Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Deunydd ysgrifennu a phapur copïo

Daw'r cytundeb presennol i ben ar 28 Chwefror 2022. Rydym wedi cyhoeddi'r gwahoddiad i ail-dendro a fydd yn cau ar 20 Rhagfyr.

Iechyd galwedigaethol

Gan fod nifer y meddygon iechyd galwedigaethol sydd ar gael yn gostwng yng Nghymru, rydym wedi cyhoeddi hysbysiad tybiannol i weld a yw cyflenwyr eraill yn y farchnad ar gael i gefnogi ein fframwaith iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cysylltiedig. Byddwn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am y canlyniad maes o law.

Bagiau gwastraff, cynhyrchion ailgylchu a ffedogau

I’ch atgoffa, mae'r fframwaith newydd hwn yn fyw ac yn cynnwys mynediad i'r holl gynhyrchion sydd eu hangen ar Awdurdodau Lleol i gasglu gwastraff, yn unol â glasbrint casglu gwastraff Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys blychau; cadis; cynwysyddion; a bagiau untro a bagiau y gellir eu hailddefnyddio. Mae yna hefyd lotiau penodol ar gyfer y GIG ar gyfer eu hanghenion clinigol.

Mae manylion y fframwaith ar gael ar Gofrestr Contractau GwerthwchiGymru (bydd angen mewngofnodi).

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru