Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyfarpar Diogelu Personol a Dillad Gwaith - System Brynu Ddeinamig (contract wedi’i neilltuo)

Rydym wedi sefydlu System Brynu Ddeinamig ar gyfer cyflenwi cyfarpar diogelu personol (PPE) gwelededd uchel, gwisgoedd, dillad gwaith a dillad hamdden.

Gan ddefnyddio Rheoliad 20 o'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (2015), dyfarnwyd y System Brynu Ddeinamig ar sail neilltuedig a dim ond sefydliadau a ddosberthir fel gweithdy cysgodol oedd yn gallu gwneud cais am le ar y System Brynu Ddeinamig. Gellir diffinio gweithdy cyflogaeth cysgodol fel busnes sydd ag o leiaf 30% o weithwyr sy'n cael eu hystyried yn weithwyr anabl neu ddifreintiedig. Mae dau gyflenwr wedi'u penodi i'r System Brynu Ddeinamig, Elite Clothing Solutions, sydd wedi'u lleoli yn ne Cymru ac Ilasco sydd wedi'u lleoli yn yr Alban.

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y marchnadoedd sydd ar gael ar gyfer unrhyw gyflenwyr a benodir, bydd y System Brynu Ddeinamig ar gael i gyrff cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig brynu drwyddo.

Mae'r System Brynu Ddeinamig yn darparu nifer o fanteision gan gynnwys:

  • Mwy o fynediad at gyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl neu ddifreintiedig
  • Cynyddu amrywiaeth sylfaen cyflenwyr y sector cyhoeddus, drwy dynnu o'r gronfa ehangach o dalent a sgiliau sydd ar gael yn y gweithlu, nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd h.y. gweithwyr difreintiedig sy'n wynebu rhwystrau rhag ymuno â'r farchnad lafur
  • Cyfrannu at fwy o gynhwysiant cymdeithasol a rhyngweithio rhwng pobl anabl yn y farchnad lafur a'u cymunedau.
  • Darparu llwybr syml i'r farchnad i gyrff cyhoeddus gaffael o'r busnesau hyn mewn modd sy’n cydymffurfio
  • Bydd yn parhau ar agor am ei holl gyfnod, gan roi cyfle i weithdai cyflogaeth cysgodol/busnesau a gefnogir newydd neu sydd eisoes wedi'u sefydlu ymuno â'r System Brynu Ddeinamig ar unrhyw adeg drwy gydol ei oes.
  • Bydd y cytundeb newydd hwn yn rhedeg ochr yn ochr â'r DPS presennol ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol a Dillad Gwaith a ddechreuodd ar 1 Hydref 2021.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru