Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

eAnfonebu

Rydyn ni wedi ymestyn ein cytundeb Basware presennol tan 30 Medi 2023. Fe fuon ni’n trafod â rhanddeiliaid yn ddiweddar wrth baratoi ar gyfer trefniant newydd a fydd ond yn cynnwys eAnfonebu unwaith y daw’r cytundeb presennol i ben. Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb wedi mynd heibio. Byddwn yn defnyddio G-Cloud 13 ar gyfer y trefniant newydd.

Cynllun Gweithredu Digidol

Profion defnyddwyr swyddogaeth cynllunio piblinellau: rydyn ni eisiau eich barn chi.

Rydym yn disgwyl i'r swyddogaeth cynllunio piblinellau newydd fod ar gael ar GwerthwchiGymru ym mis Gorffennaf 2023. Bydd y grŵp profi defnyddwyr yn cael ei gynnal unwaith y mis o fis Chwefror a bydd yn cymryd hyd at 2 awr y mis. I nodi, mae angen i ni gynnal yr un grŵp drwy gydol y cyfnod profi.

Os hoffech chi fod yn rhan o brofion defnyddwyr swyddogaeth cynllunio piblinellau, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru.

Offeryn mapio polisïau

Rydyn ni bellach wedi cwblhau'r broses o gaffael cyflenwr i adeiladu'r offeryn mapio polisïau ac rydyn ni’n disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Chwefror. Mae disgwyl i'r offeryn mapio polisïau gael ei adeiladu erbyn mis Medi 2023 a’i gyflwyno yn dilyn hynny.

Diwygio’r Broses Gaffael - Tryloywder

Ar hyn o bryd rydyn ni’n drafftio saernïaeth datrysiadau’r dyfodol sy’n nodi’r ateb technegol ar gyfer y gofynion tryloywder newydd sy’n cael eu cyflwyno gan ddeddfwriaeth diwygio’r broses gaffael. Byddwn ni’n recordio sesiwn dangos a dweud a fydd yn trafod ein sefyllfa bresennol ar gyfer mynychwyr grwpiau defnyddwyr eGaffael ddechrau mis Chwefror. Bydd saernïaeth datrysiadau saernïaeth y dyfodol yn cael ei hadolygu a’i newid yn barhaus nes i ni dderbyn y manylion technegol terfynol gan Lywodraeth y DU.

Canolfan Ragoriaeth Caffael (CRC) – Y cam Alpha ar y gweill!

Mae ffocws allweddol y peilot CRC ar ddarparu cymorth ymarferol i dimau caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru i’n helpu i gyrraedd ein nod Sero Net, ac adeiladu ar y Rhaglen Dysgu Galluogrwydd ac Arweinyddiaeth masnachol a chaffael. Yn ddiweddar, cynhaliodd y cyflenwyr sy'n arwain ar y CRC ddigwyddiad dangos a dweud sydd ar gael i'w weld yma. Mae'r digwyddiad dangos a dweud blaenorol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr ar gael ar Sianel YouTube Busnes Cymru.

Mae profion defnyddwyr ar gyfer brandio a gofynion blaenoriaethu hefyd ar y gweill ar gyfer y CRC. Os ydych chi eisiau cymryd rhan, cwbwlhewch y ffurflen yma.