Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 27 Mehefin, cynhaliom ddigwyddiad i gwsmeriaid ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n prynu eu cyflenwad ynni ar y cyd drwy fframwaith cyflenwad ynni RM6251 Gwasanaethau Masnachol y Goron. Amlinellodd Gwasanaethau Masnachol y Goron eu cynlluniau ar gyfer cytundebau prynu pŵer a'r ymdrech tuag at sero net. Cyflwynodd cydweithwyr o Lywodraeth Cymru sesiwn ar weithgarwch cynhyrchu ynni enghreifftiol yn y sector cyhoeddus.

Yn ystod sesiynau'r prynhawn, fe wnaeth EDF Energy a Total Energies, cyflenwyr ar fframwaith ynni Gwasanaethau Masnachol y Goron, gyflwyno eu gwasanaethau. Fe wnaethant dynnu sylw at eu pyrth ar-lein ar gyfer rheoli portffolios, olrhain perfformiad a sut i gael diweddariadau ar y farchnad ynni.

Dywedodd un o'r mynychwyr "roedd y diwrnod cyfan yn ardderchog".

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r trefniant cydweithredol ar gyfer prynu eich nwy a/neu bŵer neu os hoffech ragor o fanylion, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Cyfleustodau@llyw.cymru