Ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch wrth wraidd argymhellion polisi newydd.
Mae’r Gymraeg yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i bob un o gymunedau Cymru, ac ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd heddiw, cyhoeddodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg adroddiad cynhwysfawr sy’n argymell ymyriadau polisi strategol i atgyfnerthu’r Gymraeg mewn cymunedau lle mae canran uchel o'r boblogaeth yn siarad yr iaith. Mae dynodi 'ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch' yn ganolog i’r cynigion i warchod a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.
Mae'r Comisiwn yn gwneud 57 o argymhellion mewn sawl maes polisi allweddol, gan gynnwys:
- Dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’ i gydnabod cymunedau lle ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg, ac i sicrhau mwy o ystyriaeth i'r Gymraeg mewn datblygiadau polisi, y gallu i amrywio polisi, ac i gefnogi defnydd o’r Gymraeg yn effeithiol ar lefel gymunedol. Mae’r Comisiwn yn argymell dwy ffordd ar gyfer dynodi’r ardaloedd hyn, sef bod y Llywodraeth yn dynodi ardaloedd lle mae dros 40% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, a hefyd roi’r disgresiwn i awdurdodau lleol ddynodi ardaloedd penodol lle bo’n briodol;
- Mynd i'r afael â’r argyfwng tai o fewn cymunedau Cymraeg, gan eirioli dros ddatblygiadau tai sy’n seiliedig ar anghenion lleol a thros fentrau tai a arweinir gan y gymuned. Gelwir hefyd am sefydlu cronfa benthyciadau llog isel neu gynllun ecwiti er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol i brynu tir neu eiddo.
- Cefnogi modelau o ddatblygu cymunedol sy’n hybu mentrau cymunedol a chyd-berchnogaeth.
- Datblygu strategaethau cynllunio ieithyddol ar gyfer cymunedau sy’n wynebu shifft iaith.
Mae’r argymhellion eraill yn mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg, gan gynnwys datblygu cymunedol, gweithleoedd, yr economi, addysg a chydraddoldeb. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys dadansoddiad manwl o ganlyniadau Cyfrifiad 2021.
Sefydlwyd y Comisiwn gan Lywodraeth Cymru yn haf 2022 i ymateb i’r lleihad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad yr iaith, neu ble mae hyn wedi bod yn wir i tan yn gymharol ddiweddar.
Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks:
Mae’n fraint cyflwyno’r adroddiad i’r Llywodraeth, sy’n benllanw dwy flynedd o waith yn datblygu cynigion polisi o ran dyfodol cymunedau Cymraeg. Er mwyn bod yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i ni i gyd, mae’n rhaid gofalu am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol hefyd. Mae argymhellion y Comisiwn yn anelu at wneud hynny. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni sicrhau dyfodol bywiog a llewyrchus i gymunedau Cymraeg ledled y wlad.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
Roedd sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymru yn gam hanfodol yn ein hymrwymiad ni i gryfhau’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Comisiwn am ei waith a’i ymroddiad. Byddwn ni nawr yn ystyried y canfyddiadau a'r hargymhellion yn ofalus cyn ymateb i’r adroddiad.
Hefyd heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ail gam y Comisiwn, sef edrych ar sefyllfa’r Gymraeg o fewn cymunedau eraill Cymru a thu hwnt.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
Y Gymraeg yw ein hiaith genedlaethol ac mae’n perthyn i ni i gyd. Rwyf wedi gofyn i’r Comisiwn edrych ar y defnydd o’r Gymraeg yn holl ardaloedd Cymru a thu hwnt.
Rydyn ni eisiau i fwy o bobl ddefnyddio mwy ar y Gymraeg bob dydd ac i wneud hynny mae angen mwy o gyfleoedd i’w defnyddio hi mewn bywyd bob dydd ac yn gymdeithasol. Alla i ddim meddwl am unman gwell i lansio cam nesaf gwaith y Comisiwn nag yma ym Mhontypridd, tref sydd â sîn gymdeithasol Gymraeg ffyniannus, diolch i weledigaeth ac ymroddiad criw o wirfoddolwyr gweithgar.
Bydd ail gam y Comisiwn hefyd yn cael ei gadeirio gan Dr Simon Brooks, a bydd ei adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi yn haf 2026.