Adroddiad, Dogfennu
Crynodeb ariannol y Gronfa Cymorth Dewisol: 2018 i 2019
Ceisiadau a wnaed a grantiau a roddwyd o’r Gronfa Cymorth Dewisol 2018 i 2019.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 97 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y prif bwyntiau
- Cafwyd 95,072 o geisiadau am y Taliad Cymorth mewn Argyfwng a chafwyd 21,802 o geisiadau am y Taliad Cymorth i Unigolion yn ystod y flwyddyn ariannol 2018 i 2019.
- Cymeradwywyd 6,521 o geisiadau ar gyfer y Taliad Cymorth i Unigolion er mwyn i bobl gael dodrefn fel soffa neu rewgell neu beiriant golchi. Dyfarnwyd 52,159 o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng i helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan neu ddillad ar ôl argyfwng.
- Daeth y nifer uchaf o geisiadau ar gyfer y Taliad Cymorth i Unigolion gan bobl sy'n byw yng Nghaerdydd (3,734), Casnewydd (1,830) a Rhondda Cynon Taf (1,766).
- Daeth y nifer uchaf o geisiadau am y Taliad Cymorth mewn Argyfwng gan bobl sy'n byw yng Nghaerdydd (14,897), Rhondda Cynon Taf (9,232) ac Abertawe (8,149).
Taliadau Cymorth mewn Argyfwng
Awdurdod lleol | Nifer y ceisiadau | Nifer y grantiau a ddyfarnwyd |
---|---|---|
Blaenau Gwent | 2,974 | 1,494 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 3,754 | 2,060 |
Caerffili | 5,228 | 2,730 |
Caerdydd | 14,897 | 8,166 |
Sir Gaerfyrddin | 3,641 | 2,093 |
Ceredigion | 487 | 306 |
Conwy | 2,552 | 1,433 |
Sir Ddinbych | 3,140 | 1,741 |
Sir y Fflint | 3,994 | 1,741 |
Gwynedd | 2,388 | 1,389 |
Ynys Môn | 1,422 | 837 |
Merthyr Tudful | 3,599 | 1,860 |
Sir Fynwy | 1,215 | 704 |
Castell-nedd Port Talbot | 5,405 | 2,711 |
Casnewydd | 7,811 | 4,316 |
Sir Benfro | 1,765 | 991 |
Powys | 1,073 | 626 |
Rhondda Cynon Taf | 9,232 | 4,791 |
Abertawe | 8,149 | 4,791 |
Torfaen | 4,100 | 2,270 |
Bro Morgannwg | 3,087 | 1,849 |
Wrecsam | 5,159 | 2,832 |
Cyfanswm | 95,072 | 52,159 |
Taliadau Cymorth i Unigolion
Awdurdod lleol | Nifer y ceisiadau | Nifer y grantiau a ddyfarnwyd |
---|---|---|
Blaenau Gwent | 717 | 184 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 852 | 245 |
Caerffili | 1,233 | 373 |
Caerdydd | 3,734 | 1,599 |
Sir Gaerfyrddin | 1,124 | 378 |
Ceredigion | 216 | 70 |
Conwy | 675 | 199 |
Sir Ddinbych | 643 | 147 |
Sir y Fflint | 850 | 219 |
Gwynedd | 615 | 232 |
Ynys Môn | 389 | 125 |
Merthyr Tudful | 640 | 192 |
Sir Fynwy | 310 | 96 |
Castell-nedd Port Talbot | 1,263 | 355 |
Casnewydd | 1,830 | 635 |
Sir Benfro | 516 | 143 |
Powys | 220 | 48 |
Rhondda Cynon Taf | 1,766 | 498 |
Abertawe | 1,570 | 493 |
Torfaen | 910 | 276 |
Bro Morgannwg | 818 | 257 |
Wrecsam | 910 | 195 |
Cyfanswm | 21,802 | 6,521 |
Ynglŷn â'r Gronfa Cymorth Dewisol
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu 2 fath o grant nad oes angen i chi eu had-dalu.
Taliadau Cymorth mewn Argyfwng
Grant i helpu â chostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan neu ddillad ar ôl argyfwng.
Taliadau Cymorth i Unigolion
Grant i’ch helpu chi, neu rywun yr ydych yn rhoi gofal iddo, i fyw'n annibynnol gartref neu mewn eiddo yr ydych chi neu'r unigolyn yn symud iddo.
Darganfyddwch pwy all wneud cais a sut i gael grant gan y Gronfa Cymorth Dewisol.