Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r cronfeydd ariannol wrth gefn a ddelir gan ysgolion ar 31 Mawrth 2018.

Prif bwyntiau

Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £50 miliwn ar 31 Mawrth 2018, sy'n gyfwerth â £111 y disgybl. O'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, roedd cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn wedi cynyddu 10%. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £49 miliwn neu 97% o'r cyfanswm.

Y cynnydd mewn cronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi ysgogi'r cynnydd yng nghyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn. Bu gostyngiad yn lefel cronfeydd wrth gefn ysgolion uwchradd, fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diweddar, a bellach mae diffyg (o £2.4 miliwn) am y tro cyntaf ers i'r gyfres ddechrau. Mae'r ffigurau hyn wedi'u cyfuno yn dangos mai £4.4 miliwn yw cyfanswm y cynnydd mewn cronfeydd wrth gefn.

Roedd gan Wynedd y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £244, a Phowys yr isaf, gyda diffyg o £49 y disgybl.

Ers y dirywiad economaidd a'r mesurau cyni a gafodd eu cyflwyno yn sgil hynny, roedd gan nifer cynyddol o ysgolion gronfeydd wrth gefn negyddol neu lefel is o gronfeydd wrth gefn. Gwelwyd hefyd ostyngiad yn nifer yr ysgolion â chronfeydd wrth gefn gwerth dros 10% o gyfanswm y gwariant.

Roedd gan 146 o ysgolion cynradd, 79 o ysgolion uwchradd, 8 o ysgolion arbennig, 1 ysgol feithrin a 7 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £25 miliwn. Roedd gan y 1,328 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn positif; roedd gan 171 ohonynt gronfeydd wrth gefn gwerth mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.

Adroddiadau

Cronfeydd wrth gefn ysgolion, ar 31 Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 556 KB

PDF
Saesneg yn unig
556 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.