Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Fframwaith atebion o ran dodrefn (NPS-CFM-0092-18)
Gan groesawu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llawn, mae ein fframwaith atebion dodrefn newydd yn canolbwyntio ar gefnogi Mentrau Cymdeithasol Cymru, yr Economi Gylchol a sicrhau mwy o werth am arian.
Fel arlwy craidd, gall cwsmeriaid brynu eitemau o ddodrefn wedi'u hail-weithgynhyrchu a'u hailddefnyddio yn ogystal â chynnyrch newydd.
Mae dau fusnes a gefnogir yng Nghymru, lle mae o leiaf 30% o'r gweithlu yn cael eu hystyried yn anabl, gan gyflenwi drwy'r fframwaith sy'n annog amrywiaeth yn y gweithle ac sy'n cefnogi'r economi leol.
Rydym yn gweithio gyda WRAP Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu canllaw i brynwyr i helpu i gynorthwyo cwsmeriaid i brynu atebion dodrefn cynaliadwy.
I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith ewch i GwerthwchiGymru yma (angen mewngofnodi cyn cael mynediad i'r ddolen).
Deunyddiau glanhau a phorthorol a gwasanaethau ystafelloedd ymolchi (NPS-CFM-099-19)
Mae ailgylchu a lleihau gwastraff yn nodweddion allweddol o'r fframwaith glanhau. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i'n cyflenwyr ganolbwyntio ar leihau deunydd pacio a sicrhau bod unrhyw ddeunydd pacio a ddefnyddir ganddynt yn gynaliadwy, yn adnewyddadwy ac yn ailgylchadwy.
Fel rhan o'u cyflwyniad tendr, gofynnwyd i gyflenwyr gadarnhau pa fanteision cymunedol y byddent yn eu cynnig drwy gydol oes y fframwaith. Roedd y rhain yn cynnwys mentrau ailgylchu i gefnogi'r economi gylchol a chreu swyddi, a/neu gyfleoedd hyfforddi. Drwy reoli contractau'n rheolaidd rydym yn cysylltu'n agos â'r holl gyflenwyr i fonitro eu cynnydd yn erbyn cyflawni'r manteision hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny drwy gydol y fframwaith.
Fel rhan o'r broses o sefydlu'r cytundeb hwn, ystyriwyd rhai o'r mentrau polisi allweddol ehangach gan ein harwain at gefnogi menter Trechu Tlodi Mislif Llywodraeth Cymru, gan ganiatáu i gwsmeriaid hefyd brynu eitemau misglwyf drwy'r fframwaith.
Gallwch gael gwybod mwy am y fframwaith ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi cyn cael mynediad i'r ddolen).
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: NPSConstructionandFM@llyw.cymru.