Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, diweddariad gwasanaethau proffesiynol Awst 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

DPS ymgynghoriaeth eiddo

Cafodd ein system brynu ddeinamig ei gontractio o’r newydd i Gyngor Caerdydd ar 8 Awst 2020. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cytundeb sy'n codi ar ôl y dyddiad hwnnw, anfonwch e-bost CorporateFrameworks@cardiff.gov.uk

Mae'r canllawiau i ddefnyddwyr ar gael ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi cyn cael mynediad i'r ddolen).

Ar gyfer unrhyw faterion etifeddol a gododd cyn dyfarnu’r contract o’r newydd, anfonwch e-bost at NPSProfessionalServices@llyw.cymru.

Fframwaith gwasanaethau cyfreithwyr

Mae hysbysiad contract OJEU wedi ei gyhoeddi ar gyfer ein fframwaith gwasanaethau cyfreithwyr. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau yw 2 Medi 2020.

Disgwylir i'n cytundeb fframwaith newydd ddechrau ar 1 Rhagfyr 2020. Mae fframwaith presennol gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithwyr wedi'i ymestyn tan 30 Tachwedd 2020 er mwyn gallu cwblhau'r broses aildendro. Mae'r canllawiau diwygiedig ar gael ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi cyn cael mynediad i'r ddolen). 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch NPSProfessionalServices@llyw.cymru.

Rhannu’r dudalen hon