Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Hydref a Tachwedd 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Gofal heb ei drefnu

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi gostwng ers y mis blaenorol, ond roedd y ffigurau yn uwch nag ar gyfer unrhyw gofnod arall erioed ar gyfer mis Tachwedd. Roedd canran y cleifion sy’n treulio llai na 4 awr yno wedi gostwng ers y mis blaenorol, a dyma’r ffigur isaf erioed i gael ei gofnodi. Mae nifer y cleifion sy’n treulio dros 12 awr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi cynyddu ers y mis blaenorol a dyma’r ffigur uchaf erioed i gael ei gofnodi. Mae amseroedd aros ar gyfartaledd yn yr adrannau hyn yn dal i fod yn weddol gyson ar hyd y flwyddyn.

Roedd nifer cyfartalog cyffredinol y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans wedi cynyddu ym mis Tachwedd. Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol yn y categori mwyaf difrifol (‘galwadau coch’) yr uchaf erioed i gael ei gofnodi. Ni lwyddwyd i gyrraedd y targed, sef 65%, ar gyfer ymateb i alwadau coch o fewn 8 munud, a hynny am y tro cyntaf ers cyflwyno’r model ymateb clinigol newydd.

Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi cynyddu ym mis Tachwedd a oedd yr uchaf ers mis Mawrth 2016.

Gofal wedi’i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig a phrofion therapi wedi gostwng ym mis Hydref; roedd amseroedd aros cyfartalog a phrofion therapi wedi gostwng, ond roedd yr amseroedd aros cyfartalog ar gyfer profion diagnostig heb newid.

Roedd perfformiad atgyfeirio a thriniaeth yn gymysg ers y mis diwethaf. Roedd yr un ganran o gleifion wedi aros llai na 26 wythnos. Roedd mwy o gleifion wedi aros mwy na 36 wythnos, sef yr uchaf ers Ionawr 2018. Roedd yr amser cyfartalog ar gyfer aros am driniaeth wedi gostwng rhywfaint ers y mis diwethaf, ac mae hyn yn gyson â’r duedd yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Hydref, cafwyd cynnydd yn nifer y cleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser a oedd wedi dechrau cael triniaeth drwy’r llwybr brys ar gyfer amheuaeth o ganser. Ond cafwyd gostyngiad yn y nifer yn dechrau ar driniaeth heb fod drwy’r llwybr brys ar gyfer amheuaeth o ganser. Ers y mis diwethaf, mae canran y cleifion sy’n cael triniaeth o fewn yr amser targed wedi cynyddu ar gyfer cleifion ar y llwybr brys a’r rhai nad ydynt ar y llwybr brys. Mae ystadegau arbrofol ar gyfer un llwybr canser wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd.

Adroddiadau

Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG, Hydref a Tachwedd 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 563 KB

PDF
563 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.