Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Cytunodd yr aelodau ar gylch gwaith y Grŵp.

Cafodd Matthew Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Partneriaeth a Chydweithredu, Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru, ei dderbyn gan yr aelodau i wasanaethu fel Cadeirydd. Awgrymodd fod gweithgorau bach yn cyfarfod a chynnal gweithgareddau rhwng prif gyfarfodydd y Grŵp Cynghori. Gellir defnyddio’r rhain i ganolbwyntio ar faterion a gwaith sy’n cael eu trafod gan y prif grŵp, cyn dod at ei gilydd i gyflwyno argymhellion a syniadau i’r Gweinidog.

Cafwyd cyflwyniadau llafar gan Daisy Cole, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn am seibiant gofalwyr / seibiannau byr gan gynnwys adroddiad “Ailystyried Seibiant” Swyddfa’r Comisiynydd; a chyflwyniad arall gan Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Cafwyd trafodaeth fanwl i ddilyn, ac un o’r prif faterion a nodwyd oedd sicrhau bod amryw o ddewisiadau seibiant ar gael ac yn addas i ofalwyr ac unigolion fel bo’r angen.

Bu’r aelodau’n trafod ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chymorth a sut gallai gwasanaethau wedi’u comisiynu neu rai’r trydydd sector helpu gyda hyblygrwydd y cymorth hwnnw; sut i helpu unigolion a gofalwyr i ddeall Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014, a’u hawliau dan y ddeddfwriaeth hon. Mae hyn yn cynnwys hawliau gofalwyr i gael asesiad o’u hanghenion ar gyfer anghenion gofal a chymorth, a diwallu unrhyw anghenion cymwys, a sut gellid cyfeirio’r hawliau hyn yn well. Cadarnhaodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru yn cynllunio ymgyrch gyhoeddusrwydd i bwysleisio hawliau gofalwyr dan Ddeddf 2014, gan adeiladu ar ymgyrch gychwynnol 2016 pan gafodd y Ddeddf ei rhoi ar waith yn gyntaf.

Trafodwyd y blaenoriaethau i’w hystyried ar gyfer 2019-20, gan gynnwys cyfleoedd i’r Grŵp Cynghori ystyried cyllid y dyfodol o safbwynt gweithgareddau gofalwyr er mwyn cefnogi’r tair blaenoriaeth genedlaethol. Argymhellodd yr aelodau fod swyddog o Lywodraeth Cymru sy’n cynrychioli’r polisi gofal sylfaen, yn ymuno â’r Grŵp Cynghori.

Clywodd yr aelodau fod galwad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol am dystiolaeth ysgrifenedig i’w Ymchwiliad i Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar ofalwyr, wedi cau ar 20 Medi. Byddai’r Ymchwiliad wedyn yn camu ymlaen i’r cam nesaf, sef sesiynau tystiolaeth lafar.

Pwyntiau gweithredu sy’n codi

  • Cangen Pobl Hŷn a Gofalwyr Llywodraeth Cymru am drefnu gwaith dilynol gydag amrywiol aelodau’r Grŵp Cynghori. Bydd grŵp bach o’r aelodau yn ystyried ac yn argymell y fformat, yr aelodaeth a’r prosesau i’w defnyddio wrth sefydlu a gweithredu grŵp newydd.
  • Bydd gweithgor bach newydd yn cael ei sefydlu i ddatblygu argymhellion ar gyfer y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, gyda phwyslais ar “gefnogi bywyd law yn llaw â gofalu.” Bydd y gweithgor yn cyflwyno syniadau i’w hystyried yn nhrydydd cyfarfod y Grŵp Cynghori ddechrau 2019.