Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Awst a Medi 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG
Gofal heb ei drefnu
Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch ym mis Medi, a dyma oedd yr ail ffigur uchaf yn ystod y 12 mis blaenorol. Roedd canran y cleifion sy'n treulio llai na 4 awr yno wedi gostwng, a nifer y cleifion sy’n treulio mwy na 12 awr yno wedi cynyddu. Dyma’r perfformiad gwaethaf i gael ei gofnodi ar gyfer y ddau fesur.
Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans wedi lleihau ym mis Medi, ond cafwyd y ganran uchaf erioed o alwadau yn y categori mwyaf difrifol (galwadau ‘coch’). Llwyddwyd i gyrraedd y targed, sef 65%, ar gyfer ymateb i alwadau coch o fewn 8 munud.
Roedd yr amser cyfartalog ar gyfer ymateb ambiwlansys i alwadau coch wedi cynyddu ychydig ym mis Medi. Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi cynyddu ychydig ym mis Medi.
Gofal wedi’i drefnu
Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig a phrofion therapi yn uwch ym mis Awst. Roedd amseroedd aros cyfartalog wedi cynyddu ar gyfer profion diagnostig a phrofion therapi.
Roedd perfformiad o ran atgyfeirio ar gyfer triniaeth wedi dirywio ers y mis diwethaf. Roedd canran is o gleifion yn aros llai na 26 wythnos, y lleiaf ers mis Ionawr 2018. Roedd mwy o gleifion yn aros mwy na 36 wythnos, y mwyaf ers mis Ionawr 2018. Roedd yr amser cyfartalog ar gyfer aros am driniaeth wedi cynyddu.
Rhwng mis Gorffennaf a mis Awst, roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi cynyddu ar gyfer cleifion ar y llwybr brys, ond wedi lleihau ar gyfer cleifion nad oeddent ar y llwybr brys ar gyfer canser. Mae ystadegau arbrofol ar gyfer un llwybr canser wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd.
Adroddiadau
Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG, Awst a Medi 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 563 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.