Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith ar gyfer Rhagfyr 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhyrchion a Gwasanaethau TG (ITPS) 3

Ym mis Hydref, fe wnaethom gynnal digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflenwyr i gael adborth ar y cynlluniau lefel uchel ar gyfer cyflwyno fframwaith ITPS newydd.

Mae cwmpas y gofynion, y dull o ymdrin â strwythur y fframwaith a gwerthuso tendrau, yn dal i gael eu datblygu. Mae rhanddeiliaid yn parhau i roi sylwadau ar feysydd lle gallwn dyfu a gwella’r fframwaith, i’w wneud yn gynaliadwy ac yn berthnasol i’r dyfodol.

Rydym yn rhagweld y bydd y cyfle tendro yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2024. Os hoffech chi fod yn rhan o'r broses werthuso ar gyfer ITPS 3, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru

Cynllun Gweithredu Digidol

Y gallu i gynllunio Piblinellau ar GwerthwchiGymru

Mae'r swyddogaeth cynllunio piblinellau ar GwerthwchiGymru yn caniatáu i sefydliadau hysbysebu eu gweithgarwch caffael yn y dyfodol i brynwyr a chyflenwyr. Bydd y gallu i gynllunio piblinellau newydd yn fyw ar GwerthwchiGymru ym mis Ionawr 2024. Fel rhan o’r cam Alffa, dim ond nifer cyfyngedig o ddefnyddwyr fydd yn gallu defnyddio’r swyddogaeth newydd. Os hoffech chi ei defnyddio, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru

Adnodd mapio polisi

Mae’r adnodd mapio polisi wedi’i gynllunio i helpu prynwyr i ddeall pa bolisïau sydd angen eu hystyried yn ystod eu caffaeliadau. Mae'r adnodd mapio polisi yn y cyfnod profi system. Disgwylir i brofion derbynioldeb i ddefnyddwyr ddechrau fis yma / Mae profion derbynioldeb i ddefnyddwyr wedi dechrau. Unwaith y bydd wedi'i brofi'n llawn byddwn yn cynnal cam Alffa ar gyfer hyn a hyn o ddefnyddwyr yn y Flwyddyn Newydd.

Cyd: Gofod cydweithredol ar gyfer cymunedau caffael a masnachol yng Nghymru

Yn dilyn llwyddiant yng Ngwobrau GO Cymru eleni, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â Cyd.Cymru lle gallwch gael mynediad at y cynlluniwr llwybr caffael, dysgu arferion gorau trwy weminarau a blogiau, a rhannu eich gwybodaeth a’ch profiadau ar broffesiwn caffael sy’n newid yn barhaus.

Os oes gennych unrhyw astudiaethau achos neu wybodaeth i'w rhannu ar draws y gymuned gaffael, cysylltwch drwy wefan Cyd. Mae Cyd yn chwilio am straeon am heriau, dysgu a llwyddiannau o bob rhan o Gymru, yn ogystal â darnau barn neu gwestiynau mawr a fyddai'n addas ar gyfer blogiau fyddai’n sbarduno sgwrs.