Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Chwefror a Mawrth 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Crynodeb

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch ym mis Mawrth. Gostyngodd canran y cleifion sy'n treulio llai na 4 awr yno a chynyddodd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yno, ond mae perfformiad wedi gwella yn gyffredinol ers y cofnodion isaf erioed ym mis Mawrth 2018.

Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans yn is ym mis Mawrth 2019. Fe wnaeth canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud gwrdd â’r targed ond roedd yn is nag ym mis Chwefror 2019.

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig a gwasanaethau therapi yn is ym mis Chwefror, ond mae nifer y cleifion sy’n gorfod aros mwy na 14 wythnos yn is na maent wedi bod ers mis Tachwedd 2010.  Roedd perfformiad rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gwella gyda chynnydd yng nghanran y cleifion a oedd wedi aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth a gostyngiad yn nifer y cleifion a oedd yn disgwyl mwy na 36 wythnos. Roedd gwelliant ym mherfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) hefyd.

Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi gostwng ar gyfer cleifion ar y llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser a’r rheini nad oeddent ar y llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser.

Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi cynyddu ac roedd gweddill y targedau ar gyfer gofal wedi’i drefnu a gofal heb ei drefnu wedi’u methu.

Cafwyd cynnydd yn amseroedd aros cyfartalog yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ym mis Mawrth ac roedd cyfartaledd yr amseroedd ymateb i alwadau brys ar gyfer ambiwlansys yr un fath â’r mis blaenorol. Gostyngodd yr amseroedd aros cyfartalog diweddaraf rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ond bu cynnydd bach yn yr amseroedd aros cyfartalog ar gyfer profion diagnostig a gwasanaethau therapi ym mis Chwefror.

Adroddiadau

Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG: Chwefror a Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 502 KB

PDF
Saesneg yn unig
502 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.