Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Gorffennaf a Awst 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Gofal heb ei drefnu

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn is ym mis Awst, yn dilyn y ffigurau uchaf erioed ym mis Gorffennaf. Gostyngodd canran y cleifion sy'n treulio llai na 4 awr yno ychydig, a gostyngodd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yno.

Gostyngodd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans ym mis Awst. Fe wnaeth canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud gwrdd â’r targed, ond roedd o dan 70% am yr ail fis o’r bron.

Cynyddodd yr amser cyfartalog ar gyfer ymateb ambiwlansys i alwadau brys ychydig a chynyddodd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Awst.

Gofal wedi’i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig a phrofion therapi yn uwch ym mis Gorffennaf. Roedd amseroedd aros cyfartalog wedi gostwng ychydig ar gyfer profion diagnostig a phrofion therapi.

Roedd perfformiad rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn gymysg; roedd yr un ganran o gleifion yn aros llai na’r 26 wythnos ond roedd mwy o gleifion yn aros mwy na  36 wythnos hefyd. Roedd yr amser aros am driniaeth rhywfaint yn is ar gyfartaledd hefyd.

Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi cynyddu ar gyfer cleifion ar y llwybr brys ac ar gyfer cleifion nad oeddent ar y llwybr brys. Mae ystadegau arbrofol ar gyfer un llwybr canser wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd.

Adroddiadau

Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG, Gorffenaf a Awst 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 619 KB

PDF
619 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.