Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Atebion o ran dodrefn

Rydym wedi cynhyrchu canllaw newydd gyda WRAP Cymru ar gyfer caffael dodrefn cynaliadwy drwy ein fframwaith (NPS-CFM-0092-18), sydd ar gael ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).

I gael rhagor o wybodaeth am ein fframwaith atebion o ran dodrefn, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Deunyddiau adeiladu

Rydym wedi cytuno ar strategaeth brisio newydd gyda Crown Paints Ltd ar ein fframwaith deunyddiau adeiladu (NPS-CFM-0085-18) ar gyfer y rhestr graidd o gynhyrchion o dan Lot 3: cynhyrchion addurniadol. Mae'r prisiau newydd yn dechrau ar 1 Mai 2022 ac maent ar gael ar GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi).

Gwasanaeth rhagweld tywydd garw

Bydd ein fframwaith gwasanaeth rhagweld tywydd garw (WGCD-BU-0114-22) yn dod i ben ar 18 Medi 2022. Mae canllawiau’r fframwaith cyfredol ar gael i gwsmeriaid ar GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi).

Mae’r hysbysiad contract ar gyfer y fframwaith newydd wedi’i gyhoeddi ar GwerthwchiGymru. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion yw 26 Mai. Disgwylir i’r fframwaith newydd fynd yn fyw o 19 Medi 2022.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru