Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Diverse Cymru i wneud gwaith ymchwil ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Nod y gwaith hwn yw ymchwilio i fecanweithiau i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, ac i wneud argymhellion ar gyfer deddfwriaeth, polisi, cyfarwyddyd, neu ddiwygiadau eraill i gyflawni'r amcan hwn. Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd Prifysgol Abertawe yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data ar gyfer yr ymchwil. Er hynny, bydd Prifysgol Abertawe yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir, ac yn tynnu enwau o'r data crai, cyn i’r data hynny gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill megis erthyglau cyfnodolion, blogiau neu ymatebion i ymgynghoriadau, ac mae’n bosibl y cyfeirir atynt mewn cynadleddau, seminarau academaidd neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill gan Brifysgol Abertawe/Prifysgol Bangor/Diverse Cymru.

Eich dewis chi yn llwyr yw cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn. Er hynny, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon ym Mhrifysgol Abertawe yw Simon Hoffman.

Cyfeiriad e-bost: s.hoffman@swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 513004

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Gofynnwyd i chi gael eich cyfweld fel rhan o'r ymchwil hon gan fod Prifysgol Abertawe yn awyddus i gasglu barn rhanddeiliaid proffesiynol sy'n cynrychioli eu sefydliadau cyflogwyr ar yr heriau o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a sut y gallai/dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau datganoledig i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Mae Prifysgol Abertawe wedi cael mynediad at eich manylion cyswllt drwy ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt ar-lein sydd ar gael i'r cyhoedd.

Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych heblaw am fideo o'r cyfweliad os ydych yn cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol, ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael eich atgoffa, atebwch yr e-bost sy'n eich gwahodd gan ofyn bod eich manylion yn cael eu dileu. Bydd Prifysgol Abertawe ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil.

Os byddwch yn dewis darparu data personol fel rhan o'r ymchwil byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu'ch hunaniaeth â'r ymatebion hynny. Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn, gan ddarparu data personol, sy’n gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei ddileu o'r data ymchwil.

Mae'n bosibl y bydd angen inni recordio cyfweliadau at ddibenion gweithredol. Byddwn yn egluro hyn wrthych cyn i'r cyfweliad ddechrau, a bydd gennych chi'r cyfle i ddweud wrthym os nad ydych chi'n fodlon i'r drafodaeth gael ei recordio. Os bydd cyfweliadau'n cael eu recordio, caiff data personol eu dileu yn ystod y broses o drawsgrifio . Bydd y deunydd sydd wedi ei recordio yn cael ei ddileu cyn gynted ag y bydd y broses wedi ei chwblhau. Os na fydd trafodaethau'n cael eu recordio, ni chaiff data personol eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig sy'n cael eu paratoi yn dilyn y cyfweliadau.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn yw ein gorchwyl gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn gyfan gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y prosiect hwn, er enghraifft, ar gyfer:

  • darparu gwell dealltwriaeth o gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
  • datblygu, cyflwyno, monitro a gwerthuso polisïau sy'n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol
  • gwneud argymhellion o ran deddfwriaeth, polisi, canllawiau, neu ddiwygiadau eraill

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Caiff yr wybodaeth bersonol a roddir i Brifysgol Abertawe ei storio bob amser ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cael mynediad at y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Prifysgol Abertawe yn defnyddio'r data hyn.

Mae gan Brifysgol Abertawe weithdrefnau ar waith i fynd i'r afael ag achosion lle mae yna amheuaeth o dorri rheolau diogelu data. Os oes yna amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Prifysgol Abertawe yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol, lle y bo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r gwaith ymchwil hwn yn cael eu cadw mewn fformat dienw. Ni fyddant yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth mewn atebion penagored a allai arwain at adnabod person yn cael ei dileu. Bydd Prifysgol Abertawe yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Prifysgol Abertawe yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a chaiff unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi’u dileu o’r ymatebion ymchwil eu dileu gan Brifysgol Abertawe dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Prifysgol Abertawe yn darparu fersiwn ddienw o’r data i Lywodraeth Cymru, na fydd yn cynnwys gwybodaeth y gellid eich adnabod ar ei sail.

Hawliau unigolion

O dan y GDPR mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon, sef hawliau i wneud y canlynol:

  • Cael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
  • Ei gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol);
  • Mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol); a
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), cysylltwch â:

Enw: Steven Macey
Cyfeiriad e-bost: Steven.Macey@llyw.cymru
Rhif ffôn: 03000 622253

Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru