Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Y mis hwn rydym wedi cyhoeddi rhagor o ddata sy’n ymwneud ag ymweliadau â thudalen we’r gwasanaeth 111 a data a lenwir yn yr holiadur symptomau ar-lein ar ein gwefan StatsCymru.

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Rydym wedi ymgorffori’r mesuriadau perfformiad yma'n erbyn yr uchelgeisiau hyn yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Mai, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 3,558 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 9.6% o’r holl alwadau. Mae hyn yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol. Cafodd 54.5% o alwadau coch ymateb brys o fewn 8 munud, sy’n is na’r targed o 65%.

Ar gyfartaledd, roedd 2,937 o ymweliadau ag adrannau brys bob dydd, cynnydd mewn gweithgarwch o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd perfformiad o ran y targedau pedair awr a deuddeg awr ill dau wedi gwella rhywfaint o’i gymharu â mis Ebrill, er mai’r rhain oedd y chweched a’r trydydd isaf ar gofnod yn y drefn honno. Fe wnaeth yr amser cyfartalog (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau brys wella rhywfaint ym mis Mai hefyd, ond hwn oedd y pedwerydd hiraf ar gofnod er hynny, sef tair awr a munud.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, ac ym mis Ebrill mae rhestrau wedi cynyddu i dros 707,000. Fodd bynnag, mae cyfradd y cynnydd wedi arafu’n ddiweddar. Ym mis Ebrill, caewyd 65,177 o lwybrau cleifion, sy’n is na’r cyfartaledd cyn y pandemig, ond yn sylweddol uwch nag yn ystod rhan gyntaf y pandemig. Mae llwybrau cleifion yn wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ym mis Ebrill i 53.7%, o 54.2% ym mis Mawrth. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ers tro ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Mae nifer y llwybrau sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu i’r nifer mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill, sef 258,189.

Roedd ychydig dros 68,000 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sy'n ostyngiad bach yn y mis diwethaf ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Ebrill yn dal yn uchel ar 22.5 wythnos.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy nag 8 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i 45,028, y pumed lefel isaf ers mis Ebrill 2021.

Ar gyfer therapïau, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros wedi cynyddu rhywfaint i 63,510 ym mis Ebrill, sef y lefel uchaf erioed. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i 13,103, y trydedd lefel uchaf ar gofnod.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd llai o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Ebrill (1,430) a chaewyd llai o lwybrau ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd ganddo ganser (10,539) nag yn y mis blaenorol. Gostyngodd perfformiad o gymharu â’r targed 62 diwrnod o'i gymharu â mis Mawrth.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mai 2022.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Ym mis Mai, atebwyd 71,120 o alwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o 2,294 o alwadau y dydd. Cafodd 6,215 o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 2,015 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu. Cafodd 4,236 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon, ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros.

O'r galwadau a atebwyd, ar gyfer 1,084 ohonynt, nododd y galwr ei fod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad.

Cafwyd 329,785 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru a llenwyd 12,164 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Mai.

Cyhoeddir rhagor o ddata ar StatsCymru.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac ar StatsCymru.

Gweithgaredd

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Mai, gwnaethpwyd 38,000 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Mae hyn yn gyfartaledd o 1,207 o alwadau y dydd, cynnydd o 55 (4.3%) o alwadau y dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, a 130 (neu 9.7%) yn llai o alwadau y dydd ar gyfartaledd na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). Roedd 116 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ar gyfartaledd ym mis Mai. Dyma’r 12fed mis yn olynol lle cafwyd dros 100 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd i'r gwasanaeth ambiwlans lle’r oedd bywyd yn y fantol.

Ym mis Mai, roedd cyfran yr holl alwadau lle roedd bywyd yn y fantol (galwadau coch) yn 9.6%, a oedd yn debyg i 9.5% ym mis Ebrill.

Perfformiad
Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Mai, cyrhaeddwyd 54.5% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Mae hyn 3.4 pwynt canran yn uwch nag yn y mis blaenorol, ond 6.1 pwynt canran yn is nag ym mis Mai 2021.

Mae canolrif yr amser ymateb dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Mai, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol ‘coch’ oedd 7 munud a 22 eiliad. Roedd hyn 27 eiliad yn gyflymach nag ym mis Ebrill ond 36 eiliad yn arafach nag ym mis Mai 2021.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Mai, roedd canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau ambr ychydig o dan 1 awr a 18 munud. Mae hyn bron i 30 munud yn gyflymach nag ym mis Ebrill, a bron i 30 munud yn arafach nag ym mis Mai 2021.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Mai, roedd mwy nag 91,000 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Mae hyn yn gyfartaledd o 2,937 ymweliad ag adran achosion brys y dydd, 162 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol, a 123 yn fwy na’r un mis y llynedd.

Ym mis Mai, derbyniwyd bron 14,000 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn 6.7% yn uwch na’r mis blaenorol, ond 15.3% yn is na’r un mis yn 2021.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Ebrill, roedd 66.6% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, sef y drydedd lefel isaf ar gofnod. Roedd hyn 0.8 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol, ond 5.6 pwynt canran yn is na’r un mis y llynedd. Yn 2019, canolrif yr amser a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Mai, canolrif yr amser aros oedd 3 awr ac 1 funud. Roedd hyn funud yn gynt na’r mis blaenorol, ond y trydydd amser aros hiraf ar gyfartaledd (canolrifol) erioed.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr.

Ym mis Mai, treuliodd plant (0 i 4 oed) 2 awr a 24 munud yno ar gyfartaledd. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 7 awr a 17 munud mewn adrannau brys, yr isaf y mae wedi bod ers mis Medi y llynedd.

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Mai, roedd dros 10,200 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 235 yn llai nag yn y mis blaenorol a dyma'r ail ostyngiad yn olynol ers y lefel uchaf erioed.

Gofal wedi’i drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Ebrill 2022.

Atgyfeiriadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 3,248 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Ebrill. Mae hyn yn ostyngiad o 13.4% (503 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Mawrth, ac mae 5.8% yn is nag ym mis Ebrill 2021.

Perfformiad

Targedau

Neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd 2022 (targed newydd wedi’i sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl Wythnos ar StatsCymru

Ym mis Ebrill, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol i 93,077. Mae hyn wedi cynyddu’n ddramatig yn ystod y pandemig, er ei fod wedi gostwng ers y brig o dros 101,000 ym mis Hydref 2021.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi

Gweithgaredd

Image
Mae Siart 7 yn dangos cyfanswm y cleifion sy’n aros mwy na’r amser targed ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapi fesul mis. Pandemig y coronafeirws (COVID-19) sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg o fis Mawrth 2020. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Ym mis Ebrill, roedd dros 109,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, cynnydd o 0.3% o gymharu â’r mis blaenorol ac roedd dros 63,000 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, cynnydd o 0.3% o gymharu â’r mis blaenorol – i’r lefel uchaf erioed.

Perfformiad
Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu Gwanwyn 2024 fel dyddiad targed i gyflawni'r targedau hyn.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y nifer sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Noder: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Ddiwedd mis Ebrill, roedd dros 45,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn yn gynnydd o 8.1% o’i gymharu â’r mis blaenorol a 10.0% yn uwch na mis Ebrill 2021.

Ddiwedd mis Ebrill, roedd ychydig dros 13,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Mae hyn yn ostyngiad o 10.5% o’i gymharu â mis Mawrth 2022 a dyma’r gostyngiad misol cyntaf ers mis Mai 2021. Roedd canolrif yr amseroedd aros wedi bod yn gymharol sefydlog ar gyfer profion diagnostig ers 2017 ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018. Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Mehefin 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Ebrill, 6.2 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig. Mae hyn yn gynnydd o 5.4 wythnos yn y mis blaenorol. 6.4 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi. Mae hyn yn gynnydd o 5.8 wythnos yn y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi’u cau yn golygu’r rheini sydd wedi’u tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Gweithgaredd

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn Gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth ers mis Mawrth 2020.

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Ym mis Ebrill, roedd dros 707,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth – y ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy yn 2011. Roedd hyn 0.8% yn uwch nag yn y mis blaenorol ac roedd 60.1% yn uwch nag ym mis Ebrill 2020.

Roedd dros 171,000 o lwybrau’n aros dros flwyddyn ym mis Ebrill, sydd wedi bod yn sefydlog ar y cyfan dros y 12 mis diwethaf, ac roedd ychydig dros 68,000 o lwybrau’n aros dros ddwy flynedd, sy'n ostyngiad bach yn y mis diweddaraf ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol.

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros ers mis Mawrth 2020.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

O blith y 707,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Ebrill, roedd 53.7% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Mae hyn 0.5 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 20.5 pwynt canran yn is nag ym mis Ebrill 2020.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ym mis Ebrill, roedd bron i 258,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn yn 36.5% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Mae hyn 5,012 (neu 2.0%) yn fwy o lwybrau’n aros na’r mis blaenorol, a dros bum gwaith yn fwy nag ym mis Ebrill 2020.

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Ebrill, 23 wythnos oedd canolrif yr amser aros. Mae hyn yn gynnydd o 22.5 wythnos yn y mis blaenorol.

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwer: Nid yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gallu darparu data llwybrau sydd wedi cau ers mis Medi 2018. Mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn wedi’u heithrio o gyfanswm Cymru yn y siart er mwyn ei gwneud hi’n bosibl dadansoddi tueddiadau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd dros 65,000 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Mawrth. Mae hyn yn gyfartaledd o 3,104 o lwybrau cleifion wedi’u cau am bob diwrnod gwaith – gostyngiad o 12.6% ers mis Chwefror.

Gwasanaethau canser (ystadegau arbrofol)

Mae Ystadegau arbrofol (ONS) yn ystadegau swyddogol sydd yn y cyfnod profi ac nid ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto.

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Gweithgaredd

Image
Siart yn dangos Nifer y cleifion a cael gwybod nad oes canser arnynt a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Ebrill, dechreuodd 1,430 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Mae hyn yn ostyngiad o 16.9% o gymharu â’r mis blaenorol ac yn ostyngiad o 6.7% ers mis Ebrill 2021.

Cafodd 10,539 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 16.6% yn llai na’r mis blaenorol.

Ym mis Ebrill, agorwyd 12,814 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn ostyngiad o 2,486 (16.2%) o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Image
Siart yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth gyntaf o ganser godi yn y mis, fesul mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Ebrill, roedd 56.4% o’r llwybrau (807 allan o 1,430) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 2.2 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 10.4 pwynt canran yn is nag ym mis Ebrill 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

21 Gorffennaf 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 141/2022