Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Gwasanaethau cyfreithwyr
Mae ein fframwaith gwasanaethau cyfreithwyr (NPS-PS-0098-19) yn fyw ac ar gael i'n cwsmeriaid ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, dogfennau cyfarwyddyd, a dogfennau caffael yn ôl y galw, ewch i'r gofrestr contractau ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Bydd Lot 8: contractau masnachol a TG mawr ar gael i gwsmeriaid erbyn diwedd mis Mawrth 2021.
O dan y trefniant hwn, bydd cwmnïau cyfreithiol yn darparu cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi ar draws ystod o bynciau cyfreithiol. Mae'r amserlen o ddigwyddiadau ar gael i'w gweld ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Ymgynghori adeiladu: seilwaith ac ystadau, cyfleusterau a gwasanaethau ychwanegol
Rydyn ni wedi ymestyn cam 2 a 3 ein cytundebau ymgynghori adeiladu nes 31 Mai 2021. Bydd Cyngor Caerdydd yn rheoli'r cytundeb newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y cytundeb newydd, cysylltwch â ConsultancyFramework@cardiff.gov.uk