Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad misol sy’n crynhoi data am weithgarwch yn y GIG yng Nghymru ar gyfer Chwefror a Mawrth 2020.

Mae llawer o’r trefniadau casglu data cenedlaethol wedi’u hatal dros-dro yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener 13 Mawrth ynghylch canslo rhai triniaethau meddygol penodol a llacio targedau perfformiad. O’r herwydd, byddwn ni hefyd yn rhoi’r gorau i adrodd ar ystadegau perfformiad am y tro. Bydd y newidiadau hyn mewn grym hyd at y cyfnod adrodd ym mis Hydref 2020 o leiaf.

Felly, yn ystod y cyfnod hwn, bydd y cyhoeddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am weithgarwch GIG Cymru yn unig. Yn benodol, mae hyn yn golygu nifer y bobl sy’n mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion brys a faint sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty, nifer y galwadau brys i’r gwasanaethau ambiwlans, a nifer y cleifion sy’n dechrau triniaeth am ganser. Ni fydd yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad nac unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, oedi wrth drosglwyddo gofal, llwybrau wedi cau neu atgyfeiriadau i gleifion allanol.

Hefyd, nodwch yn ystod y cyfnod hwn ni fyddwn yn diweddaru'r dangosfwrdd cryno SlideShare. Bydd y prif bwyntiau’n cael eu dosbarthu drwy’r adroddiad ac unrhyw ddata gweithgareddol dethol yn cael eu cyhoeddi drwy dablau StatsCymru.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.