Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi

Rydym wedi cyhoeddi'r hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw (PIN) ar gyfer y fframwaith newydd ar gyfer gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi. Mae'r rhybudd llawn ar gael i'w weld ar y Gwasanaeth Gwahoddiad i Dendro.

Yn ddiweddar, cawsom gyfarfod â chwsmeriaid i drafod canlyniadau'r arolwg a strategaeth gaffael ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi rhannu'r nodiadau cyfarfod a'r camau gweithredu gyda'r grŵp ffocws ar gwsmeriaid. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech dderbyn copi o nodiadau a chamau gweithredu’r cyfarfod, ebostiwch: CommercialProcurement.PeopleCorporate@llyw.cymru

Fframwaith gwasanaethau prynu cyfryngau (III)

Mae ein fframwaith gwasanaethau prynu cyfryngau newydd (WGCD-PCS-116-22) wedi'i ddyfarnu ac mae bellach yn fyw. Yr unig gyflenwr ar y fframwaith yw Golley Slater. Bydd canllawiau ar gael ar GwerthwchiGymru yn fuan.