Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
System brynu ddeinamig neilltuedig ar gyfer digideiddio, storio a gwaredu
Rydym wedi ymestyn y DPS neilltuedig ar gyfer digido, storio a gwaredu tan 15 Ionawr 2023.
Bydd y dogfennau canllaw ar gael ar GwerthwchiGymru yn fuan (angen mewngofnodi). Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru.
Cynhyrchion a gwasanaethau TG (ii)
Mae’r fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG (ii) bellach yn fyw ac ar gael i’w ddefnyddio. Mae cyfres lawn o ddogfennau canllaw ar gael ar GwerthwchiGymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
Dyfeisiau amlddefnydd
Mae'r fframwaith dyfeisiau amlddefnydd (MFDs) a gwasanaethau cysylltiedig wedi'u hymestyn tan 22 Gorffennaf 2021. Bydd yr estyniad hwn yn caniatáu caffael ail genhedlaeth y fframwaith; dyfeisiau amlddefnydd ac atebion o ran dogfennau.
Cyhoeddwyd y tendr dyfeisiau amlddefnydd ac atebion o ran dogfennau ar 12 Ionawr 2021, a disgwylir iddo gael ei ddyfarnu ym mis Mai 2021. Bydd y cytundeb newydd yn cynnwys mwy o gyfle i brynu atebion o ran dogfennau ac argraffu, gan gynnwys ystafelloedd post hybrid, rheoli dogfennau ac ystadau argraffu hybrid.
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach neu os hoffech gymryd rhan yn y gwerthusiadau, e-bostiwch NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru