Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llogi cerbydau

Disgwylir i'n fframwaith llogi cerbydau newydd fod ar gael o 1 Tachwedd 2021. Bydd canllawiau i gwsmeriaid ar gael ar GwerthwchiGymru yn y man.

Cydrannau sbâr i gerbydau

Rydym yn gwerthuso ymatebion tendro ar gyfer y fframwaith hwn. Disgwylir i'r fframwaith newydd fod ar gael o 1 Rhagfyr 2021.

Tanwydd

Yn dilyn adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ynghylch prinder tanwydd a gyrwyr, mae cyflenwyr tanwydd a benodwyd i'n fframwaith tanwydd a chynhyrchion cysylltiedig wedi datgan:

  • Nid oes prinder tanwydd na gyrwyr
  • Ni ddylai cwsmeriaid weld unrhyw darfu ar eu danfoniadau
  • Dylai cwsmeriaid barhau i archebu eu gofynion tanwydd arferol yn ôl yr arfer
  • Nid oes angen archebu tanwydd ychwanegol gan y bydd hyn yn eu hamlygu i bwysau diangen.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru