Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

System Brynu Ddeinamig ar gyfer offerynnau cerdd

Mae ein System Brynu Ddeinamig (DPS) ar gyfer prynu offerynnau cerdd a chynhyrchion cysylltiedig bellach yn fyw. Ar hyn o bryd mae 17 o gyflenwyr ar y DPS ac mae'n parhau yn agored i gynigwyr.

Mae categori wedi’i neilltuo wedi’i gynnwys ar gyfer cyflenwyr sy’n bodloni gofynion Rheoliad 20 o PCR 2015 (gweithdai cyflogaeth warchodol).

Mae Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful, Elite Solutions a Warwick Music wedi ffurfio consortia, PMusic Cymru, o dan y categori wedi’i neilltuo. Mae hwn yn gyfle cyffrous newydd i’r ddau Weithdy Cyflogaeth Warchodol yma yng Nghymru.

Os hoffech wybod mwy am y DPS, ewch i wefan GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi). Fel arall, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru.

Fframwaith atebion o ran dodrefn

Ers 1 Ebrill, mae D&G Office Interiors wedi diweddaru eu prisiau ar y rhestr graidd o gynhyrchion o dan Lot 1 (dodrefn swyddfa) a 2 (dodrefn addysgol) ein fframwaith atebion o ran dodrefn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r gofrestr contractau ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).

Os hoffech dderbyn diweddariadau ar y fframwaith hwn yn y dyfodol, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru.