Diweddariadau fframwaith.
Swyddogaeth cynllunio piblinellau
Rydyn ni’n rhagweld y bydd y swyddogaeth cynllunio piblinellau ar gael ar GwerthwchiGymru erbyn mis Ebrill 2023, gyda phrofion defnyddwyr yn y misoedd yn arwain at fis Ebrill.
Adnodd mapio polisi
Bydd ein hadnodd mapio polisi yn rhoi arweiniad i brynwyr ar sut y gallan nhw gefnogi blaenoriaethau polisi drwy gaffael. Rydyn ni’n chwilio am gyflenwr i ddylunio ac adeiladu'r adnodd, gyda'r cyfle’n cael ei hysbysebu’n ddiweddar ar fframwaith canlyniadau digidol CCS. Rydyn ni wedi cwblhau'r cam hidlo, a byddwn yn rhoi gwahoddiadau i gam nesaf y broses yn fuan. Rydyn ni’n rhagweld y bydd y contract yn cael ei ddyfarnu ym mis Rhagfyr 2022.
Diwygio’r Broses Gaffael - Tryloywder
Wrth baratoi ar gyfer y Bil Caffael a Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), bydd angen i sector cyhoeddus Cymru roi hysbysiadau diwygio caffael newydd ar waith. Er mwyn galluogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fodloni gofynion hysbysiadau yn y dyfodol, rydyn ni wedi cwblhau cam ‘fel y mae’ yr adolygiad annibynnol o gylch oes Caffael o’r dechrau i’r diwedd (systemau a phrosesau) ac wedi symud i’r opsiynau ‘i fod’ a ddymunir.
Cofrestru untro Cymru
Rydyn ni yn y broses o gynllunio ar gyfer gweithredu swyddogaeth cofrestru untro ar gyfer eDendroCymru (prynwyr a chyflenwyr) drwy gofrestru untro Cymru ar GwerthwchiGymru, a fydd yn cynnwys rhai gweithgareddau glanhau data pwysig.
Canolfan Ragoriaeth Caffael
Mae Curshaw Ltd wedi cael y contract i gyflawni cam Alffa y Ganolfan Ragoriaeth Caffael, ac mae gwaith bellach ar y gweill i sefydlu’r peilot.
Bydd y cynllun peilot yn darparu cymorth ymarferol i sector cyhoeddus Cymru i’w helpu i gyrraedd ein nod Sero Net, yn ogystal ag adeiladu rhaglen dysgu galluogrwydd ac arweinyddiaeth fasnachol a chaffael.