Neidio i'r prif gynnwy

Arfer gorau ar gyfer prosiectau a ariennir gan yr UE wrth ymgysylltu a chyfathrebu â phobl anabl

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y Model Cymdeithasol o Anabledd

Mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn gwahaniaethu'n bwysig rhwng 'nam' ac 'anabledd’. Mae'n cydnabod bod pobl â namau yn cael eu hanablu gan rwystrau sy'n bodoli'n gyffredin mewn cymdeithas. Mae'r rhwystrau hyn yn cynnwys agweddau negyddol, a rhwystrau ffisegol a sefydliadol, a all atal pobl anabl rhag cael eu cynnwys a chymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd.

Nam

Yn ôl y model cymdeithasol o anabledd, nam yw'r hyn y cyfeiriwyd ato'n hanesyddol fel 'anabledd' neu gyflwr iechyd. I lawer o bobl anabl (ond nid pob un), mae eu nam yn rhan sylweddol o'u bywyd a gall fod yn rhan o'u hunaniaeth bersonol. I rai pobl, efallai y bydd eu nam yn gofyn am reolaeth sylweddol ac efallai y bydd angen cymorth parhaus arnynt. Mae profiad o nam yn bersonol. Mae profiad pawb yn wahanol. Mae'r profiad hwnnw bob amser yn ddilys a phob amser yn bwysig. Mae'n bwysig cofio na fydd gan bawb rydych chi'n eu cyfarfod nam gweladwy neu gorfforol, fel defnyddiwr cadair olwyn. Bydd gan rai namau nad ydynt yn weladwy megis problemau synhwyraidd neu broblemau gydag iechyd meddwl.

Anabledd

Anabledd ar y llaw arall yw'r anghydraddoldeb, yr anfantais, y dirymuso neu’r gwahaniaethu sy’n gallu effeithio ar bobl â namau o ganlyniad i rwystrau i fynediad a chynhwysiant. Er enghraifft, mae grisiau yn rhwystr i ddefnyddiwr cadair olwyn; byddai darparu lifft yn dileu'r rhwystr hwnnw. Ambell i enghraifft arall o rwystrau yw diffyg Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu system ddolen, dim gwybodaeth mewn braille, print bras neu ar ffurf sain, diffyg cyfleoedd gweithio hyblyg a rhan-amser, diffyg gofal cymdeithasol priodol neu ddiffyg dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl neu anhwylder ar y sbectrwm awtistig. Felly, mae anabledd yn rhywbeth sy'n effeithio ar bobl â nam ond sydd ar wahân i'r nam ei hun. Mae anabledd yn rhywbeth sy'n anablu rhywun sydd â nam. Gellir dileu rhwystrau. Os byddwch yn cael gwared ar y rhwystr yna byddwch yn cael gwared ar yr anabledd.

Datblygwyd y model cymdeithasol gan bobl anabl ac fe'i mabwysiadwyd yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn 2002 a chan Raglenni ESF ac ERDF 2014-20. Nid yw'r Model Cymdeithasol yn gwadu pwysigrwydd nam, addasiadau priodol nac, yn wir, drafodaethau ar y profiadau hyn.

Diffiniad yr ESF o anabledd (Canllawiau WEFO): Mae person yn anabl os yw’n ystyried ei hun yn berson anabl oherwydd rhwystrau (agweddol, amgylcheddol a sefydliadol) sy'n ei atal rhag cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae'r dull hanesyddol o ymdrin ag anabledd yn y DU wedi'i seilio ar y Model Meddygol o Anabledd (lle gwelir mai nam person yw'r peth sy'n ei anablu). Mae hyn yn golygu bod mabwysiadu'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn gofyn am newid sylfaenol yn ein hagwedd, ein diwylliant a sut rydym yn gweithio. Drwy fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar ddileu rhwystrau, a gweithio gyda phobl anabl i ganfod atebion, gallwn greu polisi mwy cynhwysol a gwasanaethau mwy hygyrch i bawb. 

Dileu rhwystrau i gyflogaeth

Mae person sydd â nam symudedd sy'n defnyddio cadair olwyn yn cael ei anablu gan adeilad heb lifftiau, rampiau na thoiledau hygyrch.

Gall rhywun sydd â nam egni fel M.E. gael ei anablu gan benderfyniadau i gynnal cyfarfodydd na allant gymryd rhan ynddynt, er enghraifft oherwydd lleoliad neu hyd cyfarfod

Mae fideo byr gan Lywodraeth Cymru yn esbonio'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn y gweithle. Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ynglŷn â’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar gael ar wefan Anabledd Cymru.

Diffiniadau o namau

Mae Rhaglenni ESF 2014-20 yn defnyddio diffiniad o anabledd y model cymdeithasol o anabledd. Cafodd y term Cyflwr Iechyd Sy'n Cyfyngu ar Waith ei gynnwys hefyd yn y Rhaglenni i ganiatáu opsiynau ar gyfer casglu data gan y sefydliadau hynny sy'n defnyddio'r model meddygol. Rydym bellach yn fwy ymwybodol o’r goblygiadau a’r cysylltiadau negyddol gyda'r term ar draws y Rhaglenni.

Mae iaith yn chwarae rhan bwysig gan ein bod yn gwybod ei bod yn llywio meddyliau sy'n arwain at ymddygiad. Mae'r geiriau a ddefnyddiwn i ddisgrifio gwahanol grwpiau o bobl yn cael effaith ar y ffordd y mae pobl yn cael eu gweld a'u trin gan eraill, ac mae ganddynt y potensial i frifo teimladau pobl yn anfwriadol yn aml.

Oherwydd bod y Rhaglenni ESF presennol yn tynnu at eu terfyn, ni fyddwn yn gwneud unrhyw addasiadau ffurfiol. Fodd bynnag, rydym yn annog prosiectau i feddwl am yr iaith y maent yn ei defnyddio wrth ymgysylltu â chyfranogwyr i benderfynu ar gymhwysedd a chymorth. Dylent sicrhau bod iaith yn gynhwysol ac yn flaengar gyda thrafodaethau'n canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach na'r rhwystrau canfyddedig i gyflogaeth oherwydd nam/au unigolyn.

Rhwystrau cymdeithasol a chyflogaeth y mae pobl anabl yn gallu eu hwynebu ac yn eu hwynebu

Gellir categoreiddio'r mwyafrif helaeth o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu i un o'r meysydd canlynol yn fras.

Rhwystrau agweddol

Gall agweddau pobl unigol helpu i greu'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu. Gall y penderfyniadau a wnewch, yr iaith a ddefnyddiwch, a'ch ymddygiad naill ai greu neu ddileu rhwystrau. Gall rhwystrau agweddol effeithio ar bob agwedd ar gyfranogiad pobl anabl mewn cymdeithas. Er enghraifft, gall gofyn i gyfranogwr rhaglen a yw’n 'addas i weithio' fod yn ddiraddiol i berson anabl ac felly efallai na fydd am ddatgelu ei nam gan atal cymorth priodol rhag cael ei gyflwyno. Er bod rhai pobl anabl yn gallu gweithio, efallai y bydd angen gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer y mwyafrif er mwyn iddynt allu cael gwaith neu barhau i weithio. 

Yn ogystal, gall camau gweithredu sydd (hyd yn oed yn anfwriadol) yn ynysu neu’n eithrio pobl anabl achosi effaith andwyol sylweddol ar eu hiechyd meddwl a'u lles personol.

Rhwystrau sefydliadol

Gall polisïau a gweithdrefnau atal pobl anabl rhag cymryd rhan lawn mewn addysg, y gweithle a'r gymuned ehangach, p'un a yw hynny'n fwriad ganddynt ai peidio.

Gall enghreifftiau o bolisïau sy'n cefnogi cyfranogiad llawn pobl anabl gynnwys polisïau ar addasiadau rhesymol a chyfleoedd ar gyfer addysg neu gyflogaeth ran-amser a hyblyg. 

Gall diffyg polisïau o'r fath, neu'r methiant i'w gweithredu, achosi rhwystrau sylweddol i gydraddoldeb.

Rhwystrau cyfathrebu

Mae llawer o fathau o rwystrau cyfathrebu. Er enghraifft, defnyddio iaith anhygyrch, methu â darparu dehongliad iaith arwyddion neu fformatau amgen (gan gynnwys BSL ar fideos) neu osod arwyddion ar lefel sy'n rhy uchel i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Mae rhwystrau cyfathrebu yn effeithio ar bob agwedd ar fywydau pobl anabl. Er enghraifft, os na roddir testun i gyd-fynd â chyhoeddiadau am newidiadau platfform i berson Byddar, yna gallai’r person Byddar golli ei drên, sy'n amharu ar ei allu i deithio, gan gyfyngu ar ei gydraddoldeb a'i allu (er enghraifft) i gyrraedd yn brydlon ar gyfer addysg neu gyflogaeth. 

Rhwystrau amgylcheddol

Mae'r enghreifftiau mwy amlwg o rwystrau amgylcheddol yn cynnwys methu â darparu mynediad llawn a phriodol i adeilad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu fynediad at wybodaeth sain am unrhyw wasanaethau neu fynediad intercom i adeiladau ar gyfer unigolion â nam ar eu clyw. Mae enghreifftiau o rwystrau llai amlwg yn cynnwys peidio â meddwl sut y byddai pobl anabl yn cyrraedd lleoliad ar gyfer cyfarfod, cynllunio ystafelloedd heb fawr o gyferbyniad sy’n ei gwneud yn anodd i bobl ddall neu rannol ddall neu sydd â syndrom Usher gymryd rhan lawn mewn unrhyw weithgareddau yn yr ystafelloedd hynny, neu ddiffyg ymwybyddiaeth o’r angen i leihau lefelau golau neu sŵn ar gyfer rhai pobl anabl

Model Cymdeithasol o Anabledd – Iaith arfer da

Mae'n bwysig cofio bod gan bobl anabl yr hawl i ddewis yr iaith a ddefnyddir i'w disgrifio.

Sut i gyfeirio at bobl anabl gyda'i gilydd

Beth i'w wneud a pham

Cyfeiriwch at "bobl/staff/cydweithwyr anabl”.

Mae'r rhai sy'n deall y model cymdeithasol yn cydnabod ac yn derbyn y term anabl, oherwydd bod cymdeithas neu’r gweithle (weithiau) yn ein gwneud yn anabl. 

Bydd y rhai nad ydynt (eto) yn deall y model cymdeithasol yn deall hyn i olygu pobl â namau (er enghraifft yr un grŵp o bobl).

Beth i beidio â'i wneud a pham

Peidiwch â chyfeirio at "bobl ag anableddau neu / pobl sydd ag anableddau”.

Mae hyn yn atgyfnerthu’r gwall yn y model meddygol sy’n awgrymu mai eu namau sy’n gwneud pobl yn anabl.

Sut i siarad am anabledd

Beth i'w wneud a pham

Gwahaniaethwch rhwng nam (yr hyn sy’n wahanol am y person) a’r anabledd (yr hyn y mae’r gymdeithas/yr amgylchedd/polisi/arfer yn ei wneud i berson sydd â nam sy’n rhoi anfantais iddynt).

Mae’n ddefnyddiol cyfeirio at nam gan ddweud ‘pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain’ gan ei fod yn cynnwys pobl nad ydynt o reidrwydd yn gyfarwydd â’r term nam.

Mae angen manteisio ar y cyfleoedd i herio’r model meddygol cyfarwydd a di-fudd.

Beth i beidio â'i wneud a pham

Peidiwch â thrin nam ac anabledd yn gyfystyr.

Mae hyn yn atgyfnerthu'r model meddygol.

Sut i siarad am bobl nad ydynt yn anabl

Beth i'w wneud a pham

Defnyddiwch y term ‘pobl nad ydynt yn anabl’.

Mae’n ffeithiol ac nid yw’n rhoi barn am werth pobl anabl.

Beth i beidio â'i wneud a pham

Peidiwch â chyfeirio at bobl sy'n "gorfforol abl”

Mae hyn yn atgyfnerthu’r model meddygol drwy gyfleu bod “rhywbeth yn bod” ar bobl anabl a’u bod “ddim yn abl”.

Sut i gyfeirio at nam ar lefel unigolyn (os oes angen gwneud hynny)

Beth i'w wneud a pham

Mewn nifer o achosion bydd yn ddigonol ac yn briodol cyfeirio at natur y nam e.e. dall, nam ar y golwg, Byddar, nam ar y clyw, nam symudedd, defnyddiwr cadair olwyn, nam egni, nam gwybyddol, anhawster dysgu, cyflwr iechyd meddwl, awtistig.

Mewn rhai achosion, gall fod yn briodol bod yn fwy penodol a chyfeirio at gyflwr penodol e.e. MS, dyslecsia, epilepsi neu iselder.

Wrth ddelio ag unigolion, yn amlwg, dylech barchu’r ffordd y maent yn eu disgrifio eu hunain (bydd rhai pobl sydd â namau yn defnyddio iaith y model meddygol, gan weld eu namau fel “anabledd”, gan mai dyna’r ffordd y mae’r gymdeithas yn gwneud i bobl feddwl).

Beth i beidio â'i wneud a pham

Peidiwch â chyfeirio at namau fel anableddau (anabledd gweledol, anabledd egni ac ati).

Mae hyn yn parhau i gymylu’r gwahaniaeth rhwng nam ac anabledd.

Taflen ffeithiau iaith arwyddion Prydain ar derminoleg dderbyniol ac annerbyniol (Gweler Atodiad A)

Peidiwch â chyfeirio at “anableddau anweladwy” (model meddygol) – mae’r term “nam anweladwy” yn cael ei ffafrio er mwyn gwneud y pwynt nad yw’r nam bob amser yn weladwy.

Enghreifftiau o arfer da mewn perthynas â’r geiriad ar ffurflenni cofrestru

Enghreifftiau o gwestiynau da i'w gofyn ar ffurflenni cofrestru

A ydych yn ystyried eich hun yn berson anabl oherwydd y rhwystrau sy'n eich atal rhag cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd? (Gall y rhwystrau hyn fod oherwydd agwedd pobl eraill, yr amgylchedd ffisegol neu rwystrau sefydliadol)

Bocsys ticio YDW neu NAC YDW

Ydych chi'n ystyried bod gennych nam neu gyflwr iechyd neu anhawster dysgu (ticiwch y blychau priodol os gwelwch yn dda)

  • dim anabledd hysbys.
  • 2 neu fwy o namau neu gyflyrau meddygol gwanychol.
  • anhawster dysgu penodol fel dyslecsia, dyspracsia neu AD(H)D.
  • nam megis syndrom Asperger neu Awtistiaeth.
  • salwch neu gyflwr iechyd hirsefydlog fel canser, HIV, diabetes, clefyd cronig y galon, neu epilepsi.
  • cyflwr iechyd meddwl, fel iselder, sgitsoffrenia, anhwylder gorbryder.
  • nam corfforol neu broblemau symudedd, megis anhawster defnyddio breichiau neu ddefnyddio cadair olwyn neu ffyn baglau.
  • byddar neu nam ar y clyw ac yn cael cymorth cymhorthion neu ddyfeisiau clyw. Dallineb neu nam gweledol difrifol nad yw'n cael ei gywiro gan sbectol.
  • camddefnyddio alcohol neu sylweddau.

Cwestiynau llai defnyddiol i'w gofyn

  • Ydych chi'n anabl?
  • Oes gennych chi anabledd?
  • Oes gennych chi gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eich gwaith?
  • Ydych chi'n ffit i weithio?

Trafodaethau gyda Chyfranogwyr / Cyflogwyr / Cyfleoedd Gwirfoddoli a Phrofiad Gwaith

Dylech drafod adran nam / cyflwr iechyd y ffurflen gofrestru gyda'r cyfranogwr. Diben hyn yw ei sicrhau o'r angen am y data hwn, a'r defnydd ohono, a allai alluogi casglu data mwy cywir. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'r amgylchedd lle’r ydych yn gofyn i'r cyfranogwr am y wybodaeth hon. A yw’n ffafriol iddo ddatgelu anghenion cymorth? A fydd yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ei gefnogi os bydd yn datgelu nam?

Dylech esbonio’n glir mai dim ond at ddefnydd WEFO y darperir y data.  Hefyd, gyda chaniatâd ymlaen llaw y cyfranogwr, gellid defnyddio’r data i lywio trafodaethau posibl gyda chyflogwyr a allai fod yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith gyda'r nod o sicrhau y gellir trafod unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen a'u bod ar waith i ganiatáu i'r cyfranogwr ymgysylltu'n llawn. Dylai'r pwyslais fod ar sut y gallwn gefnogi'r unigolyn yn hytrach na beth yw'r nam.

Gan ystyried y drafodaeth gyda'r cyfranogwr (paragraff uchod), rhaid i chi gael caniatâd y cyfranogwr a’r gofynion penodol y mae am i chi eu harchwilio gydag unrhyw gyflogwr, darparwr profiad gwaith neu ddarparwr cyfle gwirfoddoli. Dylech hefyd ddarparu gwybodaeth i unrhyw gyflogwr, darparwyr profiad gwaith neu ddarparwr cyfle gwirfoddoli a all ei gynorthwyo i wneud yr addasiadau angenrheidiol e.e. cyllid Mynediad i Waith.

Dim ond un o bob tri gweithiwr yn yr UE y mae eu gweithgareddau dyddiol wedi’u cyfyngu’n ddifrifol neu rywfaint gan afiechyd cronig yn adrodd bod eu gweithle wedi’i addasu i ddarparu ar gyfer eu problem iechyd (ar europa.eu).

Canllawiau ar gyflogi pobl anabl:

Diffiniad o Anabledd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010

Diffiniad o anabledd:  Diffinnir person anabl fel rhywun sydd â nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith 'sylweddol' a 'hirdymor' ar ei allu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol (Deddf Cydraddoldeb 2010).

Gall anabl hefyd gynnwys namau a chyflyrau iechyd sydd ond yn dod i'r amlwg yn y gweithle. Enghraifft bosibl o hyn yw eich bod wedi dechrau gweithio ac wedi canfod bod sgriniau cyfrifiadurol yn effeithio ar eich golwg ond nad oeddech wedi sylwi ar y broblem hon cyn i chi ddechrau gweithio.

Atodiad A: Diffiniadau

Nod y daflen ffeithiau hon yw egluro sut i gyfeirio at bobl Fyddar neu bobl sydd wedi colli eu clyw.

Yn aml, mae dryswch ynglŷn â thermau priodol gan fod gan lawer o weithwyr proffesiynol labeli gwahanol ar gyfer pobl fyddar a phobl sydd wedi colli clyw. Mae rhai termau hŷn hefyd sydd wedi mynd allan o ddefnydd, sy'n anghywir, neu sy'n cael eu hystyried yn sarhaus gan rai.

Rydym yn parchu hawliau pawb i adnabod eu hunain yn y ffyrdd sydd fwyaf cyfforddus iddynt. Felly, mae'r ddogfen hon yn gweithredu fel canllaw yn unig, ac nid yw'n disodli hawliau unigolion i adnabod eu hunain fel y maent yn ei ddewis.

Byddar

Rydym yn defnyddio "Byddar" i ddisgrifio ein hunain; pobl sydd â chysylltiad diwylliannol cryf â phobl Fyddar eraill, aelodau o'r gymuned Fyddar sydd ag iaith arwyddion fel eu hiaith gyntaf neu eu hiaith o ddewis. Yn y DU, yr ieithoedd hyn yw Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu Iaith Arwyddion Iwerddon (ISL). Rydym yn tueddu i beidio â disgrifio ein hunain yn nhermau anabledd neu iaith feddygol, ond yn hytrach defnyddio model ieithyddol diwylliannol - rydym yn rhan o leiafrif diwylliannol ac ieithyddol o ddefnyddwyr iaith arwyddion.

byddar

Defnyddir y gair 'byddar' heb briflythyren ‘B’ yn aml i ddisgrifio pobl fyddar nad ydynt yn defnyddio iaith arwyddion, neu'r grŵp ehangach o bobl Fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw.

Trwm eu clyw

Yn aml, mae pobl sy'n adnabod eu hunain fel rhai trwm eu clyw lefelau uchel o glyw gweddilliol, ond efallai y bydd angen sain uwch neu eglurder ychwanegol, neu addasiadau eraill i glywed yn iawn.

Pobl sydd wedi colli eu clyw

Dyma derm a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio pobl sydd wedi colli eu clyw'n sydyn. Gall hyn ddigwydd ar ôl salwch neu anaf. Weithiau, mae pobl o fewn y grŵp hwn yn ddweud eu bod wedi cael "colled clyw”.

Yn 2013, cytunodd Ffederasiwn y Byd y Byddar a Ffederasiwn Rhyngwladol Pobl Trwm eu Clyw i gydnabod y termau "byddar" a "thrwm eu clyw" yn unig yn eu terminoleg swyddogol. Maent yn nodi nad yw 'nam ar y clyw' yn derm priodol, ac na ddylid grwpio unigolion byddar a thrwm eu clyw o dan yr un categori hwn.

Termau meddygol

Caiff byddardod ei fesur mewn cyd-destunau meddygol ar raddfa. Efallai eich bod wedi nodi bod unigolion yn cael eu disgrifio fel unigolion â byddardod ysgafn, cymedrol, difrifol neu ddwys.

Er bod y termau hyn yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun meddygol, nid ydym yn defnyddio'r iaith hon mewn cyd-destunau eraill, gan ein bod yn canolbwyntio ar fodel hawliau dynol o fyddardod, yn hytrach na'r model meddygol o fyddardod. Mae hyn yn golygu ein bod yn defnyddio geiriau sy’n canolbwyntio ar unigolyn a'i hawliau, a'i rhwystrau i fynediad, yn hytrach nag ar y broblem feddygol.

Iaith dramgwyddus

Dyma rai enghreifftiau o rai termau hen ffasiwn, sy'n aml yn cael eu hystyried yn sarhaus, a rhai dewisiadau eraill y gallwch eu defnyddio:

Term

Amgen

mud a byddar

Byddar

Defnyddiwr iaith arwyddion byddar

Arwyddwr iaith arwyddion byddar

byddar heb leferydd

Byddar

Defnyddiwr iaith arwyddion byddar

Arwyddwr iaith arwyddion byddar

“y byddar”

pobl fyddar
 

pobl Fyddar
Dioddef o fyddardod

byddar

Yn gaeth mewn byd o ddistawrwydd

byddar