data diweddaraf ym mis Rhagfyr 2021 Gwahaniaeth 
Mawrth 2021 4,280 4,678 398
Ebrill 2021 4,593 4,830 237
Mai 2021 5,531 5,679 148
Mehefin 2021 5,914 6,226 312
Gorffennaf 2021 7,046 7,384 338
Awst 2021 7,979 8,154 175
Medi 2021 8,485 8,663 178
Hydref 2021 9,484 9,562 78

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Tabl 4: Nifer y cleifion sy'n aros am fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau yn adrannau brys y GIG yn Aneurin Bevan, Mawrth i Hydref 2021
Mis Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021  Cyhoeddwyd y data diweddaraf ym mis Rhagfyr 2021 Gwahaniaeth 
Mawrth 2021 694 1,092  398
Ebrill 2021 695 932    237
Mai 2021 906 1,054   148
Mehefin 2021 789 1,101  312
Gorffennaf 2021 1,001 1,339     338
Awst 2021 1,122 1,297        175
Medi 2021 1,320 1,498    178
Hydref 2021 1,677 1,722    45

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae'r ffigurau ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Ystadegau Gwladol. Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am yr amser a dreulir mewn adrannau achosion brys/Damweiniau ac Achosion Brys, er bod hyn yn gallu cael ei labelu o dan Adran Frys (fel yn yr Alban) neu Ofal mewn Argyfwng (fel yng Ngogledd Iwerddon). Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU; bod y systemau sy’n casglu’r data yn wahanol.

Amser a dreulir mewn adrannau achosion brys: StatsCymru

Amser a dreulir mewn adrannau achosion brys: Adroddiad rhyddhau ac ansawdd

Atgyfeirio cleifion allanol

Diwygiadau: O fis Rhagfyr 2015 ymlaen, ein polisi diwygio yw adolygu bob 12 mis yn fisol.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o’r DU ond nid oes modd cymharu'r data yn llwyr oherwydd safonau a diffiniadau lleol ym mhob ardal. Cytunwyd ar safonau a diffiniadau data ar draws y byrddau iechyd gan sicrhau bod data’n cael eu casglu’n gyson ledled Cymru.

Atgyfeirio cleifion allanol: StatsCymru

Atgyfeirio cleifion allanol: Adroddiad ansawdd

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi (DATS)

Mae’r cynnydd yn nifer y llwybrau sy’n aros am wasanaethau diagnostig yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag effaith COVID-19. Cafodd yr holl apwyntiadau cleifion allanol nad oeddent yn rhai brys eu hatal ym mis Mawrth 2020 er mwyn blaenoriaethu triniaethau brys. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o brofion diagnostig y gellir eu cyflawni.

Ar y llaw arall, mae’r ffaith fod llawer o wasanaethau therapi yn cael eu darparu ar-lein yn esbonio’n rhannol lefel is y llwybrau cleifion a oedd yn aros am therapïau ar anterth y pandemig. Mae hyn wedi arwain at fwy o gleifion yn cael apwyntiad na phe baent i gyd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb mewn ysbyty.

Ni wnaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gyflwyno data therapïau ar gyfer mis Ebrill 2020. Mae hyn yn effeithio ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros yn ystod y mis, ac ni ddylid cymharu’r data ar gyfer y mis hwn â’r misoedd eraill, ar lefel Cymru. I roi amcangyfrif o faint yr effaith, roedd 25,501 o lwybrau yn aros yn y chwe bwrdd iechyd arall ym mis Ebrill 2020, ac yn y ddau fis y naill ochr a’r llall i fis Ebrill, roedd 7,519 o lwybrau cleifion yn aros ym mis Mawrth 2020 a 9,840 ym mis Mai 2020, yn Betsi Cadwaladr.

Bydd hyn hefyd yn effeithio ar nifer a chanran y llwybrau sy’n aros yn hwy na’r amser targed. Mae data perfformiad ar gyfer mis Ebrill 2020 yn cynrychioli dim ond y chwe bwrdd iechyd a ddarparodd ddata ar gyfer y mis hwnnw. Nid oes unrhyw ddata wedi’i amcangyfrif ar gyfer y data sydd ar goll yn y datganiad hwn nac ar StatsCymru.

Targedau: Amseroedd aros i gael gafael ar wasanaethau diagnostig a therapi (safonau gweithredu ar gyfer amseroedd aros hiraf):

  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Gweler y nodiadau ar amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth.

Amseroedd aros Diagnostig a Therapi: StatsCymru

Amseroedd aros Diagnostig a Therapi: Adroddiad rhyddhau ac ansawdd

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r llwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) yn cynnwys yr amser a arhoswyd o gael atgyfeiriad i fynd i’r ysbyty i gael triniaeth ac mae’n cynnwys yr amser a dreulir yn aros am unrhyw apwyntiadau, profion, sganiau neu driniaethau eraill yn yr ysbyty sydd eu hangen cyn cael triniaeth. Mae diffiniadau o'r termau a ddefnyddir a’r wybodaeth am ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Targedau: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth:

  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth.
  • Dim cleifion yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth.

Nid yw Cwm Taf Morgannwg (a Chwm Taf cyn mis Ebrill 2019) wedi gallu darparu data am lwybrau sydd wedi cau ers mis Medi 2018 o ganlyniad i broblemau TG yn dilyn diweddariad meddalwedd. Felly, nid yw’r rhifau a’r cymariaethau ar gyfer llwybrau wedi’u cau o ddatganiad mis Hydref 2018 ymlaen yn cynnwys Cwm Taf Morgannwg. Mae’r data ar gyfer Cwm Taf ar gyfer y misoedd blaenorol ar gael ar StatsCymru.

Rhoddodd Cwm Taf Morgannwg wybod i Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Mehefin 2019 eu bod yn credu fod problem ag adrodd ar rai rhestrau aros RTT. Fe wnaethant ofyn i Uned Gyflawni GIG Cymru gynnal adolygiad, ac arweiniodd hyn at ychwanegu cyfanswm o 1,783 o gleifion ychwanegol at y rhestr aros RTT wrth gyhoeddi data Gorffennaf 2019 ym mis Hydref 2019. Hefyd, adolygodd yr Uned Gyflawni’r rhestr aros ar gyfer triniaethau diagnostig, a chanfod y dylai 1,288 o gleifion ychwanegol fod wedi cael eu nodi. Ychwanegwyd y cleifion hyn at y ffigurau swyddogol ar gyfer diwedd Gorffennaf 2019, yr adroddwyd arnynt ym mis Hydref 2019. Er nad oedd y cleifion yn cael eu cynnwys fel rhan o’r ystadegau swyddogol, roeddent yn cael eu hadrodd yn fewnol i’r bwrdd iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â byrddau iechyd eraill ac mae wedi cael gwybod bod adroddiadau’n cael eu darparu ar yr holl restrau aros yn unol â’r Canllawiau Atgyfeirio i dderbyn Triniaeth.

Mae triniaethau sy’n cael eu cynnal yn rhithiol yn cael eu cyfrif yr un fath â gweithgarwch wyneb yn wyneb, ac ers pandemig COVID-19, cynhaliwyd mwy o driniaethau ar-lein.

Gan fod pob apwyntiad claf allanol nad oedd yn frys wedi eu gohirio ym mis Mawrth 2020 er mwyn blaenoriaethu apwyntiadau brys, mae amseroedd aros ar gyfer cleifion a atgyfeirir am driniaeth wedi cynyddu’n sylweddol. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau ers hynny, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o driniaethau y gellir eu gwneud.

Ar hyn o bryd, mae clinigwyr yn adolygu cleifion sydd ar restrau aros ar wahanol gamau i nodi blaenoriaethau clinigol gan ddefnyddio’r canllawiau clinigol cenedlaethol diweddaraf Federation of Surgical Specialty Associations – COVID-19 documents clinical prioritisation. Mae hyn yn golygu bod mwy o bwyslais ar drin cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol, a gall arwain at gleifion â blaenoriaeth glinigol is yn aros yn hirach. Er bod elfen o flaenoriaeth glinigol wedi bod erioed, roedd y capasiti a oedd ar gael cyn pandemig COVID-19 yn caniatáu i gleifion a oedd wedi gorfod aros yn hirach gael eu trin yn gynt. Fodd bynnag, ers pandemig COVID-19, mae’r capasiti sydd ar gael wedi lleihau’n sylweddol.

Er bod rhestrau aros atgyfeirio am driniaeth yn dal yn weithredol, nid yw’r byrddau iechyd lleol wedi gallu gwneud cymaint o waith dilysu ar ddata rhestrau aros gan fod eu hadnoddau yn gorfod canolbwyntio hefyd ar gefnogi’r ffyrdd newydd o weithio. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu ystadegau perfformiad o fis Mawrth 2020 ymlaen â misoedd blaenorol oherwydd y newidiadau hyn.

Mae’r data a gasglwyd yn flaenorol drwy’r trefniant casglu data PP01W ar gyfer arbenigeddau triniaeth nad ydynt wedi’u cynnwys yn RTT sydd wedi bodoli ers tro, wedi dod i ben erbyn hyn yn dilyn asesiad effaith.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae Cymru, Lloegr a’r Alban yn cyhoeddi amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth sy’n mesur llwybr cyflawn y claf o’r atgyfeiriad cychwynnol ee, gan feddyg teulu, hyd at gael ei ryddhau neu at gael triniaeth y cytunir arni, yn ogystal â chamau penodol yn yr amseroedd aros am driniaeth. Mae Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi ystadegau amseroedd aros ar gyfer cleifion mewnol, cleifion allanol a chamau diagnostig ar gyfer triniaeth sy’n mesur amseroedd aros ar gyfer y gwahanol gamau yn llwybr y claf, fel arfer yr amser aros penodol ar gyfer triniaeth i gleifion mewnol, triniaeth ddiagnostig neu driniaeth i gleifion allanol, neu ar gyfer gwasanaethau penodol fel awdioleg.

I sicrhau mwy o gysondeb ar draws data’r byrddau iechyd, mae’r holl godau triniaeth newydd wedi’u newid i’r hyn oedd yn cyfateb iddynt cyn mis Ebrill 2016. Mae hyn nawr wedi’i weithredu ar gyfer pob data atgyfeirio a data atgyfeirio i driniaeth a roddwyd yn y gorffennol. Caiff hyn ei roi ar waith nes y bydd pob bwrdd iechyd yn gallu darparu adroddiadau gan ddefnyddio’r codau newydd yn gyson. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Newid Set Data (2014/08).

O ran yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, er bod y cysyniadau yn debyg yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o ran mesur yr amseroedd aros rhwng yr amser y bydd yr ysbyty yn cael yr atgyfeiriad a dechrau'r driniaeth, a'r mathau o lwybrau cleifion sy’n cael eu cynnwys, mae gwahaniaethau amlwg yn y rheolau unigol ynghylch mesur amseroedd aros. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd ‘y cloc yn stopio neu’n oedi’, gydag eithriadau, a’r arbenigeddau sy’n cael eu cynnwys.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: StatsCymru

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: Adroddiad rhyddhau ac ansawdd

Gwasanaethau Canser

Mae cleifion canser yn cael eu trin yn ôl brys clinigol yn hytrach na chyfnod aros. Mae COVID-19 wedi effeithio ar sut darperir gwasanaethau canser. Mae angen i fyrddau iechyd addasu drwy amrywiol ddulliau, gan gynnwys rhoi mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol ar waith i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau diogel ac yn lleihau’r risg y bydd cleifion yn dal COVID-19. Mae hyn wedi golygu bod gwasanaethau wedi bod yn gweithredu ar lai o gapasiti.

Mae’n debyg y bydd y cyfnodau pan oedd rhai cleifion yn gwarchod eu hunain a dewisiadau cleifion hefyd yn effeithio ar nifer y cleifion sy’n dechrau cael triniaeth o fewn yr amser targed.

Y llwybr amheuaeth o ganser

O fis Chwefror 2021 ymlaen, dim ond ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser y cyhoeddir data. I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr, trowch at yr Hysbysiad Newid Set Data a’r dogfennau allweddol.

Mae’r llwybr amheuaeth o ganser yn darparu dull mwy tryloyw ac ystyrlon ar gyfer mesur perfformiad gwasanaethau canser, o’i gymharu â’r llwybrau brys a’r llwybrau nad ydynt yn frys blaenorol. Mae’n gwneud hyn drwy fesur yr amser ar y llwybr canser o’r adeg pan fydd amheuaeth o ganser yn hytrach na’r adeg y gwneir penderfyniad i roi triniaeth. Mae’r holl gleifion sydd wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y cyfnod adrodd yn cael eu cynnwys, ni waeth beth yw eu llwybrau atgyfeirio. Mae hyn yn cynnwys cleifion a oedd wedi’u hatgyfeirio i gael gofal eilaidd yng Nghymru ond a allai gael triniaeth y tu allan i GIG Cymru (mewn gwlad wahanol ac ysbytai preifat), ond nid yw’n cynnwys cleifion lle mae’r canser cychwynnol gwreiddiol yn dychwelyd.

Mae'r drefn hon o gasglu data yn seiliedig ar ddata am y llwybrau sydd wedi cau ac mae'n mesur gweithgarwch drwy nifer y cleifion sy’n cael eu trin neu sy’n cael gwybod gan arbenigwr nad oes canser arnynt, yn hytrach na nifer y cleifion sy’n ymuno â’r llwybr.

Targed y llwybr amheuaeth o ganser yw: Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Daeth y targed hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2020.

Nid oes targedau ar gyfer y llwybr brys a’r llwybr nad yw’n frys bellach, ac ni fydd data newydd yn cael eu casglu na’u cyhoeddi ar gyfer y llwybrau hyn. Mae data hanesyddol yn dal ar gael ar wefan StatsCymru a gyhoeddwyd ddiwethaf ym mis Ionawr 2021.

Cyhoeddir ‘nifer y cleifion sy’n ymuno â’r un llwybr canser’ ar StatsCymru. Mae’r data ar gyfer nifer y cleifion sy’n dod ar y llwybr yn cynnwys statws ystadegau arbrofol oherwydd gallai gynnwys rhai atgyfeiriadau dyblyg neu efallai na fydd yn cynnwys data o bob ffynhonnell atgyfeirio. Am y rhesymau hynny, bydd y data’n darparu syniad eang o raddfa a thuedd ond maent yn gyfyngedig eu defnydd, a byddai casgliadau manylach yn isel eu dibynadwyedd. Casglwyd y data hwn yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd, gan ddefnyddio ffurflenni casglu data cyfanredol. Mae’r gwaith datblygu i gynnwys y data hwn fel rhan o’r broses o gasglu data canolog newydd gan ddefnyddio’r Adnodd Data Cenedlaethol drwy Iechyd a Gofal Digidol Cymru bron â bod wedi’i gwblhau. Ar hyn o bryd mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dilysu’r data sydd wedi cael ei echdynnu drwy’r dull newydd a’r gobaith yw y bydd data o’r ffynhonnell hon yn cael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf, yn amodol ar asesiad o ansawdd y data. Bydd y data hwn yn disodli’r data sy’n cael ei gasglu’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd ar hyn o bryd gan ddefnyddio ffurflenni casglu data cyfanredol.

Ochr yn ochr â’r cam at adrodd yn unig ar y llwybr amheuaeth o ganser, mae amrywiaeth o fesurau perfformiad cyd-destunol ehangach wedi cael eu datblygu. Mae dadansoddiad o’r mesurau hyn wedi cael eu dwyn ynghyd gan ddefnyddio’r Adnodd Data Cenedlaethol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel cynnyrch Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’r dangosfwrdd yn cael ei ddatblygu’n barhaus a bydd yn anelu at gynnwys dadansoddiad o’r canlynol: canolrif yr amser i apwyntiad cyntaf, canolrif yr amser i roi gwybod i gleifion am ddiagnosis positif o ganser, a chanolrif y nifer o ddiwrnodau i brawf diagnostig cyntaf claf, a hynny pan fydd y data o ansawdd digonol. Cyflwynir dadansoddiad yn ôl grŵp oedran a rhyw hefyd. Cyhoeddir y data hyn gyda statws ystadegau arbrofol hefyd.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â setiau data StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwledydd eraill y DU yn mesur amseroedd aros canser hefyd. Ond, mae'r allbynnau’n wahanol mewn gwahanol wledydd oherwydd eu bod wedi cael eu cynllunio i helpu i fonitro polisïau a ddatblygwyd ar wahân gan bob llywodraeth. Byddai angen ymchwilio ymhellach i weld a yw’r gwahaniaethau diffiniol yn cael effaith arwyddocaol ar gymaroldeb y data.

Cyhoeddir dadansoddiad manwl o amseroedd aros canser hanesyddol hefyd mewn datganiad ystadegol blynyddol.

Yn hanesyddol, nid oedd data Powys ar gyfer y cleifion hynny oedd wedi ymuno â'r llwybr ond yn dangos cleifion a gafodd eu hisraddio’n ddiweddarach fel rhai nad oedd canser arnynt, a bydd hyn yn parhau yng nghyswllt y casgliad ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol (sCAMHS)

O 16 Mehefin 2021 ymlaen, mae data sy’n ymwneud â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (sCAMHS) wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â data iechyd meddwl eraill fel tablau data agored StatsCymru.

Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal (DTOC)

Ar ddechrau pandemig COVID-19, ataliodd Llywodraeth Cymru y gofynion adrodd ar oedi wrth drosglwyddo gofal, ynghyd â nifer o setiau data eraill. Yn y cyfamser, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ofynion Rhyddhau COVID-19 a oedd yn cynnwys proses ryddhau wedi’i diweddaru, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar adsefydlu ac ailalluogi er mwyn gwella llif cleifion a sicrhau gwell canlyniadau.

Mae Uned Gyflawni’r GIG wedi bod yn casglu data interim wythnosol am oedi cyn rhyddhau er mwyn darparu gwybodaeth reoli i gefnogi’r trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Nid yw’r data hyn yn mesur oedi wrth drosglwyddo gofal yn yr un ffordd â’r data a gasglwyd yn flaenorol, ac nid yw wedi cael ei asesu yn erbyn safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd opsiynau ar gyfer casglu a chyhoeddi data a mesurau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu datblygu cyn gynted ag y bo modd. Mae gwaith yn y maes hwn wedi cael ei ohirio oherwydd blaenoriaethau eraill sy’n ymwneud â phandemig COVID-19.

Ffynonellau

Mae data ymateb ambiwlansys yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Mae'r holl ddata arall sydd wedi’u crynhoi yma yn cael eu casglu oddi wrth fyrddau iechyd lleol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae manylion llawn ar gael yn yr Adroddiadau Ansawdd ar gyfer pob maes gwasanaeth.

Yr amserlen

Wrth i ni gyhoeddi ein datganiadau misol ar berfformiad a gweithgarwch y GIG ar yr un diwrnod, bydd y defnyddwyr yn cael darlun mwy cyflawn ac integredig o weithgarwch, gan roi golwg gyffredinol fwy cydlynol ar y GIG yng Nghymru.

Nid oes gan bob set ddata yr un amserlenni ar gyfer prosesu. I sicrhau bod y data ar gael gynted ag y bo modd, rydym yn cyhoeddi data gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Hydref, dyweder, gyda’r data gofal wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi.

Data

Adnodd ar-lein - mae adnodd rhyngweithiol ar-lein wedi’i ddatblygu, ac mae ganddo dair rhan.

  1. Galw/Gweithgarwch: ee presenoldeb mewn adrannau achosion brys, galwadau ambiwlansys, atgyfeiriadau
  2. Perfformiad: ee perfformiad yn erbyn targedau adrannau achosion brys, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac ati
  3. Cyd-destun: ee canolrif amser mewn adrannau achosion brys, canolrif amseroedd ymateb ambiwlansys, canolrif amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae pob siart yn dangos y cyfnod diweddaraf o bum mlynedd, os oes data wedi’u casglu mewn ffordd y gellir eu cymharu’n deg dros y cyfnod hwnnw. Yr eithriad i hyn yw’r siartiau perfformiad a gweithgarwch ambiwlansys, lle mae’n ymddangos bod diweddaru arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at newid yn nifer y digwyddiadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn.

Mae modd gweld, defnyddio neu lwytho rhagor o setiau data manwl i lawr drwy ein API data agored ar StatsCymru.

Cyfrifir newidiadau pwynt canran gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu.

Gwybodaeth gyd-destunol

Mae’r siartiau yn yr adnodd ar-lein yn darparu gwybodaeth ychwanegol am weithgarwch sy’n ategu’r wybodaeth am berfformiad y GIG a ddangosir uchod.

Mae rhai siartiau’n cynnwys amseroedd canolrif a chymedr. Er enghraifft, mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys:

  • Canolrif yr amser ymateb yw’r amser canol pan fydd yr holl ymatebion i argyfwng yn cael eu rhoi mewn trefn o’r cyflymaf i’r arafaf, felly bydd hanner yr holl ymatebion i argyfwng yn cyrraedd o fewn yr amser hwn. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio yn lle’r cymedr fel arfer gan ei fod yn llai tebygol na'r cymedr o arwain at werthoedd eithaf.
  • Cymedr yr amser ymateb yw cyfanswm yr amser ar gyfer pob ymateb i argyfwng wedi'i rannu â nifer yr ymatebion i argyfwng. Mae’r ambiwlansys hynny sy’n cymryd mwy o amser i gyrraedd eu cyrchfan yn fwy tebygol o effeithio ar y cymedr.

Adolygiadau

Cyflwynir gwybodaeth yn ymwneud â diwygiadau yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy'n cyd-fynd â setiau data StatsCymru bob mis.

Perthnasedd

Beth yw'r ffyrdd posibl o ddefnyddio'r ystadegau hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau
  • llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd i wella ansawdd
  • gan fyrddau iechyd lleol y GIG, i'w meincnodi eu hunain yn erbyn byrddau iechyd lleol eraill
  • cyfrannu at erthyglau newyddion ar amseroedd aros
  • helpu i bennu'r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan GIG Cymru

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn ddefnyddiol o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr posibl:

  • Gweinidogion a'u cynghorwyr
  • Aelodau Senedd Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Aelodau Senedd Cymru
  • byrddau iechyd lleol
  • awdurdodau lleol
  • Yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
  • y cyfryngau

Gallai'r ystadegau fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer llywodraethau eraill y DU

Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

Llywodraeth yr Alban

Adran Iechyd Lloegr

Cymaroldeb

Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth o ystadegau am weithgarwch a pherfformiad y GIG. Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU. Mae ystadegwyr ym mhob un o bedair gwlad y DU wedi cydweithio fel rhan o Grŵp Amseroedd Aros Cymharol y DU. Nod y grŵp oedd edrych ar draws yr ystadegau a gyhoeddwyd am iechyd, yn benodol amseroedd aros, a llunio cymhariaeth o (i) beth sy’n cael ei fesur ym mhob gwlad, (ii) sut mae'r ystadegau’n debyg a (iii) ymhle mae’r gwahaniaethau allweddol. Mae'r wybodaeth honno ar gael ar wefan Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae gwybodaeth am ambiwlansys ar gael yma:

Gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr

Gwasanaethau ambiwlans yn yr Alban

Gwasanaethau ambiwlans yng Ngogledd Iwerddon

Statws Ystadegau Gwladol

Ac eithrio ystadegau’r llwybr canser sengl, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi dynodi bod yr holl ystadegau eraill a gyflwynir yn y datganiad hwn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy’n dangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Mae “Amser aros canser GIG Cymru”, “Gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru”, “Amser a dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru”, “Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth GIG Cymru”, “Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi GIG Cymru” ac “Oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru” yn Ystadegau Gwladol.

Cadarnhawyd statws parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2011 ar ôl i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wirio eu bod yn cydymffurfio. Cynhaliwyd yr asesiad llawn diweddaraf o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2011.

Ystadegau Arbrofol

Ystadegau Arbrofol yw’r ystadegau sy’n gysylltiedig â’r llwybr amheuaeth o ganser. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr am y data a’r ffaith fod yr ystadegau yr adroddir arnynt yn dal i gael eu datblygu ac y gallai fod problemau o ran ansawdd y data. Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dal i fod o werth ar yr amod fod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun gwybodaeth am ansawdd y data sydd ar gael. Wrth i’r set ddata aeddfedu, bydd cwmpas ac ansawdd y data yr adroddir arnynt yn gwella, a gellir defnyddio’r data ar gyfer amrywiaeth eang o resymau buddiol.

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi er mwyn cynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid yn y broses o’u datblygu ac fel ffordd o sicrhau ansawdd yn gynnar yn y broses.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â holl agweddau Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ystadegau arbrofol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

20 Ionawr 2021

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 397/2021