Diweddariadau fframwaith.
Halen craig a chynhyrchion cysylltiedig
Mae ein fframwaith halen craig a chynhyrchion cysylltiedig newydd (WGCD-BU-131-24) wedi’i ddyfarnu ac yn dechrau ar 1 Ebrill 2025. Bydd y fframwaith presennol (NPS-CFM-0106-20) yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025. Am ragor o wybodaeth, dogfennau canllaw i gwsmeriaid, ac i gael mynediad i'r pecyn dogfennau yn ôl y galw, ewch i GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi).
Datrysiadau dodrefn (III)
Rydym wedi cyhoeddi'r hysbysiad contract ar gyfer fframwaith datrysiadau dodrefn newydd Cymru gyfan ar GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi). Mae'n ofynnol cyflwyno tendrau erbyn 21 Mawrth 2025. Os ydych yn sefydliad sy'n defnyddio'r fframwaith dodrefn presennol, ac yr hoffech ffurfio rhan o'r panel gwerthuso i asesu'r ymatebion technegol, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru
Cynhelir gwerthusiadau ym mis Mawrth ac Ebrill 2025.