Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Adran 1

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Gwneud rheoliadau a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru sefydlu cronfa ddata o blant sydd o bosibl yn colli addysg, hynny yw plant nad ydynt ar gofrestr mewn ysgol, nad ydynt yn derbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) nac addysg ddewisol yn y cartref y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu ei bod yn addysg addas. Er mwyn galluogi awdurdodau lleol i sefydlu'r cronfeydd data, bydd y rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bartneriaid awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth nad yw'n sensitif a gwybodaeth nad yw'n glinigol am blant sydd wedi'u cofrestru gyda nhw. Bydd Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) (Cymru) 2025 yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y cynigion hyn. 

Bydd y Rheoliadau yn darparu ffordd i awdurdodau lleol adnabod plant sydd o bosibl yn colli addysg, ac yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael addysg yn unol ag Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac Erthygl 2 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Efallai na fydd plant a phobl ifanc nad ydynt yn derbyn addysg addas yn cyflawni eu potensial ac maent yn llai tebygol o fod mewn amgylchedd sy'n galluogi asiantaethau lleol i ddiogelu a hybu eu llesiant. Prif ddiben y Rheoliadau yw helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 2002. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgymryd â'u swyddogaethau addysg gyda'r bwriad o ddiogelu a hybu lles plant. 

Bydd awdurdodau lleol yn croesgyfeirio'r wybodaeth a ddaw i law yn erbyn y data addysg presennol, ac yn dileu enwau'r holl blant nad ydynt yn colli addysg. Bydd yr wybodaeth sy'n weddill yn darparu carfan o ddysgwyr a) nad ydynt eisoes yn hysbys i'r awdurdod lleol, a b) sy'n hysbys i'r awdurdod lleol ond nad ydynt wedi gallu sefydlu eu bod yn derbyn addysg addas. Bydd yr enwau hyn yn cael eu cynnwys ar Gronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg (PCA) yr awdurdod lleol.

Mae'n ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth briodol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer unrhyw rai o'u swyddogaethau fel y nodwyd ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Ategir hyn gan yr amcan cyffredinol o sicrhau hawl plentyn i addysg ac i ddatblygu'n iach fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn ogystal â hyn, i'r plant hynny sy'n gweld gweithwyr proffesiynol, gall fod budd ychwanegol o ran diogelu. Mae'r amcanion hyn yn cael eu gyrru gan yr amcan cyffredinol o sicrhau hawl y plentyn i ddatblygu drwy addysg.

Integreiddio

Mae'r cynnig yn cyfrannu'n uniongyrchol at agendâu polisi fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae'r cynigion hyn yn cefnogi'r nod o Gymru fwy cyfartal, cymdeithas sy'n galluogi plant a phobl ifanc i wireddu eu hawliau, ac yn enwedig eu hawl i addysg, ac i gyflawni eu potensial waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau.

Cydweithio

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer rheoliadau cronfa ddata yn 2020. Yn dilyn yr ymgynghoriad, cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y byddai cwmpas y gronfa ddata yn cael ei leihau ac y byddai'r rhesymeg dros y cynigion yn cyd-fynd yn agosach â'r bwriad polisi, sef sicrhau nad yw plant yn colli addysg. O'r herwydd, mae barn rhanddeiliaid a'r cyhoedd wedi llywio datblygiad y polisi ac mae'r cynigion diwygiedig yn ceisio mynd i'r afael â'r prif bryderon a godwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod cynlluniau'n fewnol gyda swyddogion polisi iechyd, swyddogion diogelu data a gwasanaethau cyfreithiol. Hefyd, ymgynghorwyd â phob awdurdod lleol a'u cynghori ar y cynigion diwygiedig, gan ofyn am adborth gan weithgor y swyddogion lles addysg, y grŵp llywio cenedlaethol ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref, a'r grŵp rhanddeiliaid PCA (Tachwedd - Rhagfyr 2023). Ar wahân, mae chwe awdurdod lleol wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru i drafod treialu'r cynigion, ac i drafod sut y gellid cynnal y rhain. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu'r rheoliadau cronfa ddata, drwy ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol y cytunwyd arnynt. Byddwn yn ymgymryd ag ymgynghoriad pellach rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2024 ar ein cynigion.

Ymgysylltu

Er mwyn helpu i lywio datblygiad polisi cyn unrhyw ymgynghoriad ffurfiol, ceisiodd swyddogion ymgysylltu â'r gymuned addysgu gartref a chasglu ei barn. Mae barn y gymuned wedi'i hystyried yn llawn yn dilyn yr ymgysylltiad hwnnw a'r ymgynghoriad cyntaf ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gronfa ddata. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn rhan o drafodaethau parhaus gyda Chomisiynydd Plant Cymru.

Yr effaith

Mae awdurdodau lleol wedi nodi na allant ymgymryd â'u dyletswyddau statudol mewn perthynas ag addysg, diogelu a hybu lles plant os nad ydynt yn ymwybodol o blant sy'n preswylio yn eu hardaloedd awdurdod lleol. Bydd y Rheoliadau yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol drwy eu gwneud yn ymwybodol o blant nad ydynt wedi'u cynnwys mewn unrhyw ddata addysg ar hyn o bryd. Bydd y Rheoliadau yn cefnogi awdurdodau lleol gyda gweithredu a chymhwyso canllawiau statudol Llywodraeth Cymru i 'Helpu i atal plant a phobl ifanc rhag colli addysg'. Nid yw'r cynigion hyn yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol, ond byddant yn ei gwneud yn gliriach beth yw'r dyletswyddau presennol ar awdurdodau lleol, a'r camau y dylent fod yn eu cymryd i gyflawni'r dyletswyddau hynny.

Costau ac arbedion

Nid yw costau'r cynigion wedi'u nodi. Bydd costau o ran amser staff i fyrddau iechyd i ddarparu data i awdurdodau lleol, ac i awdurdodau lleol i groesgyfeirio’r data hyn yn erbyn plant sydd eisoes yn hysbys iddynt. Nod y cynigion yw cefnogi awdurdodau lleol i ymgymryd â’u dyletswyddau statudol presennol drwy gyflwyno ffordd o adnabod plant sy’n colli addysg. Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal ag awdurdodau lleol ac rydym wedi sefydlu bod prosesau PCA ar waith, a bydd y Rheoliadau hyn yn gosod rhagor o ffocws arnynt.

Dull gweithredu

Bydd is-ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno drwy Orchymyn i ddod ag adran 29 o Ddeddf Plant 2004 i rym, a dwy set o reoliadau.

Adran 8: casgliad

Sut y mae’r bobl y mae’r cynnig fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Bydd y cynnig yn effeithio ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, ymarferwyr cyffredinol, teuluoedd â phlant o oedran ysgol gorfodol, a phlant o oedran ysgol gorfodol os ydynt yn colli addysg neu os bernir nad ydynt yn derbyn addysg addas.

Cynhaliwyd ymgynghoriad yn 2020 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gronfa ddata. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y byddai cwmpas y gronfa ddata yn cael ei leihau ac y byddai'r rhesymeg dros y cynigion yn cyd-fynd yn agosach â'r bwriad polisi, sef sicrhau nad yw plant yn colli addysg. O'r herwydd, mae barn rhanddeiliaid a'r cyhoedd wedi llywio datblygiad y polisi ac mae'r cynigion diwygiedig yn ceisio mynd i'r afael â'r prif bryderon a godwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod cynlluniau'n fewnol gyda swyddogion polisi iechyd, swyddogion diogelu data a gwasanaethau cyfreithiol. Hefyd, ymgynghorwyd â phob awdurdod lleol a'u cynghori ar y cynigion diwygiedig, gan ofyn am adborth gan weithgor y swyddogion lles addysg, y grŵp llywio cenedlaethol ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref, a'r grŵp rhanddeiliaid PCA (Tachwedd i Rhagfyr 2023). Ymgysylltwyd yn ehangach hefyd â theuluoedd sy'n addysgu gartref, Comisiynydd Plant Cymru, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a'r Cyngor Meddygol Cyffredinol. 

Nid oes disgwyl i’r cynnig effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, nac ar siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol Cymraeg.

Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn rhai cadarnhaol a negyddol?

Nod y cynnig yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r holl blant y maent yn gyfrifol amdanynt (y rhai sy'n preswylio yn eu hardal awdurdod lleol) fel y gallant sefydlu nad ydynt yn colli addysg a/neu sefydlu bod yr addysg sy'n cael ei derbyn yn addas. Mae colli addysg yn bryder lles gan nad yw'r plant hynny'n gallu cyrraedd eu potensial, neu efallai na fyddant mewn amgylchedd lle mae eu lles yn cael ei flaenoriaethu. 

Bydd y Rheoliadau yn darparu ffordd i awdurdodau lleol ymgymryd â'u dyletswydd adran 175 o dan Ddeddf Addysg 2002, sef ymgymryd â'u swyddogaethau addysg gyda'r bwriad o ddiogelu a hybu lles plant. Mae awdurdodau lleol wedi dweud nad ydynt yn gallu gwneud hyn ar hyn o bryd gan nad ydynt yn ymwybodol o'r holl blant y maent yn gyfrifol amdanynt. Bydd y gofynion yn y Rheoliadau yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o blant nad oeddent yn hysbys iddynt cyn hynny, gan eu galluogi nhw i ymgymryd â'u dyletswyddau statudol. Bydd hyn yn arwain at well trefniadau diogelu ac yn lleihau'r risg o niwed i rai plant nad oedd yn hysbys i'r awdurdod lleol cyn hynny.

Bydd y cynigion yn cryfhau prosesau o ran pennu addasrwydd darpariaeth addysg. Gall fod teuluoedd sydd wedi dewis addysgu eu plant gartref gan eu bod yn teimlo na allai anghenion eu plentyn gael eu diwallu mewn ysgol. Gallai'r teuluoedd hyn ofyn i'r awdurdod lleol benderfynu ynghylch anghenion eu plant, a gallai hyn olygu bod awdurdodau lleol yn gorfod datblygu cynllun datblygu unigol sy'n amlinellu'r anghenion a nodwyd ar gyfer y plentyn, ynghyd â darparu unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a all fod yn ofynnol i fodloni'r anghenion hyn a nodwyd.

Gallai'r awdurdod lleol bennu bod y penderfyniad i addysgu yn y cartref yn mynd i'r afael â'r angen ac nad oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol, neu fod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei darparu drwy hyfforddiant i rieni, allgymorth gan wasanaethau cymorth arbenigol awdurdod lleol, drwy drefnu bod y plentyn yn mynychu lleoliad i gael cymorth, neu hyd yn oed fynychu ysgol arbennig.

Byddai'r uchod yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr, ond gallai hefyd gynyddu llwyth gwaith a rhoi pwysau ariannol ar wasanaethau awdurdodau lleol. Y rheswm am hyn yw y byddai angen iddynt brosesu unrhyw geisiadau am benderfyniad ynghylch anghenion plentyn a darparu ar gyfer unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ddilynol.

Gallai rhai rhieni ofyn i'r awdurdod lleol benderfynu ynghylch anghenion eu plentyn drwy gyfrwng y Gymraeg, a allai roi pwysau ar awdurdodau lleol. Gallai hyn effeithio ar rai awdurdodau lleol yn fwy andwyol nag eraill. 

Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig: 

  • yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant a/neu
  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at greu Cymru sy'n fwy cyfartal, cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau. Bydd y gronfa ddata yn cefnogi awdurdodau lleol i adnabod plant sydd o bosibl yn colli addysg, gan sicrhau felly bod pob plentyn yng Nghymru yn cael addysg, waeth beth yw eu sefyllfa na sut y maent yn cael eu haddysg. Byddai hyn hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o ddysgwyr a chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod yr addysg sy’n cael ei darparu yn addas. Pan fo’n ofynnol gellir gwneud atgyfeiriadau i asiantaethau priodol, er mwyn gallu adnabod asiantaethau a gwasanaethau perthnasol i ddarparu’r cymorth a’r ymyrraeth sydd ei hangen.

Dyhead Llywodraeth Cymru yw ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr a dylanwadu arni er mwyn sicrhau Cymru fwy ffyniannus a chyfartal, gan gyflawni hyn ar gyfer pob dysgwr. 

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau

Bydd Llywodraeth Cymru yn treialu'r cynigion ar gyfer y gronfa ddata gyda nifer dethol o awdurdodau lleol cyn eu gweithredu'n llawn. Bydd y gwaith treialu yn cael ei werthuso'n annibynnol, er mwyn llywio unrhyw newidiadau y gallai fod eu hangen. 

Bydd y cynnig yn cael ei fonitro gan swyddogion polisi drwy ymgysylltu â swyddogion awdurdodau lleol. Bydd gofyn i awdurdodau lleol roi gwybod faint o blant y maent wedi dod yn ymwybodol ohonynt o ganlyniad uniongyrchol i'r cynnig. Bydd hyn yn helpu i benderfynu a yw'r mesurau'n helpu awdurdodau lleol i adnabod llawer o blant sy'n colli addysg. Bydd y cynigion hefyd yn cael eu monitro drwy ddatganiadau Data Cymru blynyddol sy'n cael eu cyflwyno gan awdurdodau lleol.