Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r cronfeydd ariannol wrth gefn a ddelir gan ysgolion ar 31 Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £46 miliwn ar 31 Mawrth 2019, sy'n gyfwerth â £102 y disgybl. O'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, roedd cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn wedi gostwng 7.9%. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £47 miliwn.

Caiff y gostyngiad cyffredinol yn y cronfeydd wrth gefn ei llywio gan ysgolion uwchradd lle parhaodd cronfeydd wrth gefn i ostwng a bellach maent mewn diffyg o £4.4 miliwn.   Mewn cyfanswm, roedd gostyngiad o £4.0 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn.

Roedd gan Abertawe y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £251, a Sir Fynwy yr isaf, gyda diffyg o £22 y disgybl.

Ers y dirywiad economaidd a'r mesurau cyni a gafodd eu cyflwyno yn sgil hynny, roedd gan nifer cynyddol o ysgolion gronfeydd wrth gefn negyddol neu lefel is o gronfeydd wrth gefn. Mae gan 10% o ysgolion gronfeydd wrth gefn gwerth dros 10% o gyfanswm y gwariant, hanner y ganran ddegawd yn ôl.

Roedd gan 151 o ysgolion cynradd, 77 o ysgolion uwchradd, 8 o ysgolion arbennig, 1 ysgol feithrin a 10 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £29 miliwn. Roedd gan y 1,287 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn positif; roedd gan 150 ohonynt gronfeydd wrth gefn gwerth mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.

Adroddiadau

Cronfeydd wrth gefn ysgolion, ar 31 Mawrth 2019 (Diwygiedig) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 478 KB

PDF
Saesneg yn unig
478 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.