Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Hydref a Tachwedd 2018 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Crynodeb

  • Roedd cyfartaledd derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn is ym mis Tachwedd a chynyddodd canran y cleifion sy'n treulio llai na phedair awr yno ychydig. Roedd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi gostwng 10% ogymharu â mis Hydref.
  • Roedd nifer cyfartalog y galwadau bob dydd i’r gwasanaeth ambiwlans wedi cynyddu ym mis Tachwedd. Roedd canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud wedi cwrdd â’r targed ond roedd yn is nag oedd ym mis Hydref.
  • Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed ar am brofion diagnostig wedi gostwng yn sylweddol, bron i draean ym mis Hydref, ond roedd y bobl a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau therapi wedi cynyddu ychydig. Roedd canran y cleifion a oedd wedi aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth wedi cynyddu ond roedd mwy o gleifion yn disgwyl mwy na 36 wythnos ym mis Hydref nag a oedd ym mis Medi.
  • Roedd perfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi parhau i wella y mis hwn.
  • Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi cynyddu ar gyfer cleifion a oedd ar y llwybr brys. Roedd perfformiad wedi disgyn ychydig ar gyfer y rheini nad oedden nhw ar y llwybr brys ond roedd yn agos at y targed.
  • Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers mis Tachwedd 2016. Roedd gweddill y targedau ar gyfer gofal wedi’i drefnu a gofal heb ei drefnu wedi’u methu.
  • Cafwyd cynnydd yn amseroedd aros cyfartalog yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac i gyfartaledd amseroedd ymateb i alwadau brys ym mis Tachwedd. Mae’r amseroedd aros cyfartalog diweddaraf ar gyfer cael atgyfeiriad at driniaeth, profion diagnostig neu wasanaethau therapi wedi gostwng ers mis diwethaf. 

Adroddiadau

Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Hydref a Tachwedd 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 579 KB

PDF
579 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.