Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Halen craig a chynhyrchion cysylltiedig

Aeth ein fframwaith halen craig a chynhyrchion cysylltiedig (NPS-CFM-106-20) yn fyw ar 1 Gorffennaf.  I gael rhagor o wybodaeth, dogfennau cyfarwyddyd cwsmeriaid, ac i gael mynediad i'r gyfres o ddogfennau yn ôl y galw, ewch i'r gofrestr contractau ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).

Cynnal a chadw a gosod lifftiau pobl a nwyddau a lifftiau grisiau domestig

Daw ein fframwaith lifftiau a lifftiau grisiau domestig (NPS-CFM-0073-17) sy'n cwmpasu gwasanaethau cynnal a chadw, gosod ac ailwampio yn gysylltiedig â lifftiau teithwyr a nwyddau a lifftiau grisiau domestig, i ben ar 31 Gorffennaf 2021.

Ni fyddwn yn adnewyddu’r fframwaith hwn, serch hynny, gall cwsmeriaid presennol osod contractau cyn i'r trefniadau presennol ddod i ben. Bydd Llywodraeth Leol Cymru yn archwilio opsiynau’r dyfodol unwaith y daw ein fframwaith ni i ben.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Atebion o ran dodrefn

Mae ein fframwaith dodrefn (NPS-CFM-0092-18)  yn darparu llwybr cydymffurfiol i'r farchnad ar gyfer atebion o ran dodrefn swyddfa ac addysgol. Mae hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth economi gylchol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gaffael cynnwys wedi'i ailddefnyddio, ei ail-greu a'i ailgylchu'n uchel ac eitemau o ffynonellau cynaliadwy i fod yn ddiofyn.

Mae arweiniad ar sut y gellir cymhwyso hyn i'ch caffaeliadau dodrefn ar gael yma (dolen allanol - Saesneg yn unig).

Ym mis Mai, gwnaethom gyflwyno cyfres o gyflwyniadau i'r fframwaith i gwsmeriaid. Mae recordiadau a sleidiau cyflwyniadau o'r sesiynau ar gael drwy borth diogel. Os hoffech gael mynediad iddo, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Cyflenwi deunyddiau adeiladu

Rydym wedi derbyn amrywiad mewn prisiau gan PPG Architectural Coatings Ltd ar gyfer cynhyrchion addurniadol craidd a gyflenwir o dan lot 3 o'n fframwaith deunyddiau adeiladu (NPS-CFM-0085-18). Daeth prisiau newydd i rym ar 14 Mehefin.

Mae'r ffeiliau prisiau wedi'u diweddaru ar gael ar GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi).

Yng nghystadleuaeth prentis masnach Screwfix eleni, coronwyd prentis gosodiadau electrotechnegol o Gaerdydd ei goroni’n enillydd, gyda phrentis o Abertyleri yn gorffen yn yr ail safle.

Derbyniodd yr enillydd fwndel gwerth £10,000, gan gynnwys £5,000 o offer, cyllideb hyfforddi o £3,000 a gwerth £2,000 o dechnoleg.

I gael rhagor o wybodaeth am gystadleuaeth prentis masnach flynyddol Screwfix, ewch i wefan GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi).