Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Prif bwyntiau

Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £115 miliwn ar 31 Mawrth 2024, sy'n gyfwerth â £253 y disgybl. Gostyngodd lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn £94 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £70 miliwn.

Yn ystod 2020-21 a 2021-22, cynyddodd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn sylweddol oherwydd effaith pandemig coronafeirws (COVID-19) a chyllid craidd ychwanegol a gyhoeddwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Yn ystod 22-23 a 23-24, gostyngodd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn sylweddol yn rhannol oherwydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â chwyddiant uchel, cefnogi dysgwyr trwy effeithiau parhaus y pandemig a chostau anghenion dysgu ychwanegol cynyddol.

Gostyngodd cronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd £46 miliwn yn y flwyddyn ddiweddaraf a gostyngodd cronfeydd wrth gefn ysgolion uwchradd £37 miliwn.

Roedd gan Ynys Môn y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £602 , a Sir Fynwy oedd â'r isaf, gyda diffyg o £14 y disgybl.

Roedd gan 243 o ysgolion cynradd, 46 o ysgolion uwchradd, 10 o ysgolion arbennig, 1 ysgol feithrin a 9 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £40 miliwn. Roedd gan y 1,159 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn positif; roedd gan 357 ohonynt gronfeydd wrth gefn gwerth mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Anthony Newby
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image