Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith ar gyfer Medi 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

eDendroCymru (Jaggaer)

Mae Llywodraeth Cymru yn symud ei gweithgareddau tendro/cyrchu mewnol i ffwrdd o eDendroCymru (Jaggaer) i offeryn Ffynhonnell i Gontract (S2C) Proactis.

Mae'r penderfyniad yn ymwneud â gweithgaredd tendro Llywodraeth Cymru yn unig ac nid yw'n effeithio ar gontract Jaggaer ar gyfer cyrff sector cyhoeddus Cymru, sy'n parhau i fod ar waith tan fis Mawrth 2025 (gydag opsiwn i’w ymestyn am 12 mis arall, yn dibynnu ar y gyllideb).

I egluro, mae Llywodraeth Cymru wedi prynu offeryn S2C yn benodol at ei defnydd ei hun - nid oes cyllid ar gael i'r cyrff sector cyhoeddus hynny yng Nghymru sydd hefyd yn defnyddio'r offeryn.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru