Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi

Dylai cwsmeriaid sy’n defnyddio ein fframwaith gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi ar gyfer eu gofynion gweithwyr dros dro, fod yn ymwybodol o’r newidiadau sydd ar fin digwydd i daliadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr (ENI) y Llywodraeth.

Y ddau brif newid sy'n cael eu cyflwyno ar 6 Ebrill 2025 yw:

  • Bydd cyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn codi o 13.8% i 15%
  • Bydd y trothwy enillion wythnosol pan fydd cyflogwyr yn dechrau talu Yswiriant Gwladol Cyflogwyr yn gostwng o £175 i £96

Bydd y newidiadau hyn yn arwain at gynnydd i gostau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, ac wedi hynny cyfanswm y gost o ymgysylltu â phob math o weithwyr.

Changes to the Class 1 National Insurance Contributions Secondary Threshold, the Secondary Class 1 National Insurance contributions rate, and the Employment Allowance from 6 April 2025 ar GOV.UK

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, siaradwch â'ch asiantaeth fframwaith, neu anfonwch e-bost i: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru