Diweddariadau fframwaith.
Bagiau gwastraff, cynhyrchion ailgylchu a ffedogau - dyfarnu’r fframwaith
Mae'r fframwaith newydd hwn bellach yn fyw ac ar gael i'w ddefnyddio.
Mae'r cytundeb newydd, estynedig bellach yn cynnwys mynediad i'r holl gynhyrchion sydd eu hangen ar Awdurdodau Lleol i gasglu gwastraff, yn unol â glasbrint casglu gwastraff Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys:
- blychau
- cadis
- cynwysyddion
- bagiau untro a bagiau y gellir eu hailddefnyddio
Mae yna hefyd lotiau penodol ar gyfer y GIG ar gyfer eu hanghenion clinigol yn y maes hwn.
Roedd y gwerthusiad fframwaith cynhwysfawr yn cynnwys profion sampl annibynnol, a gwerthusiadau gwerth masnachol, technegol a chymdeithasol. Diolch eto i'r sefydliadau cwsmeriaid a gefnogodd y broses hon.
Mae manylion y fframwaith ar gael ar Gofrestr Contractau GwerthwchiGymru (bydd angen mewngofnodi).
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru
Fframwaith gwasanaethau prynu cyfryngau (NPS-CS-0100-19)
Rydym wedi ymestyn y fframwaith hwn tan 30 Ebrill 2022.
Mae’r dogfennau canllaw ar GwerthwchiGymru wedi'u diwygio i adlewyrchu'r estyniad (angen mewngofnodi). I ddefnyddio'r fframwaith hwn, cysylltwch â'r unig gyflenwr Golley Slater yn uniongyrchol, gan ddefnyddio eu manylion cyswllt ar GwerthwchiGymru.
Fframwaith ymgyrchoedd marchnata integredig a gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus (NPS-CS-0062-16)
Daeth y fframwaith hwn i ben ar 31 Hydref 2021.
Rydym yn cwblhau'r broses o ddyfarnu cytundeb fframwaith newydd, a fydd ar waith cyn bo hir.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r uchod, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru