Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Darpariaeth gwasanaeth a reolir ar gyfer gweithwyr dros dro - newidiadau IR35

Ers 6 Ebrill, bu'n ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus roi Datganiad Penderfynu Statws i weithwyr oddi ar y gyflogres a'u hasiantaeth gyflenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma (dolen allanol – Saesneg yn unig).

Bagiau gwastraff, cynhyrchion ailgylchu a ffedogau

Rydym wedi cyhoeddi ein tendr bagiau gwastraff, cynhyrchion ailgylchu a ffedogau (NPS-PS-103-20) ar eDendroCymru. Defnyddiwch y cyfeirnod tendr canlynol: itt_86678 – SSW. Mae'r hysbysiad contract ar gael ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi) a’r Gwasanaeth Canfod Tendr.

Byddwn yn gofyn i gwsmeriaid ein helpu i werthuso'r tendr hwn ar ôl i ni dderbyn ceisiadau ddiwedd mis Mai. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at NPSPeopleServicesUtilities@llyw.cymru