Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Digideiddio, storio a gwaredu
Daw cyfnod cychwynnol y system brynu ddeinamig (DPS) ar gyfer digideiddio, storio a gwaredu neilltuedig, i ben ym mis Ionawr 2021. Rydym yn paratoi arfarniad opsiynau i benderfynu ar ddyfodol y trefniant hwn.
Os oes gennych unrhyw adborth ar brofiadau o ddefnyddio'r trefniant presennol neu pam y gwnaethoch chi neu na wnaethoch ddewis caffael drwy'r DPS, anfonwch e-bost at: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
Dyfeisiau amlddefnydd
Rydym wedi dechrau ymarfer darganfod ar gyfer ein fframwaith dyfeisiau amlswyddogaethol Cymru Gyfan (MFD). Os hoffech gymryd rhan yn y broses, anfonwch e-bost at: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
Cytundeb adnoddau digidol a TGCh ystwyth
Daeth ein fframwaith cytundeb adnoddau digidol a TGCh ystwyth (ADIRA) i ben ar 1 Hydref 2020. Gellir dal i ddefnyddio contractau yn ôl y gofyn presennol nes iddynt ddod i ben.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru