Diweddariadau fframwaith.
Cynhyrchion a gwasanaethau TG (iii)
Mae'r cytundeb fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG (iii) bellach yn fyw ar borth eDendroCymru (angen cofrestru). Mae'r hysbysiad contract ar gyfer ein fframwaith newydd wedi'i gyhoeddi ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Mae'r fframwaith hwn wedi'i gynllunio i roi cyfle gwych i fentrau bach a chanolig eu maint (BBaChau) yng Nghymru i dendro am gytundeb pedair blynedd, i gyflenwi i'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae buddion allweddol yn cynnwys:
- Strwythur lotio newydd ar gyfer nwyddau a gwasanaethau technoleg amrywiol
- Cefnogaeth i bolisïau allweddol Llywodraeth Cymru
- Hwylustod mynediad trwy ddyfarniadau uniongyrchol neu gystadlaethau pellach
Am ragor o fanylion am y lotiau sydd ar gael, ewch i GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru