Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Fframweithiau gwasanaethau cyfreithwyr
Daeth ein cytundeb fframwaith gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr i ben ar 30 Tachwedd 2020.
Rydyn ni wedi gorffen gwerthuso ein fframwaith gwasanaethau cyfreithwyr newydd ac wedi rhoi gwybod i’r ymgeiswyr am y canlyniad. Yn ddarostyngedig i unrhyw her gyfreithiol yn ystod y cyfnod sefyll gorfodol o 10 diwrnod, rydym yn rhagweld y bydd y fframwaith yn mynd yn fyw yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 14 Rhagfyr 2020. Byddwn yn lanlwytho canllawiau i gwsmeriaid a'r holl ddogfennau cysylltiedig ar GwerthwchiGymru pan fydd y cytundeb newydd yn fyw.
Mae ein fframwaith newydd yn cefnogi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llawn drwy ymgorffori Gwaith Teg Cymru, Manteision Cymunedol ac ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru yn dilyn eu hadolygiad o'r sector cyfreithiol yng Nghymru.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ar ein cytundeb fframwaith newydd, e-bostiwch NPSProfessionalServices@llyw.cymru