Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham

Mae’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF) yn ddull systematig, amlasiantaeth o leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu mewn perygl o fod yn NEET. Mae cryfhau’r YEPF yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, i’w gyflawni drwy:

  • ymgorffori adnabod ac atal digartrefedd ymysg pobl ifanc yn gynnar
  • diweddaru canllawiau YEPF i adlewyrchu newidiadau mewn polisi a chyd-destun gwleidyddol a darparu canllawiau ymarferol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r YEPF
  • camau gweithredu eraill i wella gweithrediad yr YEPF

Tueddiadau a heriau hirdymor

Nid yw tueddiadau digartrefedd ymysg pobl ifanc yn hawdd i’w mesur, gan fod llawer o ddigartrefedd yn gudd. Yn ogystal â phobl sy’n cysgu allan, efallai fod pobl yn ‘symud o soffa i soffa’, gan aros dros dro gyda ffrindiau neu deulu, a ddim yn gweld eu hunain fel pobl ddigartref o reidrwydd. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn dangos bod y pandemig wedi gwaethygu gwrthdaro mewn teuluoedd mewn llawer o achosion, a allai fod wedi arwain at fwy o bobl ifanc yn mynd yn ddigartref.

O ran pobl ifanc sy’n NEET, mae amcangyfrifon dros dro (Cymerwyd o gyfres y Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR), Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur) yn awgrymu bod cyfran y rhai 16-18 oed sy’n NEET (Mae’r ffigurau NEET yn cynnwys pobl ifanc di-waith a’r rhai sy’n anweithgar yn economaidd) wedi cynyddu i 13.6% yn 2021, y lefel uchaf a gofnodwyd erioed. Mae’r cynnydd hwn yn deillio’n bennaf o gynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (mae bod yn anweithgar yn economaidd yn golygu bod allan o waith a ddim yn chwilio am swydd, ac eithrio myfyrwyr) ymhlith y rhai 16 i 18 oed, er bod yna ychydig o gynnydd mewn diweithdra hefyd.

Dangosir y tueddiadau cyffredinol ers 2014 isod:

Cyfres SFR
Cyfres Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR)

2014

2015

2016

2017

2018

2019

2020

2021 (ffigurau dros dro)

 

16 i 18 oed

Unigolion NEET

12,000

11,700

11,300

10,600

10,800

11,900

11,900

14,200

%NEET

10.8%

10.7%

10.6%

10.3%

10.6%

11.7%

11.7%

13.6%

 

19 i 24 oed

Unigolion NEET

52,200

47,700

46,000

36,900

38,500

38,900

37,700

37,800

%NEET

20.4%

18.9%

18.5%

15.1%

16.0%

16.1%

15.8%

16.3%

(Er bod yr YPEF a ddiweddarwyd wedi’i anelu at bobl ifanc 11 i 18 oed, mae cyfraddau NEET pobl ifanc 19 i 24 oed yn dangos effaith mwy hirdymor yr YEPF.)

Mae amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2020 ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2021 yn cwmpasu rhan o gyfnod pandemig y Coronafeirws (COVID-19). Gall rhai o’r newidiadau a welwyd ddeillio o’r amodau a ddaeth yn sgil y pandemig. Byddai’r rhain yn cynnwys:

Yn sgil yr heriau hyn, mae cryfhau’r YEPF yn golygu:

  • y bydd mwy o bobl ifanc yn symud ymlaen i gyrchfan sy’n iawn iddynt hwy pan fyddant yn gadael yr ysgol, boed hynny mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • y gellir atal digartrefedd yn llawer cynt a’i bod hi’n bosibl adnabod a chefnogi pobl ifanc cyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng

Atal

Mae ymyrryd yn gynnar, i atal pobl ifanc rhag bod yn NEET neu’n ddigartref, yn mynd i’r afael nid yn unig â chyfleoedd unigolion mewn bywyd ond hefyd gall dorri cylch bod heb waith dros sawl cenhedlaeth drwy atal creithiau tymor hirach sy’n bwydo i mewn i’r genhedlaeth nesaf.

Mae’r YEPF yn galluogi ymyrryd yn gynnar gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET a/neu digartref, drwy gyflwyno cymorth sy’n briodol i’w hanghenion, ac sy’n gallu mynd i’r afael ag achosion sylfaenol eu hymddieithriad neu risg o ddigartrefedd. Mae pobl ifanc sy’n wynebu’r risg fwyaf o fynd yn NEET yn cael gweithiwr blaen sy’n gallu eirioli ar eu rhan ac os oes angen, trafod gyda gwasanaethau cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae cydgysylltwyr digartrefedd ymysg pobl ifanc yn sicrhau bod pobl ifanc sy’n wynebu risg o fod yn ddigartref yn cael eu hadnabod yn gynt ac yn derbyn y cymorth angenrheidiol i’w helpu i aros yng nghartref y teulu neu symud i fyw’n annibynnol lle bo’n briodol.

Integreiddio

Mae cyfraniad yr YEPF i feysydd polisi eraill yn cynnwys:

  • Gall cymorth o dan yr YEPF hybu sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc a’u rhagolygon economaidd.
  • Diogelu: o dan yr YEPF, mae disgyblion sy’n ymadael â’r ysgol yn cael eu dyrannu yn erbyn model ymgysylltu pum haen Gyrfa Cymru. Os yw eu cyrchfan yn anhysbys (Haen 1) mae hyn yn ysgogi cyswllt ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb gan awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn cael eu cynorthwyo i gyrchfan gadarnhaol. Mantais gysylltiedig y broses hon yw y gall awdurdodau lleol sicrhau eu hunain fod y bobl ifanc hynny yn weladwy a’u bod yn ddiogel.
  • Tai: yn cyfrannu at ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym.

O ran yr amcanion llesiant, mae cryfhau’r YEPF yn cyfrannu tuag at:

  • Cymru Lewyrchus, gan fod sicrhau bod pobl ifanc yn dal i ymgysylltu’n helpu i feithrin poblogaeth fedrus sydd wedi’u haddysgu’n dda
  • Cymru sy’n Fwy Cyfartal, drwy gynorthwyo pobl ifanc gyda rhwystrau i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu amgylchiadau (yn cynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol)
  • Cymru Iachach, drwy:
    • gydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol i gefnogi ymgysylltiad pobl ifanc, a chyfeirio pobl ifanc at gymorth priodol i sicrhau bod eu hiechyd meddwl a’u llesiant ar y lefel orau bosibl
    • galluogi pobl ifanc i aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a/neu osgoi digartrefedd ymysg pobl ifanc, gan wella eu cyfleoedd mewn bywyd a’u hiechyd, yn sgil y cysylltiad rhwng incwm ac iechyd a llesiant (Y Sefydliad Iechyd, 'Poverty and Health, How do our money and resources influence our health?' (2018))

Cydweithio a chynnwys

Yn 2021, cynhaliodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith (LWI) ymgynghoriad ar yr YEPF ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd yn cynnwys gweithdai ymgynghori ar gyfer rhanddeiliaid allanol a swyddogion Llywodraeth Cymru a holiadur ar-lein a grwpiau ffocws i bobl ifanc; trwy wneud hyn llwyddwyd i gasglu gwybodaeth am beth sy’n bwysig i bobl ifanc sy’n cael cymorth o dan yr YEPF.

Gwahoddwyd y canlynol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

  • Rhanddeiliaid allanol: awdurdodau lleol, ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, darparwyr prentisiaethau, Gyrfa Cymru, Estyn, swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, cynrychiolwyr o’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol, Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Syniadau Mawr Cymru, Byrddau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) (Prifysgol Caerdydd), Anabledd Dysgu Cymru, cynrychiolwyr o weithrediadau a gymeradwywyd o dan Flaenoriaeth 3, Amcan Penodol 2 o Raglen ESF 2014-2020, CLlLC, Colegau Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), CGGC, CCAUC, Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS Cymru), yr Adran Gwaith a Phensiynau, sefydliadau’r trydydd sector, yn cynnwys Llamau, Hafal, Platfform, Ymddiriedolaeth y Tywysog, YMCA
  • Llywodraeth Cymru
  • Pobl ifanc

Fel cam cyntaf i gryfhau’r YEPF rydym wedi defnyddio adborth o’r ymgynghoriad i ddiweddaru’r canllawiau ar yr YEPF (yn cynnwys Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Trosolwg a Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Llawlyfr).

Effaith

Mae’r dadleuon isod wedi’u harchwilio drwy’r ymgynghoriad cychwynnol, yna deialog barhaus gyda Chydgysylltwyr Ymgysylltu a Datblygu a Gyrfa Cymru, sydd wedi gweithredu fel cyfryngau trafod a chynghori a chyfrannu at ddatblygu’r canllawiau diwygiedig ar yr YEPF.

Dadleuon o blaid Cryfhau’r YEPF

  • Mae’r YEPF yn gosod y person ifanc yn y canol, gyda system sy’n dod â phartneriaid ynghyd i sicrhau bod y person ifanc yn derbyn y cymorth cywir ac yn gallu gwneud cynnydd. Heb y dull amlasiantaeth hwn byddai yna fwy o risg o ddyblygu darpariaeth, ac ni fyddai neb yn gwneud trosolwg o’r holl gymorth y mae person ifanc yn ei gael a'i gynnydd.
  • Bydd y dull holistaidd hwn o gynorthwyo pobl ifanc yn arbennig o bwysig gan fod pobl ifanc yn ymdopi ag effeithiau’r pandemig, a’r heriau newydd sy’n codi, yr effeithiau negyddol ar iechyd meddwl (Lanset, 2021) ac ar y farchnad lafur, gyda phobl ifanc yn anghymesur fwy tebygol o fod wedi colli gwaith (Resolution Foundation).
  • Nid yw hwn yn fodel newydd sbon, model cyfredol wedi’i ddiwygio ydyw i sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r dirwedd bolisi gyfredol ac yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau ymarferol iawn sy’n gysylltiedig â gweithredu. Nododd yr ymgynghoriad agweddau ar yr YEPF sydd angen eu mireinio a’u gwella.
  • Mae yna gyfle i ddefnyddio’r data risg sy’n cael ei adnabod yn gynnar a gesglir i nodi risgiau eraill, er enghraifft, y perygl o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc, i alluogi pobl ifanc i gael cefnogaeth mewn agwedd arall ar eu bywyd.
  • Mae gweithredu’r Fframwaith yn llwyddiannus yn fater o gyfrifoldeb ac atebolrwydd cyfunol, sy’n gysylltiedig â’n cerrig milltir cenedlaethol, yn arbennig y garreg filltir o gael o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (EET) erbyn 2050.
  • Gyda chanllawiau newydd ar waith, mae rhanddeiliaid yn gwybod yn gliriach sut mae blaenoriaethau a mentrau mwy diweddar y llywodraeth yn cyd-fynd â’r YEPF, a sut mae’r rhain yn effeithio ar eu harferion gwaith cyfredol. Yn absenoldeb gwybodaeth fanwl, mae rhanddeiliaid wedi bod yn dueddol o ‘lenwi’r bylchau’ gyda rhagdybiaethau.

Dadleuon yn erbyn Cryfhau’r YEPF

  • Mae’r YEPF yn system gymhleth gan ei bod yn dibynnu ar nifer o elfennau ac yn cael ei darparu gan nifer o bartneriaid. Mae angen ei hadolygu a’i diwygio’n barhaus felly i sicrhau ei bod yn dal i gyflawni ei nodau.
  • Ni all Llywodraeth Cymru ddylanwadu’n hawdd ar bob elfen o’r YEPF gwreiddiol. Yn 2014, cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu i leihau nifer y bobl ifanc oedd yn NEET, gan ganolbwyntio ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid fel y’u gelwid bryd hynny. Daeth i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa dda i leihau nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed oedd yn NEET, ond nid mewn sefyllfa cystal i leihau nifer y bobl ifanc 19 i 24 oed oedd yn NEET. Am y rheswm hwn, ac mewn ymateb i ganfyddiadau o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar yr YEPF yn 2021 a ddangosodd bod angen dull gwahanol ar gyfer cyn ac ar ôl 18 oed, newidiwyd ffocws y canllawiau diwygiedig ar yr YEPF i ganolbwyntio ar bobl ifanc 11 i 18 oed.
  • Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau sylweddol yn sgil colli cyllid yr UE ar gyfer prosiectau sy’n cynorthwyo pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET/sydd yn NEET. Felly mae’r prosiectau hyn yn cefnogi’r YEPF ac mae gweithrediad y Fframwaith mewn perygl hebddo. Y cyllid sy’n disodli Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) gan Lywodraeth y DU yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (2022 i 2025), ac mae’n llawer llai na’r hyn y byddai awdurdodau lleol wedi’i dderbyn o dan ESF.

Costau ac arbedion

Bydd ymyrraeth gynnar i atal pobl ifanc rhag mynd yn NEET yn lleihau’r perygl o greithio a dibyniaeth ar fudd-daliadau lles yn y dyfodol. Mae bod yn ddi-waith pan fyddwch yn ifanc yn cynyddu’r tebygolrwydd o ‘greithio’ hirdymor yn ddiweddarach mewn bywyd h.y. cyflog isel, diweithdra uwch ('Young people and the Great Recession', Bell a Blanchflower, 2011) ac iechyd meddwl gwaelach ('Unemployment and mental health scarring during the life course', Strandh et al, 2014) dilynol.

Ar hyn o bryd, mae cyllid yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid (YSG) blynyddol; £1.1 miliwn yn 2022 i 2023 ar weithgarwch YEPF i gynorthwyo pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET neu sydd yn NEET, a £3.7 miliwn pellach yn 2022 i 2023 i atal digartrefedd ymysg pobl ifanc. Mae’r YEPF yn gweithredu drwy ddefnyddio gwasanaethau cyfredol er budd pobl ifanc sydd angen cymorth, felly bydd cymorth a gynigir o dan yr YEPF yn fwy na’r symiau hyn, ond ni ellir mesur y gwariant llawn.

Mae cyllid yr UE ar gyfer prosiectau sy’n cynorthwyo pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET neu sydd yn NEET, yn dod i ben. Mae’r cyllid sydd ar gael drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, cyllid disodli Llywodraeth y DU, yn doriad o dros £1.1 biliwn dros dair blynedd yng nghyllideb gyffredinol Cymru.

Mecanwaith

Mae’r YEPF yn anstatudol felly nid oes deddfwriaeth wedi’i chynnig fel rhan o ddiweddariad y canllawiau a chamau gweithredu eraill i gryfhau’r YEPF.

Adran 8: casgliad

Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar yr YEPF yn 2021 gyda rhanddeiliaid a phobl ifanc. Y dulliau ymgynghori a ddefnyddiwyd gyda’r bobl ifanc oedd:

  • mynediad i borth ar-lein (derbyniwyd 49 o ymatebion unigol)
  • 6 grŵp ffocws pobl ifanc (51 unigolyn, rhwng 16 a 22 oed wedi cymryd rhan)
  • cyfweliadau un-i-un gyda 4 unigolyn a nodwyd yn ystod y sesiynau grŵp a oedd â diddordeb mewn darparu adborth manwl pellach ar sail eu hamgylchiadau unigol neu pan nad oedd sesiwn grŵp yn bosibl yn sgil ystyriaethau ymarferol. Roedd 3 o’r 4 unigolyn yn blant (16 ac 17 oed).

Gwahoddwyd y rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn cyfres o ddeg gweithdy strwythuredig ar-lein (2 weithdy i swyddogion Llywodraeth Cymru ac 8 gweithdy thematig i randdeiliaid allanol). Roedd mwyafrif y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn y gweithdai’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn helpu i ddarparu’r YEPF.

Ni wnaethom ymgynghori ar wahân â phobl ifanc â nodweddion gwarchodedig a siaradwyr Cymraeg neu grwpiau arbenigol Cymraeg. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio ymchwil a data sydd ar gael i ystyried effaith cryfhau’r YEPF ar y grwpiau gwarchodedig hynny a siaradwyr Cymraeg (fel y nodwyd yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg).

Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol

Dyma effeithiau cryfhau’r YEFP:

Pobl

Effaith gadarnhaol ar bobl ifanc 11 i 18 oed sy’n cael eu cynorthwyo gan yr YEPF ac effaith barhaus ar bobl ifanc 19+ oed a gafodd gymorth yn flaenorol gan yr YEPF i bontio’n gadarnhaol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant neu aros yn eu cartrefi. Wrth ailystyried a diweddaru canllawiau adnabod cynnar yr YEPF ar gyfer y risg o NEET neu digartrefedd ymysg pobl ifanc, byddwn yn ystyried rhai grwpiau gwarchodedig a/neu ddifreintiedig.

Diwylliant

Dim effaith wedi’i nodi.

Y Gymraeg

Mae’r YEPF yn bodoli i nodi a chynorthwyo pobl ifanc ledled Cymru. Mae’r YEPF yn system ar gyfer dod â gwasanaethau ynghyd i gydweithio i gynorthwyo pobl ifanc sy’n wynebu risg o fod yn NEET neu i gynorthwyo gyda digartrefedd ymysg pobl ifanc. Byddem yn disgwyl i’r gwasanaethau hynny i ddarparu yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.

Yr Economi

Drwy ymyrryd yn gynnar drwy’r YEPF, mae pobl ifanc sy’n wynebu risg o fyw mewn tlodi drwy gydol eu hoes, yn cael eu nodi a’u cynorthwyo i aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant neu symud ymlaen i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant neu i aros yn eu cartrefi eu hunain. Felly mae ei effaith gyffredinol yn gadarnhaol, drwy wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc.

Yr Amgylchedd

Yn gyffredinol, ni fydd cryfhau’r YEPF yn cael effaith ar yr amgylchedd ac eithrio annog pobl ifanc i ymgysylltu â dysgu am gyfnod hirach, fel y byddant yn ddinasyddion mwy gwybodus, sy’n gallu gwneud dewisiadau synhwyrol mewn bywyd. Disgwylir i’r effaith fod yn isel neu cymedrol.

Yn yr ymgynghoriad â phobl ifanc a rhanddeiliaid nodwyd y themâu allweddol canlynol:

  • Effaith iechyd meddwl gwael ar gyfraddau NEET.
  • Cymorth ar gyfer defnyddio prosesau adnabod cynnar er mwyn adnabod pobl ifanc sy’n wynebu risg o fod yn ddigartref yn gynnar.
  • Yr angen i ystyried yr amrediad oedran y mae’r YEPF yn gweithredu ynddo, a’r posibilrwydd o ddull gwahanol ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed a phobl ifanc dros 18 oed (roedd yr YEPF gwreiddiol yn cwmpasu pobl ifanc 11 i 24 oed ond yn llai effeithiol wrth gynorthwyo’r garfan 19 i 24 gyfan).
  • Heriau ymarferol rhannu data, sy’n ei gwneud hi’n anoddach i olrhain a chynorthwyo pobl ifanc.
  • Angen rhannu’r cyfrifoldeb am ddarparu’r YEPF er mwyn troi’n ymdeimlad o atebolrwydd a rennir am ei ganlyniadau.

Mae cryfhau’r YEPF yn cyfrannu at y nodau llesiant canlynol:

  • Cymru Lewyrchus, gan fod sicrhau bod pobl ifanc yn dal i ymgysylltu’n helpu i feithrin poblogaeth fedrus sydd wedi’u haddysgu’n dda.
  • Cymru sy’n Fwy Cyfartal, drwy gynorthwyo pobl ifanc gyda rhwystrau i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu amgylchiadau (yn cynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
  • Cymru Iachach, drwy:
    • gydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol i gefnogi ymgysylltiad pobl ifanc, a chyfeirio pobl ifanc at gymorth priodol i sicrhau bod eu hiechyd meddwl a’u llesiant ar y lefel orau bosibl.
    • galluogi pobl ifanc i aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a/neu osgoi digartrefedd ymysg pobl ifanc, gan wella eu cyfleoedd mewn bywyd a’u hiechyd, yn sgil y cysylltiad rhwng incwm ac iechyd a llesiant (Y Sefydliad Iechyd, 'Poverty and Health, How do our money and resources influence our health?' (2018)).

Bydd YEPF wedi’i gryfhau’n cyfrannu at yr amcanion llesiant canlynol hefyd, fel y nodir yn Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026:

  • parhau ein rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn culhau a safonau’n codi, drwy nodi pobl ifanc sydd â rhwystrau i ymgysylltu, a darparu’r cymorth sydd angen arnynt i gyflawni
  • adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol, drwy hybu hyder pobl ifanc, eu sgiliau cyflogadwyedd a’u rhagolygon economaidd

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant a/neu yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol

Ni ragwelir y bydd cryfhau’r YEPF yn cael unrhyw effeithiau negyddol, ac y bydd effeithiau’r dull hwn yn gadarnhaol ar y cyfan.

Ni fydd cryfhau’r YEPF yn cael unrhyw effaith ar fioamrywiaeth, naill ai cadarnhaol neu negyddol.

Fel rhan o ddull seiliedig ar hawliau plant, roedd yr ymgynghoriad ar yr YEPF yn 2021 yn cynnwys ymgynghoriad â phobl ifanc. Fe’i cynhaliwyd drwy fynediad i borth ar-lein (49 ymateb), 6 grŵp ffocws pobl ifanc (51 o gyfranogwyr) a 4 cyfweliad un-i-un.

Rydym wedi ystyried tystiolaeth a data ar ffactorau penodol hefyd a allai gynyddu’r risg y bydd plant a phobl ifanc yn mynd yn NEET neu’n ddigartref, yn cynnwys nodweddion gwarchodedig a dangosyddion risg posibl eraill. Drwy nodi’r ffactorau sy’n cynyddu’r risg o berson ifanc yn mynd yn NEET neu’n ddigartref yn gynnar, a chymryd camau ataliol, gall yr YEPF gael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc.

Rydym wedi ystyried y ffactorau risg canlynol (Mae’r Asesiad o Effaith Hawliau Plant (hefyd i’w gyhoeddi) yn trafod y ffactorau amrywiol hyn yn fanylach, gyda dolenni i’r dystiolaeth briodol):

  • iechyd meddwl gwael
  • anfantais economaidd-gymdeithasol
  • AAA neu ADY
  • anabledd
  • bod yn blentyn sy’n derbyn gofal
  • gofalwyr ifanc
  • rhywioldeb
  • hil
  • oedran

O ran effaith yr YEFP ar y Gymraeg, ni ragwelir y bydd cryfhau’r YEPF yn cael eu unrhyw effaith, naill ai cadarnhaol neu negyddol, nac effaith gadarnhaol neu negyddol ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae’r YEPF yn defnyddio gwasanaethau cyfredol i gydweithio i nodi pobl ifanc sydd angen cymorth, ac yn darparu’r cymorth hwnnw, felly mae yna ddisgwyliad y bydd sefydliadau partner sy’n cynorthwyo pobl ifanc o dan yr YEPF yn cynnig cymorth yn Gymraeg pan mai Cymraeg yw dewis iaith y person ifanc.

Bydd cryfhau’r YEPF yn helpu i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae amddifadedd materol yn golygu bod teuluoedd yn methu fforddio adnoddau sylfaenol, sy’n cael effaith negyddol ar gyflawniad addysgol plant. Heb ymyrraeth, gall hyn arwain at gylchau tlodi o un genhedlaeth i’r llall. Mae’r YEPF yn cyfrannu at ein nod o fynd ir afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, drwy ein helpu i ail-ymgysylltu â phobl ifanc a chodi eu dyheadau, i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae’n helpu i amddiffyn pobl ifanc rhag effeithiau andwyol digartrefedd hefyd, drwy ymyrryd yn gynnar cyn iddynt fynd i argyfwng.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben

Byddwn yn gwybod a yw’r YEPF wedi’i gryfhau drwy edrych ar:

  • gyfraddau NEET
  • nifer y bobl ifanc sy’n wynebu risg o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc sy’n derbyn cymorth

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu ar hyn o bryd yn cynnwys:

Efallai y bydd rhagor o ddata ar gael fel rhan o waith monitro ehangach Llywodraeth Cymru ar gynnydd cyflawni’r garreg filltir genedlaethol o gael o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.

Bydd gwerthusiad o’r Warant Pobl Ifanc yn 2023 a 2024 yn cynnwys yr YEPF hefyd.

Byddwn yn comisiynu adolygiad o weithwyr blaen hefyd i ddeall a gwella capasiti a gallu yn y system.

Monitro’r cynnydd a wneir tuag at y garreg filltir genedlaethol (a amlinellir uchod) yn ehangach.

Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant

Amcanion polisi

Mae’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF) yn ddull systematig, amlasiantaethol o leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu sydd mewn perygl o ddod yn NEET, trwy nodi plant a phobl ifanc a allai fod angen cymorth a sicrhau bod y cymorth priodol yn cael ei roi ar waith. Mae’r YEPF wedi bod ar waith ers 2013.

Mae’r asesiad effaith hwn yn ymwneud â’r penderfyniad i gryfhau’r YEPF (ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu) gan ddefnyddio gwahanol ysgogiadau yn cynnwys:

  • diweddaru canllawiau 2013 ar yr YEPF
  • ymgorffori nodi ac atal digartrefedd ymysg pobl ifanc yn yr YEPF
  • datblygu canllawiau newydd ar adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET neu’n ddigartref yn gynnar
  • cefnogi sefydliadau sy’n rhan o’r gwaith o ddarparu’r YEPF i gryfhau eu partneriaethau a gwneud cysylltiadau newydd
  • adolygu rôl y gweithiwr blaen o fewn yr YEPF, i ddeall sut y gellir atgyfnerthu’r swydd hon

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Ymchwil a data, effaith ar wahanol grwpiau

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar yr YEPF yn 2021 i lywio’r diweddariad ar y canllawiau ar YEPF. Roedd hwn yn cynnwys ymgynghoriad â phobl ifanc. Roedd hefyd yn cwmpasu rhywfaint o waith datblygu cynnar sy’n gysylltiedig â gweithredu’r Warant i Bobl Ifanc (YPG).

Yn ôl manyleb y contract roedd yn ofynnol i’r contractwr ddatblygu dulliau priodol i ymgynghori â phobl ifanc. Y dulliau a fabwysiadwyd oedd:

  • mynediad i borth ar-lein
  • grwpiau ffocws pobl ifanc
  • cyfweliadau un-i-un

Yn ystod y cyfnod ymgynghori o bedair wythnos, derbyniodd y contractwyr 49 ymateb unigol drwy’r porth ar-lein.

Hwyluswyd chwe grŵp ffocws, pedwar ohonynt â phobl ifanc sy’n astudio mewn coleg (Coleg Penfro a Choleg Gŵyr Abertawe) a’r ddau arall gyda phobl ifanc sy’n ymgysylltu â darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith (ITEC a Chyngor Gwledig Llanelli). Cymerodd 51 o unigolion, rhwng 16 a 22 oed, ran yn y sesiynau grŵp ffocws.

Cynhaliwyd y cyfweliadau un-i-un â 4 unigolyn a nodwyd yn ystod y sesiynau grŵp a oedd â diddordeb mewn darparu rhagor o adborth manwl yn seiliedig ar eu hamgylchiadau unigol neu lle nad oedd sesiwn grŵp yn bosibl yn sgil ystyriaethau ymarferol. Roedd 3 o’r 4 unigolyn yn blant (16 ac 17 oed).

Themâu allweddol a ddeilliodd o’r ymgynghoriad â phobl ifanc oedd:

  • cydnabyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael mewn addysg ôl-orfodol
  • cyferbyniad yn ymwybyddiaeth pobl ifanc o, a’u profiad o gael gafael ar gymorth i archwilio eu hopsiynau mewn addysg cyn ac ôl-orfodol
  • yr angen i werthfawrogi pob dysgwr
  • yr angen am fwy o gymorth i ymdopi â phwyntiau pontio allweddol
  • yr angen am fwy o ffocws ar ddarparu cymorth ymarferol i helpu pobl ifanc i bontio i fywyd fel oedolyn annibynnol
  • sut mae perthnasoedd cadarnhaol mewn lleoliadau addysg yn helpu i wella ymgysylltu
  • pwysigrwydd cymorth a chyngor ar gyflogaeth/hunangyflogaeth
  • cymorth i adnabod a chefnogi pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl ac sy’n wynebu risg o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc i fod yn rhan o’r YEPF
  • cytundeb cryf y byddai lle wedi’i warantu mewn ysgol, AB neu ddysgu seiliedig ar waith yn gwneud i bobl ifanc deimlo’n fwy hyderus (a dywedodd nifer y byddai hyn yn eu gwneud yn llai pryderus)
  • sut mae’r pandemig wedi effeithio ar y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc
  • pwysigrwydd cael barn pobl ifanc wrth gynllunio yn y dyfodol

Nid yw’r holl adborth a dderbyniwyd o fewn cwmpas yr YEPF i’w ddatrys, fodd bynnag fe rannwyd yr adroddiad ymgynghori â chydweithwyr polisi perthnasol, yn cynnwys swyddogion sy’n gweithio ar weithredu’r YPG. Fel rhan o ddatblygiad parhaus yr YPG, yn 2022 comisiynodd Llywodraeth Cymru Sgwrs Genedlaethol â phobl ifanc, i ddeall meysydd y gellid eu gwella. Ymysg y materion allweddol a nodwyd oedd diffyg trafnidiaeth i gyrraedd cwrs, hyfforddiant neu swydd newydd a phroblemau iechyd meddwl/diffyg hyder. Mae’r canllawiau diwygiedig ar yr YEPF yn cynnwys cyfeirio at wasanaethau cymorth iechyd meddwl. O ran trafnidiaeth, mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiadau i archwilio estyniadau i FyNgherdynTeithio ar gyfer teithio cost is i bobl ifanc, ac i adeiladu ar lwyddiant ein cynllun teithio rhatach ac edrych ar sut y gall prisiau siwrnai teg annog teithio integredig i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy i bawb. Rydym yn gweithredu rhaglen waith hefyd sy’n cwmpasu ystyriaeth o ddiwygio’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn llwyr.

Tystiolaeth arall a ystyriwyd fel rhan o’r asesiad hwn:

Wrth weithio i gryfhau’r YEPF rydym wedi ystyried tystiolaeth ymchwil a data hefyd mewn perthynas â ffactorau penodol a allai gynyddu’r perygl o blant a phobl ifanc yn mynd yn NEET neu’n ddigartref. Amlinellir y rhain:

Iechyd meddwl gwael

Tystiolaeth o’r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl gwael a chyfraddau NEET, 'What accounts for changes in the chances of being NEET in the UK?' (2019), Blavatnik School of Government, Prifysgol Rhydychen; SKOPE, Adran Addysg, Prifysgol Rhydychen. Ategwyd hwn gan dystiolaeth anecdotaidd a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Amddifadedd

Mae yna dystiolaeth bod pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn NEET a hynny i raddau anghymesur. Gall amddifadedd materol olygu bod teuluoedd yn methu â fforddio adnoddau sylfaenol, a all gael effaith negyddol ar gyflawniad addysgol plant.

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Un o’r prif ddynodyddion ar gyfer pobl ifanc mewn perygl o fod yn NEET yw presenoldeb gwael yn yr ysgol. Mae data presenoldeb Llywodraeth Cymru, ar gyfer 6 Medi 2021 i 10 Mehefin 2022, yn dangos bod plant a phobl ifanc ag AAA neu ADY yr un mor debygol â’u cyfoedion i fod yn absennol o’r ysgol am fwy na 10 diwrnod (roedd gan 20% AAA neu ADY, yr un ganran ag yn y boblogaeth ysgol yn gyffredinol); ond yn llawer mwy tebygol o fod yn absennol am fwy na 30 diwrnod (roedd gan 28% AAA neu ADY, o’i gymharu ag 20% o’r boblogaeth ysgol yn gyffredinol).

Anabledd

Mae’r Ystadegau pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), a gyhoeddir bob chwarter, yn darparu ystadegau o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) i ddefnyddwyr (mae amcangyfrifon APS wedi mynd yn gynyddol anwadal dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae yna wahaniaeth cynyddol rhwng amcangyfrifon APS a SFR). Mae’n cynnwys data ar statws anabledd pobl ifanc sy’n NEET. Mae’r ystadegau ar gyfer y cyfnod tair blynedd i 30 Mehefin 2022 yn dangos bod pobl ifanc anabl yn llawer mwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc nad ydynt yn anabl. Mae’r gwahaniaeth hwn hyd yn oed yn fwy amlwg ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed o gymharu â phobl ifanc 16 i 18 oed.

Pobl ifanc sy’n NEET yn ôl anabledd a dim anabledd (cyfres APS)
Cyfartaledd o dair blynedd hyd at 30 Mehefin 2022 Nifer Canran
Anabl 16 i 18 oed

3,100

18.7%

Ddim yn anabl 16 i 18 oed

5,400

6.3%

Anabl 19 i 24 oed

17.500

38.6%

Ddim yn anabl 19 i 24 oed

18,100

9.7%

Pobl ifanc mewn gofal neu sy’n gadael gofal

Mae’r dystiolaeth[troednodyn 1] yn dangos bod cyfran fawr iawn o’r bobl ifanc mewn poblogaethau ieuenctid digartref wedi bod yn rhan o’r system lles plant. Mae yna dystiolaeth hefyd o fwlch mawr mewn cyrhaeddiad rhwng plant sy’n derbyn gofal a disgyblion eraill ym mhob cam o addysg, yn ddifrifol yng Nghyfnod Allweddol 4, sy’n effeithio ar eu cyfleoedd ar gyfer datblygiad.

Gofalwyr ifanc

Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod gofalwyr ifanc yn llai tebygol o fod mewn addysg amser llawn, yn fwy tebygol o fod â lefelau cyrhaeddiad addysgol is, yn profi lles meddyliol gwaeth ac yn wynebu risg uwch o ymddieithrio o ddysgu.

LHDTC+

Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl ifanc LHDTC+ bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na'u cyfoedion. Mae digartrefedd yn heriol i unrhyw un, ond mae pobl ifanc LHDTC+ yn gorfod ymdopi â thrais homoffobaidd a thrawsffobaidd a gwahaniaethu’n aml hefyd.

Hil

Mae’r Ystadegau pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), a gyhoeddir bob chwarter, yn cynnwys data ar ethnigrwydd pobl ifanc sy’n NEET. Yn y cyfnod rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mehefin 2020 i’r flwyddyn a ddaeth i ben ym Mehefin 2022 roedd pobl ifanc o gefndir ethnig Gwyn (yn cynnwys lleiafrifoedd Gwyn) yn fwy tebygol o fod yn NEET (13.5%) na phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd Gwyn) (8.6%). Yn ogystal, mae data Hynt Disgyblion a gyhoeddwyd gan Gyrfa Cymru ar gyfer 2021 yn dangos bod gadawyr ysgol blwyddyn 11 o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o barhau mewn addysg lawn amser. Aeth canran uwch o’r rhai o gefndiroedd gwyn i’r gwahanol gategorïau marchnad lafur o gymharu â grwpiau lleiafrifoedd ethnig. O ran symud ymlaen i addysg ôl-16, mae yna amrywiad sylweddol rhwng grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Mae erthygl ystadegol Llywodraeth Cymru ar ganlyniadau dysgwyr ôl-16 yn ystod y pandemig yn darparu dadansoddiadau manylach ar wahanol grwpiau o ddisgyblion Blwyddyn 11 sy’n mynd ymlaen i addysg ôl-16.

Mae adroddiad Uneven Steps Resolution Foundation (Ebrill 2021) y Resolution Foundation yn dangos bod 25% o bobl ifanc 16 i 24 oed du oedd yn weithgar yn economaidd yn ddi-waith, o gymharu â 10% o’u cyfoedion Gwyn ar ddechrau Covid-19. Ers dechrau Covid-19, cynyddodd cyfradd diweithdra’r DU ar gyfer pobl ifanc du dros draean i 35%.

Oedran

Cynlluniwyd yr YEPF gwreiddiol ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed, mae’r fersiwn ddiwygiedig wedi’i hailffocysu ar bobl ifanc 11 i 18 oed. Wrth benderfynu ailffocysu’r YEPF ar bobl ifanc 11 i 18 oed, ystyriwyd nifer o ffactorau, yn cynnwys:

  • Monitro cynnydd yw un o 6 elfen yr YEPF. Wrth newid yr amrediad oedran, rydym yn cydnabod anallu’r YEPF i olrhain carfan gyfan o bobl ifanc 19 i 24 oed ac yn gwneud ein disgwyliadau’n glir ar y pwynt hwn. Mae’r gwahaniaeth o ran argaeledd data ar gyfer y rhai 19 i 24 oed o gymharu â’r rhai 11 i 18 oed wedi arwain at benderfyniad i’r canllawiau YEPF diwygiedig ganolbwyntio ar yr ail grŵp.
  • Rydym yn ystyried y dystiolaeth a gasglwyd o’r ymgynghoriad ar yr YEPF hefyd, dywedodd adroddiad yr ymgynghoriad bod pwysau’r dystiolaeth a gasglwyd yn dangos bod y fframwaith wedi’i ddatblygu’n dda rhwng 11 i 18 oed ond yn parhau i fod heb ddatblygu cystal ac yn llai effeithiol ar ôl 18 oed (tudalen 10).
  • Serch hynny, er mwyn cefnogi’r cynnydd tuag at gyflawni’r garreg filltir genedlaethol o gael o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (EET) erbyn 2050, byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol a’u partneriaid sydd eisoes yn gweithio gyda nifer o bobl ifanc dros 18 oed (er enghraifft, drwy waith ieuenctid) gefnogi’r bobl ifanc hynny drwy ddulliau YEPF lle bo’n briodol.
Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Roedd adborth o’r ymgynghoriad ar yr YEPF yn 2021 yn dangos pryder gwirioneddol am yr effaith y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gallu ei chael ar gyfleoedd pobl ifanc mewn bywyd, a chymorth ar gyfer ystyried y profiadau hyn fel rhan o gyfres ehangach o ddangosyddion i gefnogi dadansoddiad cadarn a chynhwysfawr o’r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn eu bywydau.

Effaith

Yn gyffredinol, mae’r YEPF yn effeithio’n gadarnhaol ar bobl ifanc drwy nodi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed a sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei roi ar waith. Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu canllawiau newydd ar adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o fynd yn NEET neu’n ddigartref yn gynnar, byddwn yn ystyried y perygl i grwpiau penodol a ddisgrifir uchod.

Ymgysylltu â phobl ifanc

Roedd ein hymgynghoriad ar yr YEPF yn 2021 yn cynnwys ymgynghoriad ar-lein â phobl ifanc a rhai grwpiau ffocws, a gynhaliwyd gyda phobl ifanc mewn colegau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant preifat. Defnyddiwyd adborth o’r ymgynghoriad fel sail i ailddrafftio’r canllawiau ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a’r cyfeiriad polisi cyffredinol i gryfhau’r YEPF. Yn ategu’r adborth gwreiddiol a dderbyniwyd mae adborth mwy diweddar o’r Sgwrs Genedlaethol â phobl ifanc sy’n helpu i lywio’r Warant i Bobl Ifanc (YPG). Gan fod yr YEPF a’r YPG yn cyfrannu at y garreg filltir genedlaethol o gael o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (EET) erbyn 2050, ac maent yn gorgyffwrdd ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, mae’r sgwrs genedlaethol yn darparu dealltwriaeth ddefnyddiol ar gyfer cryfhau’r YEPF hefyd.

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Dangos yr effaith ar Erthyglau CCUHP
Erthyglau neu Brotocol Dewisol y Confensiwn

Yn Gwella (X)

Yn Herio (X)

Esboniad

Erthygl 3

Mae’n rhaid i fuddiannau gorau’r plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a cham gweithredu sy’n effeithio ar blant.

X

 

Mae’r YEPF yn ceisio cadw pobl ifanc mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth a’u hatal rhag mynd yn ddigartref. Felly mae buddiannau gorau’r plentyn yn hollbwysig wrth weithredu’r YEPF.

Erthygl 12

Parchu barn y plentyn

x

 

Gofynnwyd am farn pobl ifanc fel rhan o’r ymgynghoriad, i lywio’r diweddariad o’r canllawiau ar yr YEPF.

Pan mae’r plentyn angen cymorth dwys o dan yr YEPF, yn enwedig pan fydd ganddo rwystrau sylweddol i ymgysylltu neu maent yn wynebu risg o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc, bydd gweithwyr blaen a chydgysylltwyr digartrefedd ymysg pobl ifanc yn gwrando ar y plentyn ac yn gweithio gyda’r plentyn i ganfod y ffordd orau ymlaen iddo.

Erthygl 23

Plant ag anabledd

x

 

Mae’r YEPF yn cefnogi plant 11 oed a throsodd, yn cynnwys plant ag anableddau. Mae pobl ifanc anabl yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc nad ydynt yn anabl, felly maent ymysg y grwpiau sydd angen cefnogaeth gan yr YEPF.

Erthygl 28

Yr hawl i addysg

x

 

Mae’r YEPF yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Erthygl 29

Mae’n rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd pob plentyn yn llawn

x

 

Mae’r YEPF yn darparu system i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ymgysylltu a’u hatal rhag mynd yn ddigartref fel y gallant ffynnu. Drwy wrando ar bobl ifanc ac asesu eu hanghenion, drwy’r YEPF, gellir cynorthwyo pobl ifanc i ddilyn eu diddordebau eu hunain a chyflawni’r nodau y maent am eu cyflawni.

Erthygl 39

Adfer o drawma ac ailintegreiddio

x

 

Nododd yr ymgynghoriad y dylid ystyried profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel un o’r dangosyddion posibl ar gyfer ymyrraeth gynnar o dan yr YEPF.

Erthygl 42

Gwybod am hawliau

X

 

Mae’r YEPF yn hyrwyddo hawliau plant drwy roi cymorth iddynt, yn cynnwys cymorth gan weithiwr blaen lle bo’n briodol. Mae hyn yn golygu eu bod yn derbyn cymorth hyfforddi/mentora/llesiant fel bo angen, i’w galluogi i wneud y gorau o gyfleoedd addysgol sydd ar gael. Efallai y bydd angen i’r gweithiwr blaen eirioli dros y plentyn i sicrhau ei fod yn derbyn y ddarpariaeth sydd ei hangen er mwyn gwneud cynnydd.

O ran dinasyddion sydd o fewn cwmpas:

gallai cryfhau’r YEPF gael effaith gadarnhaol bosibl ar:

  • aelodau eu teulu (yn cynnwys plant ac wyrion dibynnol) a oedd yn byw yn y DU hefyd ar y dyddiadau a nodwyd yn y cytundebau hynny
  • aelodau agos eu teulu (yn cynnwys plant ac wyrion dibynnol) a ymunodd â dinasyddion sy’n cael eu diogelu gan Gytundebau Hawliau Dinasyddion

Mewn achosion o’r fath, byddai’r plant hynny (o 11 i 18 oed) yn gallu cael eu cynorthwyo o dan yr YEPF pe bai angen.

Cyngor Gweinidogol a Phenderfyniad y Gweinidog

Mae cryfhau’r YEPF yn broses barhaus sy’n esblygu, sy’n cael ei chyflawni drwy gyfres o gamau gweithredu (fel yr amlinellir yn yr ymateb i Adran 1 y CRIA hwn). Mae hyn yn golygu nad oes angen cael penderfyniad Gweinidogol unigol i gryfhau’r YEPF, cyflwynwyd cyngor ar wahân a bydd yn parhau i gael ei gyflwyno wrth i ni symud drwy’r gwahanol gamau.

Mae Gweinidogion wedi cael eu hysbysu am ganfyddiadau’r ymgynghoriad a gwaith ymchwil cysylltiedig (y cyfeiriwyd atynt yn yr Asesiad hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant), a ddefnyddiwyd yn eu tro i lywio datblygiad y canllawiau newydd ar yr YEPF (yn cynnwys Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Trosolwg a Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Llawlyfr), a gyhoeddwyd ym Medi 2022.

Mae’r fersiwn derfynol o’r asesiad effaith hwn yn cael ei lunio ar ôl cyhoeddi’r canllawiau newydd ar yr YEPF sydd wedi pennu’r cyfeiriad strategol newydd ar gyfer yr YEPF. Mae’r gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i gryfhau’r YEPF naill ai yn eu camau cynnar neu heb ddechrau eto. Bydd cyngor gweinidogol pellach yn adlewyrchu’r Asesiad hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant ac asesiadau effaith eraill lle bo’n briodol.

Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc

Gofynnwyd am farn pobl ifanc fel rhan o’r ymgynghoriad ar yr YEPF, drwy grwpiau ffocws ac ymgynghoriad ar-lein, ac mae adroddiad yr ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi bellach. Fodd bynnag, nid yw’r YEPF yn frand y byddai pobl ifanc yn ei adnabod, hyd yn oed y rhai sy’n cael/sydd wedi cael cymorth ganddo. Mae’r YEPF yn ymwneud â nodi pobl ifanc sydd angen cymorth a darparu’r cymorth hwnnw, nid yw’n dibynnu ar bobl ifanc yn hunan-nodi a gofyn am gymorth eu hunain. Bwriedir y canllawiau ar yr YEPF ar gyfer rhanddeiliaid sy’n rhan o’r gwaith o’i ddarparu.

Wrth i ni symud ymlaen gyda chryfhau’r YEPF byddwn yn ystyried sut y gallwn gyfathrebu ymhellach â phobl ifanc am y camau rydym yn eu cymryd.

Monitro ac Adolygu

Mae’r gwerthusiad o’r Warant i Bobl Ifanc (YPG) yn 2023 a 2024 yn cynnwys yr YEPF hefyd. Yn dilyn cyhoeddi’r canllawiau ar YEPF ym Medi 2022 rydym am weld a yw’r cydgyfrifoldeb am ddarparu’r YEPF yn sicrhau mwy o ymdeimlad o gyd-atebolrwydd yn awr a hefyd a yw rhanddeiliaid yn deall yn awr sut mae’r YEPF a’r YPG yn cyd-fynd â’i gilydd

Byddwn yn comisiynu adolygiad o weithwyr blaen hefyd i gael gwell dealltwriaeth a gwella’r capasiti a’r gallu yn y system, ac ystyried cyfleoedd ar gyfer rhannu arfer da a rhwydweithio gan weithwyr blaen ar draws awdurdodau lleol a sefydliadau.

Yn ogystal, bydd yr YEPF yn rhan o waith ehangach gan Lywodraeth Cymru hefyd i fonitro’r cynnydd a wneir tuag at gyflawni’r garreg filltir genedlaethol o gael o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.

Yn dilyn adolygiad, bydd unrhyw ddiwygiadau sydd eu hangen i’r polisi hwn neu ei weithrediad yn cael eu cadarnhau.

Troednodiadau