Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Chwefror a Mawrth 2020
Crynodeb o ddata gweithgarwch GIG Cymru, gan gynnwys yr wybodaeth fisol ddiweddaraf sydd ar gael ar nifer y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys, nifer y galwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans a nifer y cleifion sy’n dechrau triniaeth am ganser.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Gofal heb ei drefnu
Galwadau brys (gwasanaeth ambiwlans)
Ym mis Mawrth 2020, roedd 37,568 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. O’r rhain, roedd 2,620 yn y categori mwyaf difrifol (coch).
Ar gyfartaledd roedd 1,252 o alwadau brys y dydd, i fyny o 1,241 yn Chwefror 2020.
Ar gyfartaledd, cafwyd 87 o alwadau coch bob dydd ym mis Mawrth, i fyny o 76 ym mis Chwefror ac i fyny o 67 yn Chwefror 2020.
Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn.
Nifer y bobl sy’n mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a’r nifer sy’n cael eu derbyn i Ysbyty
Mae data ar gyfer mis Mawrth yn debyg wedi eu heffeithio gan newidiadau mewn ymddygiadau a mesurau arwahanu oherwydd yr argyfwng coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfartaledd, roedd 2,037 o dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys bob dydd ym mis Hydref. Mae hyn yn:
- 24.4% yn is nag yn Chwefror 2020 (657 y dydd yn llai ar gyfartaledd)
- 29.3% yn is nag ym mis Mawrth 2019 (843 y dydd yn llai ar gyfartaledd)
Cyfanswm nifer y derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020 yw 1,043,500. Mae hyn yn:
- 0.7% yn is na’r flwyddyn flaenorol (yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mawrth 2019)
- 6.3% yn uwch na’r cyfnod 12 mis cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mawrth 2015)
Ym mis Mawrth, derbyniwyd 13,131 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys. Mae hyn yn:
- 2,237 yn llai na’r mis blaenorol (Chwefror 2020)
- 4,089 llai na’r mis cyfatebol flwyddyn yn ôl (Mawrth 2019)
2. Gofal wedi’i drefnu
Cleifion sy’n dechrau triniaeth am ganser sydd wedi’u hatgyfeirio drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser
Yn ystod y 12 mis hyd at Chwefror 2020, roedd 8,232 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau ar eu triniaeth drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser. Mae hyn yn:
- cynnydd o 0.7% (61 o gleifion) dros y 12 mis blaenorol (yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwefror 2019)
- cynnydd o 24.7% (1,631 o gleifion) o’r un cyfnod 5 mlynedd yn ôl (blwyddyn a ddaeth i ben yn Chwefror 2015)
Cleifion sy’n dechrau triniaeth am ganser nad oeddent wedi’u hatgyfeirio drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser
Yn ystod y 12 mis hyd at Chwefror 2020, roedd 9,042 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau ar eu triniaeth heb gael eu hatgyfeirio drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser. Mae hyn yn:
- gostyngiad o 4.0% (378 o gleifion) dros y 12 mis blaenorol (yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwefror 2019)
- gostyngiad o 5.6% (538 o gleifion) o’r un cyfnod 5 mlynedd yn ôl (yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwefror 2015)
Un llwybr canser
Cyfrifir cleifion ar y llwybrau brys a’r rheini nad ydynt ar y llwybrau brys, yn ogystal â’r un llwybr canser.
Mae’r ystadegau arbrofol ar gyfer yr un llwybr canser yn dangos bod 12,452 o gleifion wedi dod ar y llwybr yma yn Chwefror 2020. Mae hyn yn gostyngiad o 9.5% (1,301 o gleifion) ers Ionawr 2020.
Ym mis Chwefror 2020, cafodd 1,381 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser eu trin drwy’r un llwybr canser. Mae hyn yn gostyngiad o 7.0% (104 o gleifion) ers Ionawr 2020.
3. Gwybodaeth o ansawdd
Tarwch olwg ar gyhoeddiadau’r mis blaenorol am yr wybodaeth ansawdd lawn a’r nodiadau sy’n berthnasol i’r data hyn.
4. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 32/2020