Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cytundeb fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TG (ii)

Rydym yn adolygu ITPS2 a fydd yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2024 er mwyn penderfynu a oes awydd am drydydd iteriad o'r cytundeb.

Ar hyn o bryd rydym yn creu arolwg byr i'n helpu i nodi eich anghenion a'ch blaenoriaethau, a fydd yn cael ei gylchredeg yn fuan.

Fframwaith Dyfeisiau Amlddefnydd (MFD) ac atebion o ran dogfennau

Mae ein fframwaith MFD ac atebion o ran dogfennau (Cyf: NPS-ICT-0104-20) wedi'i ymestyn i 22 Gorffennaf 2025.

Gwasanaeth gwirio credyd cyflenwyr

Fe wnaethom gysylltu â’r gymuned defnyddwyr yn gynnar yn 2023 i’w hysbysu ein bod yn gosod y gwasanaeth hwn (a ddarperir ar hyn o bryd gan D&B) ar dendr. Fe wnaethom ofyn ar gyfer beth rydych chi'n defnyddio'r offeryn; pa mor aml rydych chi'n ei ddefnyddio; a beth yw'r wybodaeth bwysicaf a gewch o'r offeryn. Er mwyn bod yn barod ar gyfer yr ymarfer tendro, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, rhowch wybod i ni am eich gofynion drwy e-bostio ICTProcurement@llyw.cymru erbyn diwedd mis Mehefin.

Swyddogaeth cynllunio Piblinellau newydd ar GwerthwchiGymru

Mae profion ar swyddogaethau newydd GwerthwchiGymru erbyn diwedd Gorffennaf 2023 yn parhau. Diolch i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod yn profi'r offeryn. Wrth i fis Gorffennaf agosáu, byddwn yn dangos y swyddogaethau newydd yng nghyfarfod grŵp defnyddwyr eGaffael. Bydd recordiad o'r dangosiad ar gael i fynychwyr fydd wedi cofrestru.

Y daith gaffael

Rydym wedi adeiladu sgerbydau o'r daith gaffael (a elwid gynt yn Gynlluniwr Llwybr Caffael) a fydd yn rhan o fersiwn nesaf gwefan Cyd. Diolch i bawb trwy gymuned Cyd a staff Llywodraeth Cymru sydd wedi paratoi'r cynnwys ar gyfer y ddau lwybr caffael cyntaf. Bydd y cynnwys nawr yn cael ei ddefnyddio i boblogi'r teithiau caffael a bydd yn bwydo i mewn i Gam 2 gwefan Cyd.

Offeryn mapio polisïau

Byddwn yn dechrau profi defnyddioldeb yn ystod yr wythnosau nesaf i helpu i fireinio'r cynnwys a fydd yn ffurfio’r offeryn yn fuan. Rydym yn gobeithio cael offeryn terfynol erbyn diwedd mis Medi. Os ydych chi am gymryd rhan, ymunwch â grŵp Profi Defnyddwyr Cyd. Gallwch gofrestru ar y dudalen cysylltu â ni ar wefan Cyd.

eDaliadau

Rydym wedi ymestyn y consesiwn e-daliadau a'r prif gytundeb gwasanaethau cysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru a Barclaycard hyd at 31 Mawrth 2026.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r uchod, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.DigidolDataTGCh@llyw.cymru