Neidio i'r prif gynnwy

Framework updates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gweithwyr dros dro

Y llynedd, lansiwyd ein fframwaith gweithwyr dros dro diweddaraf, sy'n darparu mynediad at ystod o ddarparwyr gwasanaeth a reolir i fodloni eich gofynion gweithwyr dros dro.

Mae ein  fframwaith hefyd yn cynnwys cyfle newydd i weithio gyda'ch darparwr penodedig i ddatblygu cronfa dalent leol a phwrpasol o weithwyr dros dro. Gall y gronfa dalent gynnwys ymgeiswyr sydd naill ai wedi gweithio i sefydliad yn y gorffennol, a / neu sydd am gael eu hystyried ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys: 

  • contractwyr
  • cyn-weithwyr dros dro
  • pobl sydd wedi ymddeol yn gynnar 
  • ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am swyddi parhaol ond a fyddai'n ystyried swyddi dros dro.

Gall gweithwyr gael eu grwpio yn ôl set sgiliau, cymwysterau, profiad blaenorol a gallant helpu i  leihau'r amser i gyflogi, a thrwy hynny helpu i lenwi swyddi gwag.

Gall y gronfa dalent gael ei rheoli gan eich darparwr fframwaith penodedig, ochr yn ochr â'r llwybrau eraill a gynigir i lenwi swyddi dros dro, a'u hategu, a gall ddarparu nifer o fanteision i'ch sefydliad a'ch gweithlu lleol, gan gynnwys:

  • gall ymgeiswyr gael eu rhag-gymhwyso a'u fetio, a thrwy hynny ddileu'r angen am brosesau sgrinio sy'n cymryd llawer o amser.
  • gellir hysbysebu mynediad i'r gronfa dalent ar draws eich ardal leol, a thrwy hynny helpu gweithwyr lleol i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth.
  • mynediad hawdd i gronfeydd o ymgeiswyr, sgiliau perthnasol a thalent sydd wedi'u sefydlu.
  • llai o hysbysebu swyddi ac aros am ymatebion.

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio manteision gweithredu cronfa dalent, siaradwch â'ch darparwr fframwaith, neu ystyriwch ddefnyddio ein fframwaith gweithwyr dros dro i gael mynediad at ystod o ddarparwyr gwasanaeth a reolir a all ddiwallu'ch anghenion.

Mae canllawiau fframwaith pellach ar gael ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi), neu e-bostiwch: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru