Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fframwaith deunyddiau adeiladu

Mae cynnydd byd-eang yn y galw am ddeunyddiau yn y diwydiant adeiladu. Mae hyn yn arwain at brinder cynnyrch, chwyddiant prisiau ac amseroedd arwain hirach. Mae hyn, ynghyd ag effeithiau pandemig Covid-19, yn cael effaith ddigynsail ar gadwyni cyflenwi sy'n arwain at ansefydlogrwydd yn y farchnad, a disgwylir iddo barhau yn 2022. 

Byddwn yn cyhoeddi Nodyn Polisi Caffael yn fuan. Bydd hyn yn cynghori awdurdodau contractio ar sut i reoli pwysau'r farchnad sy'n effeithio ar argaeledd a fforddiadwyedd cynhyrchion.

Mae Crown Paints wedi cyhoeddi rhestr brisiau newydd ar gyfer eitemau nad ydynt yn rhai craidd. I ofyn am gopi, e-bostiwch CommercialProcurement.Buildings@gov.wales

Fframwaith cyflenwi a dosbarthu diodydd alcoholig a chysylltiedig

Ers 1 Medi, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd wedi rheoli'r fframwaith ar gyfer cyflenwi a dosbarthu diodydd alcoholig a chysylltiedig. E-bostiwch procurement@newport.gov.uk am fwy o fanylion.