Neidio i'r prif gynnwy

Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, 10 Mehefin 1921 i 9 Ebrill 2021

Darllenwch am y trefniadau yn dilyn marwolaeth Dug Caeredin

Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fframwaith Atebion o ran Dodrefn

Yn ystod wythnos 10 Mai, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau Microsoft Teams fydd yn cynnwys cyflenwyr ar ein cytundeb fframwaith atebion o ran dodrefn.

Bydd y sesiynau hyn yn cael eu recordio a byddant ar gael wedyn.

Os hoffech gofrestru i fynychu sesiwn, anfonwch e-bost at NPSConstructionandFM@llyw.cymru. Dywedwch os hoffech ddefnyddio'r Gymraeg yn y sesiwn yn eich e-bost.

Fframwaith Deunyddiau Adeiladu

Yn ddiweddar, cynhaliwyd cyfres o sesiynau fframwaith rhithwir yn cynnwys cyflenwyr o lot 7 o'n fframwaith deunyddiau adeiladu. Yn ystod y sesiynau, cafodd cwsmeriaid gyfle i glywed gan Robert Price, Jewson ac LBS Building Merchants.

Mae'r recordiadau a'r sleidiau cyflwyno bellach ar gael i gwsmeriaid ar GwerthwchiGymru. Os hoffech glywed gan fwy o gyflenwyr o lotiau 1-6 o'r fframwaith, anfonwch e-bost at: NPSConstructionandFM@llyw.cymru

Rydym wedi derbyn adolygiad pris gan Crown Paints Ltd ar ein fframwaith deunyddiau adeiladu ar gyfer cynhyrchion craidd a gyflenwir o dan lot 3 (cynhyrchion addurnol). Bydd prisiau newydd yn weithredol o 1 Ebrill 2021.

Mae'r rhestrau prisiau wedi'u diweddaru ar gael ar GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi).

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch NPSConstructionandFM@llyw.cymru