Diweddariadau fframwaith.
Deunydd ysgrifennu a phapur copïwr
Mae ein fframwaith deunydd ysgrifennu a phapur chopïwr newydd (WGCD-CS-111-21) wedi'i ddyfarnu a bydd yn fyw ar 1 Mehefin. Yr unig gyflenwr ar y fframwaith yw Lyreco. Bydd canllawiau ar gael ar GwerthwchiGymru yn fuan.
Gwasanaethau prynu cyfryngau
Rydym wedi ymestyn ein fframwaith gwasanaethau prynu cyfryngau (NPS-CS-0100-19) tan 31 Gorffennaf 2022 i roi amser i gyflenwyr wneud cais am ail-dendro’r cytundeb fframwaith hwn. Os hoffech chi ddefnyddio'r fframwaith hwn, cysylltwch â Golley Slater yn uniongyrchol. Mae canllawiau pellach ar gael ar GwerthwchiGymru.
Mae’r tendr ar gyfer y cytundeb fframwaith newydd yn cau ar 9 Mai 2022. Disgwylir i’r cytundeb fframwaith newydd ddechrau ar 1 Awst 2022.
Arolwg cwsmeriaid gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi
Rydym yn gweithio ar ein fframwaith gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi newydd. Fel rhan o'r broses hon, rydym wedi cyhoeddi arolwg cwsmeriaid er mwyn casglu eich barn chi. Os hoffech gymryd rhan yn y gwaith hwn ac ymateb i’n harolwg, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru
Cynnydd mewn prisiau
O ganlyniad i gynnydd byd-eang mewn costau, rydym yn derbyn ceisiadau am gynnydd mewn prisiau gan gyflenwyr ar ein fframwaith bagiau gwastraff. Rydym yn gweithio i negyddu effaith y cynnydd, ond mae rhai codiadau yn anochel oherwydd dibyniaeth ar ddeunyddiau crai, ynni, cludiant a dosbarthu. I gael rhestrau prisiau wedi’u diweddaru, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru