Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn darparu crynodeb o ddata gweithgarwch GIG Cymru, gan gynnwys yr wybodaeth fisol ddiweddaraf sydd ar gael ar nifer y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys, nifer y galwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans, nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol a nifer y cleifion sy’n dechrau triniaeth am ganser.

Sylwch fod y data a gynhwysir yn y datganiad ystadegol hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. O ganlyniad, bydd hyn yn effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Cafodd llawer o’r trefniadau casglu data cenedlaethol eu hatal dros-dro yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener 13 Mawrth ynghylch canslo rhai triniaethau meddygol penodol a llacio targedau perfformiad. O’r herwydd, rydym ni hefyd yn rhoi’r gorau i adrodd ar ystadegau perfformiad am y tro. Cynlluniwyd y byddai’r newidiadau hyn mewn grym hyd at y cyfnod adrodd ym mis Hydref 2020 o leiaf; fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o gasgliadau data cenedlaethol bellach wedi ailddechrau ac mae’r cyhoeddiad o ystadegau perfformiad yn cael eu hadolygu. Byddwn yn hysbysu defnyddwyr pan fydd yr ystadegau hyn yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Felly, yn ystod y cyfnod hwn, bydd y cyhoeddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am weithgarwch GIG Cymru yn unig. Ni fydd y cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar wybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad nac unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT), amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi (DATS), oedi wrth drosglwyddo gofal (DTOC), neu lwybrau wedi cau. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod defnyddwyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i’r data a gynhwysir yn y cyhoeddiad hwn.

Wrth i ni gyhoeddi ein datganiadau misol ar weithgareddau y GIG ar yr un diwrnod, bydd y defnyddwyr yn cael darlun mwy cyflawn ac integredig o weithgareddau, gan roi golwg gyffredinol fwy cydlynol ar y GIG yng Nghymru. Mae data ym mhob maes ar gael yn fanylach yn nhablau StatsCymru.

Mae data newydd sy'n ymwneud â galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans a phresenoldeb a derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu darparu ar gyfer mis Awst 2020. Darperir data newydd yn ymwneud ag atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol a chleifion sy'n dechrau triniaeth canser ar gyfer mis Gorffennaf 2020.

1. Gofal heb ei drefnu

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Image
Mae Siart 1 yn dangos nifer cyfartalog y galwadau ambiwlans brys bob mis, yn ôl y math o alwad a'r mis. Mae'n dangos bod nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) wedi bod yn cynyddu'n gyson dros y tymor hir ond ei fod wedi gostwng yn fwy diweddar oherwydd pandemig COVID-19.

Galwadau ambiwlans mewn argyfwng ac ymatebion i alwadau coch, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r mis ar StatsCymru

Ym mis Awst 2020, gwnaethpwyd 40,444 o alwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans ac ar gyfartaledd roedd 1,305 o alwadau bob dydd.

Mae nifer y galwadau brys i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn codi’n raddol yn y tymor hir. Ers cychwyn casglu data misol ym mis Ebrill 2006, mae’r galwadau dyddiol ar gyfartaledd wedi codi o lai na 1,000 y diwrnod i rhwng 1,200 a 1,450 y diwrnod. Fodd bynnag, gostyngodd nifer y galwadau gostwng yn ystod cyfnod cynnar pandemig COVID-19, gyda mis Ebrill 2020 yn gweld y nifer cyfartalog dyddiol isaf o alwadau ers mis Mai 2011.

Yn dilyn y gostyngiad hwn , mae’r ffigurau ar gyfer mis Awst yn dangos cynnydd o 8.1% yn nifer y galwadau bob dydd (neu 97 galwad yn fwy bob dydd) ers mis Gorffennaf ond maen nhw ychydig yn is (9% yn isneu 124 yn llai o alwadau bob dydd) wrth gymharu â mis Awst 2019.

Wrth edrych ar bob categori galwad, mae’r duedd tymor hwy yn dangos gostyngiad yn y nifer o alwadau y dydd yn y categori lleiaf brys (gwyrdd) a nifer cynyddol o alwadau y dydd yn y categori melyn. Cwympodd y galwadau yn y ddau gategori yn ystod cyfnod cynnar pandemig COVID-19, ond mae’r ddau bellach yn debyg i’r lefelau cyn COVID.

Roedd cyfartaledd nifer y galwadau gwyrdd y dydd ym mis Awst 2020 yn 308 o’i gymharu â 313 ym mis Awst 2019 ac yr oedd nifer cyfartalog y galwadau melyn y dydd ym mis Awst 2020 yn 914 o’i gymharu â 906 ym mis Awst 2019.

Mae’n ymddangos bod addasu arferion ymdrin â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at newid yn nifer y galwadau coch. Felly nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn.

Ar gyfartaledd, cafwyd 83 o alwadau coch ym mis Awst. Dyma’r nifer uchaf ers mis Mawrth 2020,  ac i fyny o 67 ym mis Gorffennaf 2020.

Roedd y gyfran o’r holl alwadau a gategoreiddiwyd fel galwadau coch yn 6.3%, i fyny o 5.5% ym mis Gorffennaf 2020

Presenoldeb a derbyniadau mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Image
Mae Siart 2 yn dangos nifer y bobl oedd yn bresennol yn adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i bresenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, fesul mis. Mae derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf fel arfer. Gellir gweld y gostyngiad yn nifer y bobl oedd yn bresennol oherwydd pandemig COVID-19 hefyd.

Nifer y derbyniadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn y GIG yng Nghymru yn ôl band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Mae derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf fel arfer

Roedd 79,301 yn bresennol yn holl adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru ym mis Awst. Yn dilyn gostyngiad sylweddol yn y nifer a oedd yn bresennol ym mis Ebrill yn ystod cyfnod cyntaf pandemig COVID-19, mae gweithgarwch wedi cynyddu ond yn dal yn is na’r lefelau cyn COVID-19. Roedd presenoldeb ym mis Awst 2020 7.1% yn uwch nag ym mis Goffennaf 2020 (5,701 yn fwy yn bresennol) ond 14.6% yn is nag ym mis Awst 2019 (13,563 yn llai yn bresennol).

Ar gyfartaledd, roedd 2,558 o dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys bob dydd ym mis Awst. Mae hyn 7.7% yn uwch nag ym mis Gorffennaf 2020 (184 yn fwy o bobl bob diwrnod ar gyfartaledd) ond 14.6% yn is nag ym mis Awst 2019 (438 yn llai o bobl bob diwrnod ar gyfartaledd).

Cyfanswm nifer y derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ystod y flwyddyn hyd at fis Awst 2020 yw 898,944.. Mae hyn 14.8% yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Awst2019) a 7.8% yn is na’r cyfnod 12 mis cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Awst 2015). Mae effaith pandemig COVID-19 hefyd yn effeithio ar gymariaethau blynyddol.

Ym mis Awst, derbyniwyd 15,620 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys. Mae hyn 4.4% yn uwch (690 yn fwy o dderbyniadau na'r mis blaenorol (Gorffennaf 2020) ond 2.9% yn is (482  yn llai o dderbyniadau na'r mis cyfatebol flwyddyn yn ôl (Awst 2019).

Cyn pandemig COVID-19 cafodd oddeutu 20% o bob presenoldeb yn yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys eu derbyn i’r ysbyty. Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig cynyddodd y ganran hon i anterth o 26.2% ym mis Ebrill 2020 ond mae wedi gostwng bob mis ers hynny ac yr oedd yn 20.6% ym mis Awst 2020.

2. Gofal wedi’i drefnu

Atgyfeirio cleifion allanol

Image
Siart 3 yn dangos cyfartaledd dyddiol am y nifer o atgyfeiriadau cleifion allanol ar gyfer apwyntiadau cyntaf fesul mis o Ebrill 2012 i Orffennaf 2020. Mae'r gostyngiad mawr yn nifer yr atgyfeiriadau i gleifion allanol o fis Chwefror 2020 yn ganlyniad i'r pandemig coronafeirws.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar gyfer StatsCymru

Roedd gostyngiad mawr yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ym mis Mawrth 2020 yn ystod wythnosau cyntaf pandemig COVID-19. Ers hynny, gwelwyd cynnydd o ran gweithgarwch ond ym mis Mehefin 2020 mae'r atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn dal yn is na’r lefelau cyn pandemig COVID-19.

Atgyfeiriwyd cyfartaledd o 2,696 o gleifion allanol bob diwrnod ym mis Gorffennaf 2020. Mae hyn yn golygu cynnydd o 19.5% (439 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Mehefin 2020 ond gostyngiad o 32.9% (1,323 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Gorffennaf 2019.

Cleifion sy'n dechrau triniaeth canser wedi’u hatgyfeirio drwy’r llwybr amheuaeth o ganser brys a’r llwybr heb fod ar frys

Caiff cleifion canser yng Nghymru eu cyfrif ar lwybrau brys a heb fod ar frys, yn ogystal â'r Un Llwybr Canser.

Image
Mae Siart 4 yn dangos nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser, yn ôl mis a'r math o lwybr. Mae'r siart yn dangos amrywiadau'r data o fis i fis ac yn dangos, yn fwy diweddar, bod y bwlch rhwng nifer y cleifion sy'n cael eu trin drwy’r llwybr canser brys a heb fod drwy'r llwybr brys wedi lleihau.

Amseroedd aros canser misol ar StatsCymru

Yn ystod y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2020, roedd 7,878 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau ar eu triniaeth drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser. Mae hyn yn ostyngiad o 5.8% (481 o gleifion) ers y 12 mis blaenorol (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2019) ond yn gynnydd o 17.9% (1,198 o gleifion) o'r cyfnod cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2015).

Yn ystod y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2020, dechreuodd 8,546 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis canser a hynny drwy’r llwybr heb fod ar frys oherwydd amheuaeth o ganser. Mae hyn yn ostyngiad o 6.7% (614 o gleifion) ers y 12 mis blaenorol (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2019) ac yn ostyngiad o 9.5% (893 o gleifion) o'r cyfnod cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2015).

Gan fod y ffigurau hyn yn seiliedig ar gyfartaledd treigl 12 mis mae’n bosibl na fydd effaith lawn pandemig COVID-19 yn amlwg tan nes ymlaen yn y flwyddyn.

Un llwybr canser (ystadegau arbrofol)

Image
Ystadegau arbrofol ar gyfer nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis yn dod i mewn i’r llwybr canser sengl fesul mis. Mae'r llwybr canser sengl yn cynnwys cleifion ar y llwybrau brys a rhai sydd ddim yn brys. Mae'r gostyngiad yn nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis yn dod i mewn i'r llwybr canser sengl o fis Chwefror 2020 yn ganlyniad i'r pandemig coronafeirws.

Nifer y cleifion sy’n dechrau ar yr un llwybr canser gydag amheuaeth newydd o ganser, Mehefin 2019 i Mehefin 2020 (MS Excel)

Mae cleifion sy’n dod yn rhan o’r Un Llwybr Canser yn cael eu cyfrif o'r eiliad y ceir amheuaeth o ganser, yn hytrach nag o'r adeg y derbynnir eu hatgyfeiriad yn yr ysbyty a bod diagnosis wedi'i wneud.

Mae’r ystadegau arbrofol ar gyfer yr un llwybr canser yn dangos bod 11,903 o gleifion wedi dod ar y llwybr yma ym mis Gorffennaf 2020. Mae hyn yn gynnydd o 20.1% (1,991 o gleifion) o fis Mehefin, ond 19.7% (2,914 yn llai o gleifion) yn is nag ym mis Gorffennaf 2019.

Ar gyfer Un Llwybr Canser, mae data sy'n ymwneud â nifer y cleifion sy'n cael eu trin yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru, ac yn cynnwys y cleifion a gafodd eu trin drwy’r llwybr amheuaeth o ganser ar frys a heb fod ar frys.

Ym mis Gorffennaf 2020, cafodd 1,239 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser eu trin drwy’r un llwybr canser. Mae hyn yn gynnydd o 5.7% (67 o gleifion) o fis Mehefin 2020, ond 16.9% (252 yn llai o gleifion) yn is nag ym mis Gorffennaf 2019.

3. Gwybodaeth o ansawdd

Amseroedd ymateb ambiwlansys

Fel rhan o'r adolygiad parhaus o'r model ymateb clinigol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn adolygu’r arferion ymdrin â galwadau a chategoreiddio digwyddiadau yn rheolaidd. Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch hefyd effeithio ar berfformiad oherwydd yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fynd i ddigwyddiad coch.

Fel y cyhoeddwyd mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, rhoddwyd model ymateb clinigol newydd ar waith yng Nghymru o 1 Hydref 2015. Deuddeg mis oedd hyd y treial ar y cychwyn ond cafodd ei ymestyn am 6 mis arall. Ond, ar ôl cael adroddiad gwerthuso annibynnol a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, rhoddwyd y model ymateb clinigol ar waith (Chwefror 2017). Gweler yr Adroddiad ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Categorïau galwadau

Coch: Lle mae bywyd rhywun yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon).

Ambr: Difrifol, ond nid yw bywyd rhywun yn y fantol (cleifion fydd yn aml yn gorfod cael triniaeth yn y fan a'r lle, ac yna’n gorfod mynd i’r ysbyty).

Gwyrdd: Heb fod yn frys (yn aml, bydd gwasanaethau iechyd eraill ac asesiad clinigol dros y ffôn yn gallu rheoli’r achosion hyn).

Mae categori galwad yn cael ei bennu ar sail yr wybodaeth a roddir gan y galwr yn ei ymatebion i set o gwestiynau wedi’u sgriptio, sydd yna’n cael eu brysbennu’n awtomatig gan y system Pennu Blaenoriaethau Meddygol (MPDS). Rhoddir hyd at ddau funud i’r rheini sy’n cymryd yr alwad adnabod natur cyflwr y claf a pha mor ddifrifol ydyw (ar gyfer y galwadau hynny lle nad yw bywyd yn y fantol). Bydd ambiwlans neu adnodd priodol arall yn cael ei ddanfon cyn gynted ag y bydd y cyflwr a’i ddifrifoldeb wedi’i bennu. Gyda galwadau hynod ddwys, gall hyn fod tra mae’r galwr yn dal ar y ffôn. Mae dau achlysur lle mae modd newid blaenoriaeth galwad; pan fydd gwybodaeth newydd gan y galwr yn cael ei hasesu drwy'r system MPDS, neu pan fydd nyrs neu barafeddyg wedi casglu rhagor o wybodaeth am gyflwr y claf dros y ffôn.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Gwasanaethau Ambiwlans: StatsCymru

Gwasanaethau Ambiwlans: adroddiad ansawdd

Gwasanaethau Ambiwlans: cyhoeddiadau blynyddol

Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Mae ystadegau’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn dangos data misol ar nifer y bobl sy'n bresennol ac yn cael eu derbyn i ysbytai o ganlyniad i dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys mawr yng Nghymru. Mae dau gategori o gyfleuster gofal brys, Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mawr ac Unedau Damweiniau ac Achosion Brys/Mân Anafiadau eraill. Diffinnir Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mawr fel gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol gyda chyfleusterau dadebru a llety ar gyfer derbyn cleifion Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mawr ddarparu gwasanaethau dadebru, asesu a thrin salwch acíwt ac anafiadau i gleifion o bob oed, a rhaid i wasanaethau fod ar gael 24 awr y dydd yn ddi-dor. Caiff Unedau Damweiniau ac Achosion Brys/Mân Anafiadau eraill eu diffinio fel yr holl unedau Damweiniau ac Achosion Brys/argyfyngau/mân anafiadau eraill, sydd â llety i dderbyn cleifion Damweiniau ac Achosion Brys ac y gellir cael gafael arnynt heb apwyntiad.

Oherwydd pandemig COVID-19 , mae sawl Uned Mân Anafiadau wedi cau dros dro, ond mae rhai wedi ail-agor ers hynny. Y rhain yw Ysbyty y Barri (caeodd ym mis Mawrth 2020; ailagorwyd ym mis Awst 2020); Bryn Beryl (caeodd ym mis Ebrill 2020; ailagorwyd ym mis Awst 2020);Ysbyty Dolgellau ac Abermo (caeodd ym mis Mawrth 2020; yn parhau wedi cau); Ysbyty Coffa Tywyn a’r Cyffiniau (caeodd ym mis Mai 2020; yn parhau wedi cau); ac Ysbyty Llanymddyfri (caeodd ym mis Chwefror 2020; yn parhau wedi cau).

Atgyfeirio cleifion allanol

Diwygiadau: O fis Rhagfyr 2015 ymlaen, nod ein polisi diwygio yw edrych yn ôl ar bob 12 mis ar sail fisol, a chynnal adolygiad llawn o’r ffigurau atgyfeirio yn ôl i fis Ebrill 2012 ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (pan mai'r data ar gyfer mis Mawrth mewn unrhyw flwyddyn benodol yw’r data diweddaraf sydd ar gael i ni).

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o’r DU ond nid oes modd cymharu'r data yn llwyr oherwydd safonau a diffiniadau lleol ym mhob ardal. Cytunwyd ar ddiffiniadau a safonau data ar draws byrddau iechyd, gan sicrhau bod data’n cael eu casglu’n gyson ar draws Cymru.

Atgyfeirio cleifion allanol: StatsCymru

Atgyfeirio cleifion allanol: adroddiad ansawdd

Llwybrau canser

Ar hyn o bryd, mae cleifion sydd â chanser yn cael eu rhannu’n ddau grŵp penodol (yn unol â'r safonau canser).

Y rheini sy’n cael eu hatgyfeirio drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser:

  • Mae'r grŵp hwn yn cynnwys cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio o ofal sylfaenol (ee, gan feddyg teulu) i ysbyty fel achosion brys ag amheuaeth o ganser, a bod hyn wedyn yn cael ei gadarnhau fel achos brys gan yr ymgynghorydd meddygol neu gan aelod dynodedig o’r Tîm Amlddisgyblaethol.

Y rheini nad ydynt yn cael eu hatgyfeirio drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser:

  • Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cleifion sydd â chanser (ni waeth beth yw eu llwybr atgyfeirio), nad ydynt wedi’u cynnwys yn barod fel cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio fel achos brys ag amheuaeth o ganser.

Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys pob claf â chanser, waeth beth fo'i ardal breswyl, sydd wedi dechrau triniaeth yn y cyfnod adrodd. Nid ydynt yn cynnwys cleifion o Gymru â chanser sy'n cael triniaeth mewn ysbytai preifat neu ysbytai'r GIG y tu allan i Gymru.

Nid yw cleifion lle mae’r canser cynradd gwreiddiol yn dychwelyd yn cael eu cynnwys. 

Nid yw Powys ar hyn o bryd yn cyflwyno data ar gleifion â chanser a atgyfeiriwyd drwy’r llwybr ar frys oherwydd amheuaeth o ganser neu heb fod ar frys gan nad yw Powys yn darparu gwasanaethau acíwt. Caiff trigolion o Bowys eu cynnwys yn y data a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd lleol eraill. 

Ar hyn o bryd, mae data sy’n ymwneud â nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis sy’n dechrau eu triniaeth a nifer yr atgyfeiriadau a wneir yn ôl llwybr triniaeth canser, safle canser a bwrdd iechyd lleol ar gael yn fisol ar StatsCymru.

Un Llwybr Canser

Mae Un Llwybr Canser yn gasgliad o amseroedd aros newydd a gyhoeddwyd yn 2018 gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r ystadegau'n cynnwys pob claf yr amheuir bod canser arno. Mae'r llwybr yn mesur yr amser rhwng yr amheuaeth a dechrau'r driniaeth, yn hytrach na'r pwynt atgyfeirio.

I gael rhagor o wybodaeth am yr un llwybr canser, darllenwch ddogfennau allweddol yr un llwybr canser.

Ffynonellau

  • Mae data ymateb ambiwlansys yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
  • Mae data amseroedd aros canser yn cael eu darparu gan y byrddau iechyd lleol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.
  • Mae'r holl ddata arall sydd wedi’u crynhoi yma yn cael eu casglu oddi wrth fyrddau iechyd lleol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae manylion llawn ar gael yn yr Adroddiadau Ansawdd ar gyfer pob maes gwasanaeth (gweler y dolenni isod).

Yr amserlen

Nid oes gan bob set ddata yr un amserlenni ar gyfer prosesu. I sicrhau bod y data ar gael cyn gynted ag y bo modd, rydym yn cyhoeddi data gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Chwefror, dyweder, gyda’r data gofal wedi'i gynllunio ar gyfer mis Ionawr.

Data

Mae’r holl siartiau yn y datganiad hwn yn dechrau gyda’r mis y cafodd data cymharol eu casglu am y tro cyntaf, ac eithrio galwadau coch am ambiwlans, gan ei bod yn ymddangos bod nifer y digwyddiadau coch wedi newid yn sgil diweddaru’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019. Felly, nid yw’n bosibl cymharu nifer y galwadau coch cyn y cyfnod hwn.

Mae modd gweld, defnyddio neu lwytho rhagor o setiau data manwl i lawr drwy ein API data agored ar StatsCymru.

Cyfrifir newidiadau pwynt canran gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu.

Adolygiadau

Cyflwynir gwybodaeth yn ymwneud â diwygiadau yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy'n cyd-fynd â setiau data StatsCymru bob mis.

Perthnasedd

Beth yw'r ffyrdd posibl o ddefnyddio'r ystadegau hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i Weinidogion
  • asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau
  • llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd i wella ansawdd
  • gan Fyrddau Iechyd Lleol y GIG, i'w meincnodi eu hunain yn erbyn byrddau iechyd lleol eraill
  • cyfrannu at erthyglau newyddion ar amseroedd aros
  • helpu i bennu'r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan GIG Cymru

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn ddefnyddiol o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr posibl:

  • Gweinidogion a'u cynghorwyr
  • Aelodau Senedd Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Aelodau Senedd Cymru
  • byrddau iechyd lleol
  • awdurdodau lleol
  • Yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
  • y cyfryngau

Gallai'r ystadegau fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer llywodraethau eraill y DU

Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

Llywodraeth yr Alban

Adran Iechyd Lloegr

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r holl ystadegau a gyflwynir yma fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 a chan ddynodi ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol yn 2011 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu'n llawn yn erbyn y Cod Ymarfer ddiwethaf yn 2011.

Ystadegau Arbrofol

Ystadegau Arbrofol yw’r ystadegau sy’n gysylltiedig ag Un Llwybr Canser. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr am y data a’r ffaith fod yr ystadegau yr adroddir arnynt yn dal i gael eu datblygu ac y gallai fod problemau o ran ansawdd y data. Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dal i fod o werth ar yr amod fod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun gwybodaeth am ansawdd y data sydd ar gael. Wrth i’r set ddata aeddfedu, bydd cwmpas ac ansawdd y data yr adroddir arnynt yn gwella, a gellir defnyddio’r data ar gyfer amrywiaeth eang o resymau buddiol.

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi er mwyn cynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid yn y broses o’u datblygu ac fel ffordd o sicrhau ansawdd yn gynnar yn y broses.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â holl agweddau Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ystadegau arbrofol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Dan adran (10) (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) chyflwyno copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

22 Hydref 2020

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir eu darparu drwy e-bost at ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 140/2020