Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyfeisiau amlddefnydd (MFD) ac atebion o ran dogfennau (TGCh – 0104-20)

Daw'r fframwaith MFD cyfredol i ben ar 22 Gorffennaf 2021. Mae ail genhedlaeth fframwaith MFD Cymru gyfan wedi'i werthuso ac mae disgwyl iddo fynd yn fyw erbyn 23 Gorffennaf.

Bydd ein fframwaith dyfeisiau amlddefnydd ac atebion o ran dogfennau yn galluogi cwsmeriaid i ddyfarnu’n uniongyrchol neu gynnal cystadleuaeth bellach o dan y lotiau canlynol:

  • Lot 1: Dyfeisiau amlddefnydd ac atebion o ran dogfennau
  • Lot 2: Nwyddau traul argraffu

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch ICTProcurement@llyw.cymru

System brynu ddeinamig (NPS-ICT-0054-16) ar gyfer digideiddio, storio a gwaredu dogfennau ac asedau TGCh

Mae'r trefniant hwn wedi'i gadw o dan Erthygl 20 o Ddeddf Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Mae'n cefnogi'r gwaith o gyflawni Datganiad Polisi Caffael Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a pholisïau allweddol Llywodraeth Cymru ynghylch gwerth cymdeithasol a datblygiad yr economi sylfaenol a chylchol.

Rydym wedi adnewyddu'r rhestr o gyflenwyr yn dilyn ymarfer i ail-gadarnhau cymhwysedd ar gyfer y trefniant hwn. Bydd y rhestrau a'r dogfennau cyflenwyr diweddaraf ar gael ar GwerthwchiGymru cyn bo hir.

Y Gymraeg - ydych chi'n datblygu neu'n prynu technoleg, gwefannau neu feddalwedd newydd?

Rydym wedi datblygu pecyn cymorth i helpu sefydliadau, rheolwyr prosiect a chontractwyr i gynllunio a datblygu technoleg, gwefannau a chynhyrchion meddalwedd dwyieithog i helpu i greu profiad da i ddefnyddwyr yn Gymraeg, Saesneg ac unrhyw ieithoedd eraill. 

Mae ein 'pecyn cymorth' am ddim bellach yn fyw ac ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Os ydych yn cynnal trafodaethau gyda chontractwr i ddatblygu technoleg, gwefannau a chynhyrchion meddalwedd dwyieithog, rhannwch y pecyn cymorth hwn gyda nhw.

Rydym yn creu astudiaeth achos sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r pecyn cymorth o fewn prosesau caffael a thendrau a fydd ar gael yn fuan.

Os oes gennych unrhyw adborth ar sut y gallwn wella ein pecyn cymorth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: heloblod@llyw.cymru.